Pleser yw cael bod yng nghwmni aelodau Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd bob amser.
Mae’n nhw‘n fywiog, yn llawn afiaith, ac yn mwynhau ysgrifennu – mae hynny’n amlwg o ddarllen eu gwaith. O le mae’n nhw’n cael eu syniadau? O le daw’r eirfa gaboledig yma, oddiwrth blant mor ifanc? Mae’n amlwg fod chwarae â geiria yn dod yn naturiol, yn rhoi pleser ac yn waith hawdd iddyn nhw! Mae ganddyn nhw dalentau di bendraw, maen nhw’n ein helpu ni i feddwl am bethau o’r newydd, mae’n nhw’n codi cwestiynnau ac yn dod o hyd i atebion, i gyd ar yr un pryd.
Mae’n bwysig ein bod ni’n gwarchod y talentau bach ifanc yma, yn eu meithrin , ac yn eu annog i gario mlaen i greu rhywsut, rhywfodd. A dyna‘n union rôl ein Sgwadiau ‘Sgwennu – hebddyn nhw, ni wnaiff y plant ma sylweddloli fod ysgrifennu’n llesol, yn fuddiol iddyn nhw eu hunain ac i bobl eraill, ac yn fwy na dim, yn hwyl! Boed i’r Sgwadiau Sgwennu barhau!
Dyma ychydig o waith y sgwadwyr yn dilyn sesiwn gyda’r awdur Haf Llewelyn: