Sgwad ‘Sgwennu Cyntaf Tŷ Newydd
Mer 25 Medi 2019 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Croesawyd 17 o bobl ifainc brwdfrydig i Sgwad ‘Sgwennu genedlaethol newydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ddydd Sul 22 Medi o dan arweiniad Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen. Daeth ambell un ychydig yn bryderus ond roeddent oll yn llawn gigls erbyn y prynhawn. Roedd Gruffudd yn eiddgar i ysbrydoli’r plant ac i ‘fynd a’r feiro ’na am dro…’ Cawsant gyfle i ysgrifennu am yr hyn a oedd yn gwneud iddynt grio yn bump oed, pa berson diddorol y gwnaethant gyfarfod ddoe a gwrando’n astud ar Gruff yn darllen cerdd hynod deimladwy ‘Timothy Winters’ gan Charles Causley.

 

Roedd llinellau cofiadwy yn y gerdd yn cynnwys:

“Ears like bombs and teeth like splinters:

A blitz of a boy is Timothy Winters.

His belly is white, his neck is dark

And his hair is an exclamation mark.”

Yn sicr, gadawodd y gerdd yma ddylanwad enfawr ar y plant, ac roeddent yn llawn ysbrydoliaeth i ysgrifennu mwy.

 

Dyma gerdd gan un o’r awduron ifanc, Magi Morris Jones:

Mai’n wyllt ac o’i cho’

Mae’n rhedeg ac eistedd

Yr Hogan orau yn y fro.

Magi Morris Jones

Mai’n dda am ddawnsio

Ac unrhyw bêl wneith hi ei chicio

 

Magi Morris Jones

Mae’n wyllt ac o’i cho’

Mae’n ffrind gora’ i Shona

Mae’n wir, hi yw’r gora’

 

Dyma gerdd gan un o’r awduron eraill, Ella Poole:

Cofio

Dwi’n cofio mynd i dre

Gyda dim syniad i neud be’.

Dwi’n cofio cwrdd â ffrindiau

A rheina gyda trowsusa’ lawr at eu gliniau.

 

Dwi’n cofio mynd i’r siop

A fy ffrind yn prynu 40 lolipop.

Dwi’n cofio mynd ar drên i Chwilog, ac yna dod ‘nôl.

Yna roedd mam fy ffrind ar y ffôn

‘Wyt ti’n gw’bod lle mai ’di mynd.

Dwi’n cofio ffonio nôl

Ac mae hi adra yn ei hôl.

 

Dyma a lwyddodd Iolo Brown o Hen Golwyn ei greu yn ystod y sesiwn:

 

Problemau

Syllodd ar y môr

Wrth feddwl i’w hun

Ble ar y ddaear

Mae mab y dyn?

 

Newid hinsawdd

Yn dynn ar ein sodlau

A blwmin Brexit

Yn achos o ffrae

 

Hiliaeth cas

Yn trafaelio’r byd

A ni sydd

Yn lladd y byd.

 

Anifeiliaid yn marw,

Cael eu cadw mewn caej

Ond beth am farwolaeth

Yr iaith Gymraeg?