I gyd-fynd â thaith cynhyrchiad Hollti Theatr Genedlaethol Cymru, cynhaliwyd cwrs undydd yn edrych ar y grefft o greu sgript gair am air yn Nhŷ Newydd ar ddydd Sadwrn 30 Medi. Yn seiliedig ar y ddrama Hollti, roedd y gweithdy yn canolbwyntio ar y gwahanol gamau o fewn y broses greadigol o lunio sgript gair am air, o’r cyfweliadau cychwynnol i’r trawsysgrifio i strwythuro cynhyrchiad gafaelgar. Un a fynychodd y cwrs oedd Sara Llwyd, aelod o Sgwad Sgwennu Gwynedd.
Dyma argraffiadau Sara am ei chwrs agored cyntaf yn Nhŷ Newydd:
Er fy mod i wedi hen arfer mynd i weithdai sgwennu fel aelod o sgwad sgwennu Gwynedd roedd y cwrs yma yn gwrs hollol wahanol oedd yn mynd yn ddyfnach i mewn i’r arddull o ysgrifennu drama gair am air ac mae’r cwrs wedi fy ysbrydoli i ddechrau sgwennu drama fy hun ar gyfer fy nghwrs drama yn yr ysgol.
Roeddwn ni’n eithaf nerfus i ddechrau. Doeddwn i erioed wedi mynd ar gwrs mor heriol ac roeddwn yn poeni braidd na fyddwn ddigon profiadol. Er hyn yn syth ar ôl cyrraedd cafodd fy ofnau eu hanghofio. Roedd pawb mor gyfeillgar a chroesawus a doedd y ffaith mai dim ond y trefnydd Gwen Lasarus oeddwn yn adnabod ddim yn broblem gan fod pawb oedd ar y cwrs hefyd yno ar eu pen eu hunain ac ar ôl paned, bisged a sgwrs roeddwn yn teimlo yn hollol gyfforddus ac yn suddo i mewn i’r soffa gartrefol.
Dechreuodd y cwrs drwy ddod i adnabod pawb. Dwi’n gwybod fod pethau fel yma yn aml yn gallu bod yn hynod anghyfforddus ond doedd hwn ddim fel yna o gwbl. Dywedodd pawb pam eu bod wedi dod ar y cwrs a trwy wneud hyn sylwais nad oedd pawb ar y cwrs yn sgwennwyr dramâu proffesiynol. Er bod rhai yn broffesiynol yn y maes roedd rhai fel fi eisiau cael gafael ar ddramâu ac eraill eisiau atgyfodi dawn ysgrifennu dramâu nad oeddent wedi’ ddefnyddio ers blynyddoedd. Roedd yr ystod oedran ar y cwrs yn syfrdanol o bobl wedi ymddeol yn edrych am ddechrau i’w campwaith nesaf i bobl ifanc yn yr ysgol fel fi oedd yno i ddechrau eu taith fel ysgrifenwyr. Mae cyrsiau Tŷ Newydd wir yn addas i unrhyw oedran a sgil.
Wrth i’r bora fynd yn ei flaen cefais agoriad llygaid i mewn i sut yn union i fynd ati i ysgrifennu drama gair am air ac roedd y dasg cyn cinio o ysgrifennu sgript mewn iaith lafar rhwng dau gymeriad mewn arosfan bws o fewn 10 munud yn her wnes i fwynhau yn fawr iawn. Ar ôl cinio bendigedig a chael gwerthfawrogi ychydig mwy ar brydferthwch yr adeilad a’r lleoliad aethom ymlaen i addasu a datblygu ein sgriptiau byrion. Roedd clywed ffrind yn darllen fy sgript yn uchel wir yn gymorth i glywed ar mor naturiol oedd ein sgriptiau i’r glust. Wedi hynny cawsom enghreifftiau o gyfweliadau gair am air ac mi wnaeth hyn wneud i ni wir sylwi pa mor wahanol yw iaith lafar pobl a faint mae’r ffordd mae person yn siarad yn dweud am ei gymeriad. Mi wnaethom wedyn gyfweld pobl am bwnc o’n dewis ac wedi cael recordiad o bob cyfweliad roedd gen i sylfaen gadarn i ddechrau ysgrifennu fy sgript gair am air fy hun.
Roedd y diwrnod yn un wnes i ei fwynhau yn arw ac mae wedi newid a datblygu’r ffordd y byddaf yn mynd ati i ysgrifennu sgript ac rwyf yn argymell cyrsiau Tŷ Newydd i unrhyw un a diddordeb mewn ysgrifennu.
Am ragor o wybodaeth am Sgwad Sgwennu Gwynedd cliciwch yma, neu am ragor o wybodaeth am gyrsiau undydd Tŷ Newydd cliciwch yma.