Mae Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru yn galluogi awduron i ddatblygu gwaith newydd, heb fod unrhyw ymrwymiad i gyhoeddi’r gwaith. Mae hyn yn rhoi’r rhyddid i awduron fentro i dir newydd a datblygu eu proses artistig, gan roi’r amser a’r adnoddau iddynt ymroi i ymchwilio, ysgrifennu, ail-edrych ac adlewyrchu.
Mae’r Cynllun Mentora yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol i awduron ar ddechrau eu gyrfa trwy gynnig lle ar gwrs mentora pwrpasol yn ogystal â chyfres o sesiynau un-i-un gydag awdur profiadol, er mwyn datblygu gwaith penodol sydd ar y gweill i safon cyhoeddi.
Mae’r cynlluniau hyn yn agored i awduron ar ddechrau eu gyrfaoedd ac awduron profiadol fel ei gilydd. Mae rhai o’r awduron sydd wedi derbyn cefnogaeth yn y gorffennol yn cynnwys Mererid Hopwood, Huw Aaron, Euros Lewis, Ifan Morgan Jones, Aled Jones Williams, Mari George ac Eilidir Jones. Mae rhai o’r gweithiau hyn wedi gweld golau ddydd ar ffurf llyfr print, rhai yn parhau i gael eu datblygu, a rhai wedi arwain yr awdur ar drywydd creadigol gwahanol.
Ysgoloriaethau i Awduron:
Dyddiad Cau: 5.00 pm, Dydd Mawrth 11 Medi 2018.
Mae cynllun Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi awduron i ddatblygu gwaith ar y gweill dros gyfnod o flwyddyn. Croesewir ceisiadau gan awduron ar wahanol adegau yn eu gyrfa. Bydd Panel annibynnol yn asesu’r ceisiadau ac yn dyfarnu Ysgoloriaethau ar gyfer gwaith o’r radd flaenaf.
Dywedodd Lleucu Roberts, a dderbyniodd Ysgoloriaeth yn 2012, ei fod wedi rhoi “cyfle gwirioneddol i ysgrifennu’r hyn roeddwn i eisiau ei ysgrifennu, er fy mwyn fy hun a neb arall, waeth beth a ddôi o’r gwaith.”
Dyfernir Ysgoloriaethau i Awduron er mwyn cefnogi awduron sy’n creu gwaith newydd yn y genres canlynol: rhyddiaith, yn cynnwys nofelau, straeon byrion, llenyddiaeth plant, llenyddiaeth i bobl ifanc; barddoniaeth; nofelau graffeg; rhyddiaith ffeithiol greadigol, yn cynnwys beirniadaeth lenyddol, cofiant/hunangofiant.
Dywedodd William Gwyn Jones, a dderbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn 2018: “Fel awdur llawn amser ers deng mlynedd ar hugain yr hyn mae fy Ysgoloriaeth wedi ei roi i mi yw’r rhodd o amser. Mae’r gefnogaeth ariannol wedi fy ngalluogi i gael cyfnodau di-bwysau o feddwl am syniadau a’u gwrthod, i ysgrifennu pytiau, eu gadael ac yna dychwelyd atynt gyda llygad llawer mwy craff a hunan-feirniadol.”
Gwahoddir ceisiadau gan awduron newydd ac awduron cyhoeddedig sy’n byw yng Nghymru. Gall unigolion ymgeisio am y canlynol:
Ysgoloriaeth Awdur: Swm penodol o £3,000.
Caiff 5 Ysgoloriaeth Awdur eu clustnodi ar gyfer awduron newydd sydd heb gyhoeddi cyfrol o’u gwaith. Yn ogystal, clustnodir un Ysgoloriaeth ar gyfer awdur o dan 25 mlwydd oed.
Ysgoloriaeth Cefnogi: Swm hyd at £1,000 er mwyn cynorthwyo awduron sydd ag anawsterau symudedd neu anableddau, sydd angen cyfarpar arbenigol neu gymorth.
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Awdur o dan 25 oed i Briony Collins yn 2018, ac fe nododd Briony: “Mae fy Ysgoloriaeth Awdur Dan 25 oed wedi dod â dilysiad i mi. Roeddwn bob amser yn iau na phawb ar gyrsiau ac mewn cystadleuthau. Teimlwn nad oeddwn cystal oherwydd nad oedd gennyf y profiad roedd ganddynt hwythau. Mae Llenyddiaeth Cymru wedi fy narbwyllo bod fy llais innau yr un mor bwysig, a bod rhaid I mi barhau i ysgrifennu.”
Cynllun Mentora
Dyddiad Cau: 5.00 pm, Dydd Mawrth 11 Medi 2018.
Dyfernir lleoedd ar y Cynllun Mentora i awduron ar ddechrau eu gyrfa neu i awduron profiadol sydd am fentro i feysydd llenyddol sy’n newydd iddynt. Mae’r Cynllun yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol i awduron, er mwyn datblygu gwaith penodol sydd ar y gweill i safon cyhoeddi. Bydd Cynllun Mentora 2019 yn dechrau gyda chwrs preswyl wythnos o hyd yn Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Chwefror 2019. Yn y misoedd yn dilyn y cwrs ceir sesiynau unigol un-i-un gyda mentor profiadol.
Dywedodd Rhiannon Williams, a dderbyniodd le ar y Cynllun Mentora yn 2018: “Cymorth heb ei ail a hwb allweddol i’m hyder yw’r ddau brif beth mae derbyn lle ar y Cynllun wedi’i gynnig i mi fel awdur newydd. Roedd y cyfle i dreulio wythnos yn Nhŷ Newydd gydag awduron a beirdd eraill y cynllun, yn ogystal â chyd-weithio gyda mentor mor fedrus, yn brofiad gwych.”
“Mae fy Ysgoloriaeth Awdur Newydd 2018 wedi bod yn gymorth mawr wrth i mi ysgrifennu fy nofel gyntaf, ac rwyf wedi derbyn cefnogaeth penigamp fel rhan o’r Cynllun Mentora.”
– Iwan Huws
Ers 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dosbarthu dros £1.2 miliwn o Ysgoloriaethau, gan gefnogi 277 o awduron trwy Gymru gyfan, ac o ganlyniad fe gyhoeddwyd 143 o lyfrau ac 17 erthyglau.
Yn 2018 gwelwyd ail-lansio Cynlluniau Datblygu Awduron Llenyddiaeth Cymru, gan roi rhagor o bwyslais ar awduron newydd, cynnydd yn y cyfleoedd mentora, a datblygu cysylltiadau gwell rhwng yr ymgeiswyr llwyddiannus a chynrychiolwyr o’r diwydiant. Yn dilyn llwyddiant y newidiadau hyn, bydd Ysgoloriaethau a Mentora 2019 yn parhau i ddilyn yr un patrwm.
“Yn dilyn llwyddiant cynlluniau 2018 ar eu newydd wedd, mae’n bleser gennym lansio Ysgoloriaethau i Awduron, a’r Cynllun Mentora estynedig ar gyfer 2019. Bydd y cynlluniau hyn yn meithrin a datblygu awduron newydd yn benodol, yn ogystal â pharhau i gefnogi awduron trwy Gymru ar bob cam o’u gyrfa. Trwy annog creadigrwydd, arbrofi a mentro, rydym yn edrych ymlaen at waith llenyddol newydd o’r radd flaenaf yn y Gymraeg a’r Saesneg.”
– Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn
Cefnogir Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru gan Y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Ysgoloriaethau a Mentora 2019 yw: 5.00 pm, Dydd Mawrth 11 Medi 2018.
Mae canllawiau llawn a ffurflenni cais ar gyfer Ysgoloriaethau 2019 a Mentora 2019 ar gael i’w lawrlwytho o wefan Llenyddiaeth Cymru: Ysgoloriaethau/ Mentora.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266