• Llun:  Richard Outram
“Mae Tŷ Newydd yn encil heb ei hail”
Llu 30 Medi 2019 / , / Ysgrifennwyd gan Mari Gwilym

Mae Tŷ Newydd, y staff, a’r cyrsiau s’gwennu wedi bod yn angor i mi ers i mi ddechra’ mynychu eu cyrsiau flynyddoedd yn ôl. Oherwydd pan fydda’ i yn cicio fy sodlau heb ddim i’w wneud o dro i dro, i’r Ganolfan Ysgrifennu yn Llanystumdwy y bydda’ i’n mynd – i fynychu rhyw gwrs neu’i gilydd, a threulio talm bleserus o amser yn cyfarfod ffrindiau, hen a newydd, o’r un anian â mi, ac yn cael fy sbarduno i greu a datblygu bob mathau o syniadau yno – cymaint o syniadau, yn wir, nes i mi fedru cyhoeddi dwy gyfrol o ryddiaith ar gyfer oedolion yn lled ddiweddar, sef ‘Melysgybolfa Mari’ yn 2012, a ‘Melysach Cybolfa’ yn 2017, a hynny wedi i mi gael fy sbarduno i wneud hynny yn y ganolfan arbennig hon.

 

’Dwi wedi bod yn ’sgwennu erioed. Straeon bach diniwed am yr anifeiliaid bychain a’r pryfetach fyddai’n byw yn ein gardd y byddwn i’n eu creu gan amlaf pan oeddwn i’n blentyn, ac ambell i stori Dylwyth Teg. Wedyn aeth straeon antur a fy mryd wrth i mi fynychu’r ysgol uwchradd. Ond erbyn i mi gyrraedd y chweched dosbarth, roedd byd y ddrama wedi llwyddo i roi chwilen go iawn yn fy mhen.

 

’Dwi’n cofio ’sgwennu rhyw ddramodig ar gyfer ’Steddfod Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, lle bum i’n ddisgybl, a chael fy ngwobrwyo gan y beirniad am i mi lwyddo i godi gwên! Rhyw ddrama-noson-lawen/theatr gegin go hurt oedd yr un ’sgrifennais, yn seiliedig ar stori wir am fy nhad, a’i feddwl o’n bell, bell ar bethau amgenach, yn mynd i’r siop-bentre’ acw i brynu letysen i’w wraig, sef fy mam. Ond yn anffodus, oherwydd ei ddiffyg canolbwyntio, mi ddaeth o adre’ hefo clamp o gabatsien enfawr – ac o’r herwydd, bu sawl gair croes rhwng fy rhieni. Ond eu gwrthdaro nhw oedd fy ysbrydoliaeth innau, ac yn fy ‘nrama’, roedd cymeriad ffug ‘fy mam’ yn gandryll, gan fod ganddi hi lond y tŷ o “visitors” ar y pryd, a’r rhei’ny yn aros am addewid o salad i swper! (Roedd hyn yn y cyfnod pan nad oedd neb ym mherfeddion cefn gwlad erioed wedi clywed am “coleslaw”.) Aeth hi’n go ddyrys wedyn, gan fod Mam wedi gorfod bodloni ar ddyfeisio pryd o ddeiliach ar ei newydd wedd hefo gwaddol be’ oedd yn yr ardd lysiau – sef dail ’sbigoglys, dant-y-llew, a sibols. Serch hynny, roedd yna ddiweddglo hapus i fy nghreadigaeth gan fod y gwesteion wedi canmol dyfeisgarwch fy mam i’r entrychion, a hyd yn oed wedi ei galw hi ei hun yn “gourmet chef”! Roedd hithau wrth ei bodd wrth reswm, ac wedi hen faddau i Nhad, oedd yn ddistaw a chegrwth yn ei gornel. Ond mi ledodd gwên enfawr dros ei wyneb wedi iddo fynta dderbyn canmoliaeth am anghofio’r letysen am i hynny esgor ar ddyfeisgarwch y “gourmet chef”! Ond pan glywodd fy nain, oedd yn Gymraes uniaith Biwritanaidd ei hagwedd, yr ymwelwyr yn galw Mam yn “gourmet chef” sawl gwaith yn ei chlyw, aeth yn benwan, gan ddatgan:

“Rhag cwilydd i’r hen “visitors” ’na:– dŵad ar draws tŷ, a rhegi dy fam fel’a, a hitha’ ’di g’neud ’i gora’ glas i’w bwydo nhw hefo bwyd cwningan!”

 

Do, dwi wedi mynychu sawl cwrs yn Nhŷ Newydd dros y blynyddoedd – rhai Cymraeg, ac eraill yn yr iaith fain, a rhai yn ddwyieithog hyd yn oed. Ma’ nhw i gyd wedi dwyn ffrwyth yn eu tro – er bosib nad yn uniongyrchol hollol. Er enghraifft, wedi i mi fod ar gyrsiau sgrifennu ffilm – mi “ail-gylchais” rai o fy syniadau cyfryngol yn straeon byrion, sydd bellach wedi eu cyhoeddi – ac eraill wedi eu gwobrwyo hyd yn oed. Weithiau, bydd ’na droeon annisgwyl yn eich haros ar rai cyrsiau yno: er enghraifft, mi es i ar gwrs ‘Ysgrifennu er Iechyd a Llesiant’ un tro, gan feddwl mai creu straeon fyddai’r gofyn – ond barddoniaeth oedd dan sylw ar y cwrs hwnnw! Felly ymdrybaeddais i “farddoni” am y tro cynta’ ers dyddiau coleg. Ar ôl hynny, mi fentrais gystadlu mewn sawl Stomp hefo cerddi gwirion o’r newydd, ac ennill tair stôl-odro am fy nhrafferth!

 

Yn fy nydd, rydw i wedi sgriptio llawer o raglenni cyfryngol. Fel rhan o dîm y byddwn i’n gwneud peth felly gan amlaf, a phlant a phobol ifanc o bob oed fyddai’r oedrannau-targed y byddwn yn cyd-sgriptio ar eu cyfer. Dyna natur bod yn rhan o dîm ’sgrifennu ‘sebon’. Rydw i hefyd wedi sgrifennu drama lwyfan i oedolion, a sawl un i blant, gan gynnwys pantomeimiau yn ogystal, ac wedi gwneud hynny ambell dro yn Saesneg hefyd pan fyddai gofyn – wrth bod yr ardaloedd y byddwn yn sgrifennu ar eu cyfer yn ddi-Gymraeg, ac eto yn parhau i fod yn Gymreig iawn.

 

Bellach, yn Nhŷ Newydd, ’dwi’n cael y pleser o fod yn rhydd i ’sgrifennu mwy o ryddiaith nag o ddrama: straeon am fyd natur; straeon i gyd-fynd â gwaith celf; straeon o’r llafar i’r ddalen, a rhai straeon byrion dwysach na’r arfer – ar gyfer unrhyw oedran: dibynnu beth fydd yn fy nharo ar y pryd. Byddaf hefyd yn mentro creu c’negwerth o farddoniaeth yma ac acw, a rhai darnau yn cael eu trin a’u trafod rhwng ffrindia’ – o fewn tîm Grŵp ’Sgrifennu Tŷ Newydd, sy’n cyfarfod yno unwaith y mis. ’Da ni’n gefn i’n gilydd. Diolch o galon i Dy Newydd a Llenyddiaeth Cymru am gynnig ein bod yn cael dod ynghyd yno – mae’n encil heb ei hail.