Ar fore braf o haf canol Awst daeth criw bywiog a hwyliog o blant (ac ambell fam a thaid) at ei gilydd ym Motwnnog i gael hwyl yn ysgrifennu barddoniaeth gydag Anni Llŷn, cyn Fardd Plant Cymru.
Yng Nghanolfan Fenter Congl Meinciau ym Motwnnog, cawsom hwyl garw yn odli, a chyflythrennu a thaflu geiriau blith draphlith at ei gilydd drwy’r bore. Roedd y chwerthin i’w glywed yr holl ffordd yn Aberdaron!
Dywedodd Ania ei bod yn teimlo’n ‘nerfus ychydig ond yn edrych mlaen’ ar ddechrau’r gweithdy ac ar ei ddiwedd dywedodd: ’Rwyf yn teimlo y geshi hwyl hefo Anni Llŷn wrth chwarae gemau!’
Roedd Dafydd yn ‘edrych mlaen ac yn teimlo’n barod i ddysgu am y dyfodol, a methu gwichiad’ ac roedd Nanw yn teimlo’n ‘hapus.’
Daeth plantos bach yn ffrindiau a’i gilydd ac mae’n rhaid dweud fod y rhieni wedi cael hwyl garw ar farddoni hefyd. I goroni’r cyfan cafodd pawb ginio bach braf cyn ffarwelio am y pnawn.
Diolch am gyd weithrediad Canolfan Fenter Congl Meinciau ac am eu parodrwydd i helpu, i Grŵp Cynefin am y grant i gynnal y digwyddiad hwn ac i Anni Llŷn am ddeuddydd llawn hwyl a sbri. Dyma ychydig o luniau o’r gweithdai: