Caiff cwrs i enillwyr prif gystadlaethau llenyddol Eisteddfod yr Urdd ei ail lansio eleni fel Cwrs Olwen, er cof am Olwen Dafydd, aelod o staff Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fu farw yng ngaeaf 2014. Bu Olwen yn gweithio yn Nhŷ Newydd am 11 o flynyddoedd yn trefnu cyrsiau a digwyddiadau.
Cynhelir y cwrs yng Nghanolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy, mewn partneriaeth â’r Urdd, a gyda chyfraniad ariannol hael gan deulu’r diweddar Olwen Dafydd. Bydd enillwyr y Goron, y Gadair a’r Fedal Ddrama yn cael mynychu’r cwrs penwythnos yn rhad ac am ddim, ynghyd â’r rhai sy’n dod yn ail a thrydydd yn y cystadlaethau hynny. Bwriad y cwrs yw annog yr awduron ifanc i barhau â’u hysgrifennu gydag arweiniad gan awdur neu fardd profiadol, yn ogystal â dod i adnabod eu cyd-ysgrifenwyr yn y ganolfan ysgrifennu genedlaethol.
Mae’r cwrs, a adwaenid gynt fel Cwrs yr Urdd, yn cael ei gynnal ers dros bymtheg mlynedd, ac wedi chwarae rhan flaenllaw yn dod a chenedlaethau o awduron ifanc at ei gilydd.
Meddai Aneirin Karadog fu ar Gwrs yr Urdd dair gwaith yn y 2000au cynnar: “Roedd cael mynd ar gyrsiau ysgrifennu i Dŷ Newydd fel rhan o’r wobr am lwyddo yng nghystadlaethau’r Urdd yn amhrisiadwy am sawl rheswm. Bu’n gymorth mawr wrth i mi ddysgu a mireinio fy nghrefft fel bardd, yn gyfle gwych i dreulio amser gyda’r mawrion llenyddol oedd yn rhannu eu hamser a’u perlau o wybodaeth ar y cyrsiau, ac roedd hefyd yn arbennig cael dod i nabod cymuned o awduron ifanc – rhai ohonyn nhw yn ffrindiau agos i mi hyd heddiw. Roedd cael gwneud hyn oll yn lleoliad hudolus Tŷ Newydd yn goron ar y cyfan. Roedd cael nabod Olwen, a fu’n trefnu cyrsiau’r Urdd ac a roddodd gyfraniad diwyd a phwysig i’r byd llenyddol, yn fraint.”
Meddai Leusa Llewelyn, Pennaeth Dros Dro Tŷ Newydd: “Byddai Olwen yn aml yn cydnabod mai Cwrs yr Urdd oedd un o uchafbwyntiau’r flwyddyn iddi hi. Byddai’n ymhyfrydu mewn cael llond y tŷ o awduron ifanc Cymraeg talentog i’w meithrin, ac yn cyfeirio atynt fel “ei chywion”. Byddai’n gwneud yn siŵr fod yr awduron yn cael chwarae teg a chefnogaeth gan Dŷ Newydd ar ôl y cwrs, gan eu gwahodd yn ôl dros y blynyddoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau. Mae ail-enwi’r cwrs yn Gwrs Olwen yn deyrnged fendigedig iddi.”
Meddai Eurig Salisbury, a fu yntau ar sawl Cwrs yr Urdd ar gychwyn ei yrfa fel bardd: “Mi o’n i wrth fy modd yn mynd ar Gwrs yr Urdd yn Nhŷ Newydd. Yn ogystal â chael cyfle i ysgrifennu ac i holi awduron profiadol, sylweddoles i hefyd fod ‘na bobl ifanc eraill o bob cwr o Gymru a oedd yr un mor nyts â fi am lenyddiaeth! Dyna oedd y peth mawr imi – yn y byd mawr y tu allan, mae llenyddiaeth yn anathema i lawer o bobl, a llawer o’r rheini’n ffrindiau da imi, ond yn Nhŷ Newydd, llenyddiaeth yw’r peth sy’n ein huno ni.”
Cyhoeddwyd gwybodaeth am Gwrs Olwen o lwyfan yr ŵyl yn ystod prif seremonïau Eisteddfod Sir y Fflint, ac mae’r gwahoddiadau i’r awduron ifainc i ymuno â’r cwrs ar eu ffordd.
Am ragor o wybodaeth am Gwrs Olwen neu am Dŷ Newydd yn gyffredinol, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811