Fel rhan o gynllun Llenyddiaeth er Iechyd a Lles a ariennir gan Gyngor Gwynedd, trefnodd Llenyddiaeth Cymru fod Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, yn mynd draw i gynnal gweithdai yn Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth dros gyfnod o chwe wythnos. Bu naw person ifanc a thri aelod o staff yn cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2016.
Bu’r disgyblion yn ysgrifennu barddoniaeth ar y thema ‘Fi fy hun’ gan archwilio eu teimladau ac emosiynau gydag Anni a chael hwyl dda iawn ar greu llu o gerddi gwahanol.
Bu Morfudd Hughes, sy’n ymarferydd symud a llais yn cydweithio gydag Anni ar y prosiect ac bu’r ddwy yn gweithio ar ddatblygu sgiliau’r bobl ifanc drwy gyfrwng gemau syml a gwisgo wigiau a dillad gwahanol er mwyn chwarae rôl. Yn sgil y chwarae rôl, roedd hi’n amlwg fod hunan hyder y disgyblion wedi codi’n aruthrol.
Bu’r profiad o weithio hefo Anni a’r disgyblion a’u cymhorthyddion ar y thema ‘Fi fy Hun’ yn Ysgol Hafod Lon Penrhyndeudraeth, yn un arbennig iawn. Roedd y bobol ifanc a gymerodd ran yn y sesiynau mor frwdfrydig eu hagwedd ac yn awyddus i lwyr ymroi ymhob un o’r gweithgareddau a roddwyd ger eu bron.
Roedd hi’n fraint cael bod yn dyst i’w hadwaith siriol ac roedd eu natur annwyl a’u gofal tyner o’i gilydd yn wirioneddol rywbeth i’w ryfeddu.
Braf oedd derbyn adborth yr athrawes Carys Bird ar ddiwedd y sesiynau. Mynegodd hi ei barn ynglŷn â pha mor werthfawr oedd gweithdai o’u math fod gan dystio iddynt dynnu’r gorau allan o’r disgyblion i gyd.
– Morfudd Hughes, Actor ac Ymarferydd Symud a Llais
I ddathlu diwedd y prosiect ac i roi cyfle i’r disgyblion rannu eu gwaith, trefnwyd te parti yn Nhŷ Newydd ar ddydd Llun 30 Ionawr. Wedi i bawb fod am dro tuag at lan yr afon Dwyfor, cafwyd cinio blasus gan Tony cyn i bawb fynd i’r Llyfrgell i gwrdd â’r gwestai arbennig… Dewi Pws!
Cafodd pawb amser wrth eu bodd yn gwrando ar jôcs, cerddi a chaneuon yng nghwmni Dewi, ac roedd cyfle i bawb ymuno yn yr hwyl gydag offerynnau taro. Cyn i bawb ei throi hi nôl am yr ysgol, fe ddarllenodd rhai o’r disgyblion eu gwaith odli a barddoni – da iawn wir.
Daliwch ati i farddoni, ddisgyblion Ysgol Hafod Lon! Dyma ychydig o luniau o’r prosiect: