Bydd 12 o awduron ifanc yn mentro i Dŷ Newydd y penwythnos hwn ar gyfer cwrs yng nghwmni Anni Llŷn fel rhan o brosiect Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2018, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw.
Mari Elen Jones yw un o’r 12 awdur. Daw Mari o Gwm y Glo yng Ngwynedd. Mae wedi ysgriennu nifer o sgriptiau, ac nid yw’n ddiethr i’r profiad o weld ei gwaith yn cael ei berfformio. Bu’n rhan o gynlluniau Sgript i Lwyfan (Frân Wen); Neonsparz (Neontopia); Protest Fudur a Noson Cynhesu’r Tebot (Cwmni Tebot). Nid yw Mari erioed wedi sgriptio ar gyfer plant, ac fel mam ifanc mae’n edrych ymlaen at y cyfle i greu darn o waith y bydd ei phlentyn yn gallu’i fwynhau.
Er mwyn i ni ddod i’w hadnabod hi’n well, mae Mari wedi ateb ein holiadur pum munud:
Beth yw dy berthynas di â Thŷ Newydd? A’i dyma fydd y tro cyntaf i ti ymweld â ni?
Dyma fy nhro cyntaf yn Nhŷ Newydd, dwi wedi bod ‘isio dod ers stalwm iawn iawn.
Fel awdur, oes gen ti fan neu lecyn penodol y byddi di’n mynd yno i ysgrifennu?
Oni’n hoff iawn o ‘sgwennu ar y tren pan oni’n y brifysgol, dwi’n ama mae fi oedd yr unig berson oedd yn edrych ymlaen am siwrne 5 awr o Harlech i Gaerdydd ond oni’n gweld o’n amser da i hel meddyliau, a ‘di’r signal ffon ddim yn gret felly doedd dim yn yn gallu dennu fy sylw.
Wyt ti’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?
Mi oni’n mynd a llyfr a beiro hefo fi i bobman, ac s oni’n cael syniad yn ei sgwennu hi lawr, ond yn rwan dwi ‘di swapio y beiro a’r llyfr am glytiau a weips.
Beth yw dy hoff lyfr neu gyfrol?
The Rosie Project – Graeme Simison. Llyfr lyfli nath i mi chwerthin yn uchel a codi fy nghalon.
Pe gallit ti fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?
J.K Rowling – Harry Potter and the philosopher’s stone
Darganfod byd Harry Potter oedd un o’r cyfnodau mwyaf hudolus o mhlentyndod i, mi fysa’ gwybod mod i’n cael yr effaith yna ar blant a phobl ifanc yn anhygoel. (hefyd, mi fyswn i’n gyfoethog)
Pe gallit ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuaset ti’n eu dewis?
Lena Dunham, Rupi Kapur a Dylan Thomas… ‘di nhw ddim i gyd yn awduron, ond dwi’ wrth fy modd hefo gwaith pob un ohonynt.
Pe gallit ti fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddet ti, a pham?
The Roly-Poly Bird – The Twits. Mae o’n ddewr ac mae o’n gallu fflio.
Pe gallit ti fynd yn ôl mewn amser i gwrdd ag unrhyw unigolyn o hanes Cymru, pwy fyddai’r unigolyn hwnnw / honno a pham?
Fy hen hen Nain… Yn ol son, roedd hi’n wrach.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru