Mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw, bu Gŵyl Hanes Cymru i Blant yn chwilio am 12 o awduron ifanc, rhwng 16-25 oed, i ymgymryd â’r her o ysgrifennu dramâu byrion i blant.
Mae enwau 11 o’r awduron bellach wedi eu cyhoeddi, a bydd y 12fed yn cael ei ddewis o blith prif enillwyr llenyddol Eisteddfod yr Urdd 2017:
Gwynfor Dafydd
Iestyn Wyn
Elan Grug Muse
Sion Emyr
Sian Elin Williams
Lois Llywelyn Williams
Mared Roberts
Mirain Alaw Jones
Mari Elen Jones
Ceris Mair James
Mared Llywelyn Williams
Bydd y 12 ddrama newydd yn cyflwyno hanes y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru, ac yn cael eu llwyfannu fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2018. Yn ystod yr ŵyl bydd y sioeau, a fydd yn cynrychioli diwydiannau megis copr, llechi, glo, tun, haearn a gwlân, yn cael eu llwyfannu mewn lleoliadau treftadaeth dros Gymru gyfan.
Bydd cyfle i’r 12 awdur ifanc fynychu gweithdy penwythnos yn Nhŷ Newydd ym mis Medi 2017 yng nghwmni Anni Llŷn. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y gweithdy maes o law.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru