Bydd 12 o awduron ifanc yn mentro i Dŷ Newydd y penwythnos hwn ar gyfer cwrs yng nghwmni Anni Llŷn fel rhan o brosiect Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2018, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw.
Mared Roberts yw un o’r 12 awdur. Mae Mared yn fyfyrwraig yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Sbaeneg a Ffrangeg. Daw yn wreiddiol o Landysul yng Ngheredigion, ac mae’n gyfarwydd ag ennill yn gyson yn yr adran lenyddiaeth mewn Eisteddfodau lleol, ynghyd ag ennill y Goron ddwy waith yn olynol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol.
Er mwyn i ni ddod i’w hadnabod hi’n well, mae Mared wedi ateb ein holiadur pum munud:
Beth yw dy berthynas di â Thŷ Newydd? A’i dyma fydd y tro cyntaf i ti ymweld â ni?
Dim perthynas o gwbwl heblaw’r ffaith imi glywed pethau da am y cyrsiau ysgrifennu sy’n cael eu cynnal yno. Edrychaf ymlaen at greu’r berthynas honno.
Fel awdur, oes gen ti fan neu lecyn penodol y byddi di’n mynd yno i ysgrifennu?
Dim llecyn fel y cyfryw, ond amser penodol sydd gen i. 3 y bore yw fy mhrime time, felly byddwn i’n dweud mai fy ngwely yw’r llecyn hwnnw.
Wyt ti’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?
Dim trefn o gwbwl. Dwi’n mwynhau arsylwi ar weithredoedd pobl ac yna dwi’n eu cofnodi yn fy mhen. Yna mae’r cyfan yn troi am gyfnod hir nes imi ddechrau ysgrifennu ar ddu a gwyn o’r diwedd.
Beth yw dy hoff lyfr neu gyfrol?
Cwestiwn anodd bob tro! Ond dwi newydd orffen ‘Rhannu Ambarél’ gan Sonia Edwards a enillodd y Fedal Ryddiaith eleni. Dagrau ar y fferi ar y ffordd nôl o’r gwyliau.
Pe gallit ti fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?
Lord of The Rings gan J R R Tolkien – dwi’n rhyfeddu at y ffaith iddo greu iaith a byd ffantasïol hollol newydd.
Pe gallit ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuaset ti’n eu dewis?
T. H. Parry-Williams, Kate Roberts a Harper Lee.
Pe gallit ti fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddet ti, a pham?
Llipryn Llwyd, am iddo gael gwledda ar ben cwmwl y tro hwnnw.
Pe gallit ti fynd yn ôl mewn amser i gwrdd ag unrhyw unigolyn o hanes Cymru, pwy fyddai’r unigolyn hwnnw / honno a pham?
Eileen Beasley – a diolch iddi am ei haberth bersonol i ddechrau ar yr ymgyrchu dros hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfnod anodd.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru