Mae Sgript i Lwyfan yn ei ôl eto eleni gyda hyd yn oed mwy o gyfleon a phrofiadau cyffrous i bobl ifanc.
Oes gen ti rywbeth i’w ddweud?
Oes gen ti syniad am ddarn o theatr yn llechu mewn drôr yn rhywle?
Oes gen ti ddiddordeb mewn gwthio ffiniau theatr Cymraeg?
Wyt ti rhwng 16 a 25 oed ac eisiau cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i ddatblygu dy syniadau ymhellach? Efallai mai dyma’r prosiect i ti…
Dyma gyfle gwerthfawr i 6 sgwennwr a 6 cyfarwyddwr ifanc disglair gydweithio gyda Frân Wen a Chanolfan Ysgrifennu Creadigol Ty Newydd i ddatblygu gwaith newydd dan gyfarwyddyd mentoriaid, dramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion profiadol.
SESIYNAU BLASU
Mae 2 sesiwn blasu arbenigol wedi eu trefnu – un ar gyfer cyfarwyddwyr sydd yn cael ei arwain gan y cyfarwyddwr profiadol Gethin Evans, ac un i ‘sgwennwyr dan arweiniad y gwneuthurwr theatr Branwen Davies.
15 Gorffennaf
Sesiwn Cyfarwyddo gyda Gethin Evans
Frân Wen, Porthaethwy
2pm – 5pm
29 Gorffennaf
Sesiwn ‘Sgwennu gyda Branwen Davies
Frân Wen, Porthaethwy
2pm – 5pm
Diddordeb mewn cymryd rhan? Cofrestrwch drwy www.franwen.com/sesiynau-blasu-sgript-i-lwyfan/
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs cysylltwch â fi Mari ar 01248 715048 neu mari@franwen.com
Mae’r digwyddiadau blasu yma yn gweithredu polisi TALWCH BE FEDRWCH.