Heddiw (Dydd Gwener 9 Chwefror 2018) yw #DyddMiwsigCymru. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o gerddoriaeth Cymraeg ac mae’n hawdd ymuno yn y dathlu a dod o hyd i hen ffefrynnau a cherddoriaeth newydd drwy ddilyn trywydd yr hashnod ar y cyfryngau. Felly da chi, ewch ati i wrando ar diwns anhygoel mewn chwe rhestr chwarae gan y DJ Gareth Potter sydd wedi eu creu yn arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru. Dewis gwych o gerddoriaeth Acwstig, Electronig, O Gwmpas y Tân, Dim Brys, Codi Chwys, a Sêr y Sîn i’w chwarae ar Spotify, Apple Music a Deezer.
Yma yn Nhŷ Newydd, mae pob dydd Gwener yn ddydd miwsig Cymru i ni, wrth i ni wrando ar raglen Tudur ar BBC Radio Cymru o 2pm ymlaen (ffordd dda o groesawu’r penwythnos!). Ond tybed pa ganeuon fyddwn ni gyd yn eu canu yn y car, wrth baratoi swper neu yn y gawod? Dyma ddewisiadau ambell aelod o staff Llenyddiaeth Cymru:
Leusa, Pennaeth Tŷ Newydd
Mae fy hoff gân yn newid yn amlach ‘na chyfeiriad y gwynt. Ond mae Y Mynyddoedd gan Lleuwen Steffan yn gwrthod gadael llonydd i mi. Hyd y gwn i, dydi’r gân ddim wedi ei rhyddhau eto – ac ond yn bodoli fel sesiwn ar Radio Cymru. Plîs Lleuwen – gawn ni albwm newydd fel y galla i stopio gwrando ar Radio Cymru bob eiliad o bob dydd yn y gobaith y ca i glywed y gân…?
Ceri, Rheolwr Safle Tŷ Newydd
Un o fy hoff ganeuon i ydi 11 gan Kentucky AFC. Mae’r gân yn fy atgoffa o fynd i gigs Cymraeg hefo fy ffrindiau tra’n fengach, ar gyfnod llewyrchus i gerddoriaeth Gymraeg yng Ngogledd Cymru. Dwi’n cofio dawnsio’n wyllt i’r gân yn Miri Madog yn 2005 – gŵyl a hanner!
Miriam, Swyddog Marchnata Tŷ Newydd
Dwi wrth fy modd hefo cerddoriaeth o bob math, felly anodd iawn fysa dewis fy hoff gân Gymraeg. Ond ar y funud, dwi wrth fy modd yn gwrando ar K’Ta gan Serol Serol. Mae’r band o Ddyffryn Conwy yn cynhyrchu cerddoriaeth space pop anhygoel. Taswn i wir yn gorfod dewis, dwi’n meddwl y bysa Gorwedd gyda’i Nerth gan Eden yn cyrraedd y brig, neu Space Invaders gan Bando. Gormod o ddewis!
Tony, Cogydd Tŷ Newydd
Fy hoff gan Gymraeg i ydi’r gân gyntaf i mi ei dysgu yn y dosbarth Cymraeg sef Sosban Fach. Mae’n addas iawn pan dwi’n coginio lobsgóws…!
Gwen, Swyddog Cymunedol
Cefais Play List ar Spotify gan fy mab ar fy mhen-blwydd yn 60 yn ddiweddar, ac mi agorodd ddrysau’r cof a’m hatgoffa o hen, hen ganeuon ‘ron i’n gwrando arnyn nhw ers talwm. Yn ddiweddar, dwi’n gorfod gwrando’n ddyddiol ar Bendigeidfran gan Lleuwen Steffan. Mae’n gân sy’n dweud y cyfan am yr angen am bontydd i gysylltu pobl, teuluoedd, cymunedau a gwledydd yr hen fyd ‘ma. Lleuwen, ti ‘di hoelio hi ar ei phen..diolch!
Mared, Rheolwr Llenyddiaeth yn y Gymuned
Mae dewis hoff gân yn anodd iawn ond fe ddigwyddais glywed cân yr wythnos yma nad ydw i wedi ei chlywed ers tro ac yr ydw i’n hoff iawn ohoni, sef Ysbryd Rebeca gan Tecwyn Ifan. Mae ei geiriau yn bwerus iawn ac mae’n fy atgoffa o gyfnod hapus. Mae hi’n gân bwysig imi hefyd gan i’w geiriau (a therfysgoedd Merched Beca, wrth gwrs) fod yn ysbrydoliaeth i enw canol fy merch, sef Rebeca. Fe fu Gwernan druan yn ddi-enw am dros wythnos wrth i’w thad a minnau ddadlau dros ei chyfenw yn y lle cyntaf, ac yna ei henw. Yr un elfen o’i henw roedden ni’n cytuno arno o’r cychwyn oedd Rebeca, diolch i gân Tecwyn Ifan.
Elan, Swyddog Prosiect Llên Pawb
Er ei bod hi wedi cael ei rhyddhau ers 2015, rydw i dal yn gwrando ar albwm Ghazalaw ar ryw bwynt bob wythnos. Mae lleisiau diymdrech a thyner Gwyneth Glyn a Georgia Ruth a sain anhygoel y ffidl Indiaidd yn rhoi ias lawr fy nghefn. Fy ffefryn o bell ffordd yw eu fersiwn bendigedig nhw o’r hen gân werin Lusa Lân.
Ymunwch â Dydd Miwsig Cymru trwy ddefnyddio #DyddMiwsigCymru, neu ar Facebook, Twitter, ac Instagram.