Mae sawl wythnos wedi pasio ers i Llenyddiaeth Cymru gau drysau ei swyddfeydd a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd dros dro o ganlyniad i haint COVID-19, felly roeddem yn awyddus i ddiweddaru ein cynulleidfaoedd a’n rhanddeiliaid ar ambell ddatblygiad i’n gweithgaredd a rhai materion sefydliadol.
Sut y mae Llenyddiaeth Cymru yn addasu ei weithgareddau
Cenhadaeth Llenyddiaeth Cymru, fel y nodir yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022, yw ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru. Er i ni orfod gohirio llawer o’n gweithgaredd, mae ein hymrwymiad i’r genhadaeth hon yn parhau’n gadarn yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn ymgynghori â’n partneriaid, noddwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru er mwyn deall effaith hirdymor a pharhaol y pandemig hwn ar y sector. Rydym yn sefydliad hyblyg, ac mae’r sgyrsiau a’r cyfraniadau hyn wedi’n helpu i addasu ein rhaglen weithgaredd er mwyn sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd a dyfeisgar i wireddu ein cenhadaeth.
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Mae’r Ganolfan a Bwthyn Encil Awduron Nant yn parhau ar gau i’r cyhoedd. Mae diogelwch 24 awr yn bresennol, a gwaith cynnal a chadw yn digwydd ar y safle. Rydym yn cadw llygad craff ar y sefyllfa ac yn dilyn cyfarwyddiadau’r Llywodraeth ynglŷn â phryd y gellid ail-agor yn ddiogel.
Rydym eisoes wedi cymryd y penderfyniad ar y cyd â’n tiwtoriaid i ohirio ambell gwrs sydd ar y gweill, gan obeithio y gallwn eu ail-drefnu yn y flwyddyn newydd. Os ydych chi wedi archebu lle ar un o’r cyrsiau sydd wedi eu canslo, dylech fod wedi derbyn ebost yn cynnig ad-daliad llawn. Os nad, cysylltwch â ni. Os nad yw eich cwrs wedi ei ohirio eto, ond rydych yn awyddus i ganslo eich lle oherwydd y sefyllfa, eto cysylltwch â ni fel y gallwn ddychwelyd eich ffi yn llawn.
Rydym ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda’n tiwtoriaid a darllenwyr gwadd ynglŷn â’r posibilrwydd parhau gyda rhai o’r cyrsiau yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn. Gallwch fynd i’n tudalen Cyrsiau ac Encilion i weld pa gyrsiau sydd ar hyn o bryd yn parhau, ond wrth gwrs byddwn yn adolygu hyn yn gyson yn unol â’r cyngor a bydd unrhyw un sydd wedi cofrestru ar gwrs fydd yn cael ei ganslo yn derbyn ad-daliad llawn.
Yn y cyfamser, mae datblygiadau cyffrous ar y gweill, gan gynnwys dosbarth meistr barddoniaeth digidol, gwersi cynghanedd ar ffurf fideos byr, a chyrsiau ysgrifennu creadigol wythnos o hyd arlein.
Gwaith Comisiwn i Awduron
Yn Ebrill a Mai, fe gyhoeddom rowndiau comisiynu lle gwahoddwyd awduron llawrydd i anfon mynegiant o ddiddordeb i ddyfeisio a chreu cynnwys a phrosiectau digidol gwreiddiol i gynulleidfaoedd. Pwrpas y cyfleoedd hyn yw galluogi awduron llawrydd i barhau i dderbyn gwaith â thâl yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Yn ogystal, bydd y gwaith a gomisiynir yn ceisio mynd i’r afael â heriau llesiant trwy ddefnyddio llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol; ac yn diddanu, ysbrydoli ac addysgu cynulleidfaoedd creadigol, egin awduron, plant a chyfranogwyr ledled Cymru.
Gallwch ddarganfod rhagor am y cynnwys a’r prosiectau a gomisiynwyd dan nawdd y rownd gyntaf yma.
Ein Beirdd ac Awduron Cenedlaethol
Mae’r Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales ill dau yn rolau llysgenhadol sy’n cyflwyno llenyddiaeth i blant mewn modd bywiog, deinamig a llawn hwyl, ac yn hyrwyddo hawl plant i leisio’u barn ac adrodd eu hanesion. Gan amlaf, byddai’r awduron yn treulio llawer o’u hamser yn cynnal gweithdai mewn ysgolion neu ddigwyddiadau mewn gwyliau ledled y wlad. Tra nad yw hynny’n bosib, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gysylltu ag ac ysbrydoli plant Cymru, mae Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru ac Eloise Williams, Children’s Laureate Wales wedi bod yn gosod sialensiau wythnosol sy’n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan ac ar y cyfrifon Twitter canlynol @barddplant @Laureate_Wales.
Mae Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru yn parhau â’i rôl lysgenhadol yntau o hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol trwy gymryd rhan mewn dwy ŵyl arlein. Gallwch wylio ei gyfraniadau isod:
‘Mothertongues’ yng Ngŵyl Lenyddiaeth Ryngwladol Cúirt
‘Gobaith – Hope’ yn Festival of Hope, Versopolis
Gwobr Llyfr y Flwyddyn
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn achlysur pwysig yng nghalendr llenyddol Cymru, ac yn dilyn ymgynghori â nifer o gynrychiolwyr o’r sector, gan gynnwys gweisg a llyfrwerthwyr, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd y gwobrau mawreddog yma’n cael eu cynnal ar ffurf ddigidol newydd yn ystod yr haf. Byddwn yn cyhoeddi’r rhestr fer ar 1 Gorffennaf ac yn gwobrwyo’r enillwyr yn ystod Awst 2020. Ynghyd a’n partneriaid, byddwn yn gweithio i ddatblygu cynnwys difyr i lwyfannu a dathlu’r gymdeithas lenyddol fywiog sydd yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r rhain yn cynnwys trafodaethau panel, darlleniadau a gweithgareddau rhyngweithiol i gyd-fynd â’r cyhoeddiadau.
Gallwch ddarllen rhagor am Wobr Llyfr y Flwyddyn yma: https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/llyfr-y-flwyddyn/
I sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys cyfleoedd i awduron, cadwch lygad ar adran Newyddion ein gwefan yn ogystal â’n cyfrifon ar y rhwydweithiau cymdeithasol (ceir dolenni i’r rhain tua diwedd y dudalen hon).
Diweddariadau sefydliadol eraill:
Cronfa ymateb brys i unigolion Cyngor Celfyddydau Cymru
Roeddem yn falch iawn o fod wedi cyfrannu 50% o’n cyllid loteri ar gyfer 2020-2021 i Gronfa Gwytnwch Cyngor Celfyddydau Cymru mewn ymateb i COVID-19. Roedd Llenyddiaeth Cymru yn un o nifer o sefydliadau a gyfrannodd tuag at y pecyn o gefnogaeth ehangach hwn, sy’n cynnwys eu Cronfa ymateb brys i unigolion ar gyfer artistiaid ac ymarferwyr creadigol llawrydd sy’n cael anawsterau ariannol oherwydd y Coronafeirws. Ceir rhagor o wybodaeth yma: https://arts.wales/cy/cronfa-ymateb-brys-i-unigolion
Staff a chyfarwyddwyr Llenyddiaeth Cymru
Mae staff Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio o adref, ac rydym yn defnyddio meddalwedd a dulliau amrywiol sy’n sicrhau fod ein cyfathrebu mewnol yn effeithlon, a bod modd addasu gweithgaredd yn chwim a synhwyrol. Mae’r Uwch Dîm Rheoli yn cwrdd ddwywaith yr wythnos, ac fe gynhelir cyfarfod staff llawn bob yn ail wythnos. Mae llesiant ein staff yn flaenoriaeth i’r sefydliad, felly yn ogystal â sgyrsiau dyddiol gyda rheolwyr llinell, rydym yn cadw pawb mewn cyswllt â’i gilydd gyda boreau coffi ac ambell gwis, ymarferion ‘mindfulness’, a thrwy rannu argymhellion o lyfrau, teledu a ffilm, ryseitiau, a digwyddiadau celfyddydol amrywiol.
Rydym wedi cynnal dau Gyfarfod Bwrdd Eithriadol i drafod materion llywodraethu hanfodol sydd wedi codi o ganlyniad i haint COVID-19, ac mae’r Cyfarwyddwyr a’r tîm Gweithredol yn dilyn cyngor a chyfarwyddiadau’r Llywodraeth a’n noddwyr yn agos a chyson wrth iddynt ein llywio drwy’r cyfnod hwn o ansicrwydd.
Cefnogaeth i awduron:
Rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn wynebu cyfnod eithriadol o bryderus, a hynny yn nhermau ein hiechyd a’n llesiant meddyliol a chorfforol fel unigolion a chymunedau. Rydym yn gobeithio’n arw fod awduron sydd yn wynebu colli incwm wedi derbyn cadarnhad eu bod am dderbyn cefnogaeth, boed hynny trwy Gynllun Cefnogi Incwm y Llywodraeth neu trwy Gronfa ymateb brys i unigolion Cyngor Celfyddydau Cymru.
Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau neu bryderon penodol am sut y gall yr wythnosau a’r misoedd nesaf eich heffeithio chi a’ch cymuned lenyddol, mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni.
Yn y cyfamser, i’r rheiny sydd angen cefnogaeth ar fyrder, gall y sefydliadau isod fod o ddefnydd:
The Society of Authors
Mae nifer o sefydliadau wedi cyfrannu adnoddau ariannol i’r Gronfa Argyfwng Awduron er mwyn cefnogi awduron sydd wedi eu heffeithio’n ariannol gan yr argyfwng Coronafeirws. https://www.societyofauthors.org/Grants/contingency-funds
Royal Literary Fund
Mae’r Royal Literary Fund yn elusen sydd wedi cefnogi awduron ers 1790. Mae’n darparu grantiau a phensiynau i awduron mewn anawsterau ariannol: https://www.rlf.org.uk/
Cysylltwch â ni:
Gallwch gysylltu â ni trwy ein ebost arferol: post@llenyddiaethcymru.org. Os hoffech chi gysylltu â ni am weithgaredd penodol, gallwch ddefnyddio’r cyfeiriadau isod gan gopïo post@llenyddiaethcymru.org i’r neges:
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd: tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Awduron ar Daith: awduronardaith@llenyddiaethcymru.org
Ysgoloriaethau a Mentora: cais@llenyddiaethcymru.org
Bardd Plant Cymru barddplant@llenyddiaethcymru.org
Children’s Laureate Wales childrenslaureate@literaturewales.org
Llyfr y Flwyddyn: LLYF-WBOTY@llenyddiaethcymru.org
Ymholiadau’r Wasg a’r Cyfryngau: gwasg@llenyddiaethcymru.org
Twitter: https://twitter.com/LlenCymru | https://twitter.com/LitWales
Facebook: https://www.facebook.com/LlenCymruLitWales/
Instagram: https://www.instagram.com/llencymru_litwales/