Can mlynedd yn ôl, ar nos Fercher 6 Rhagfyr 1916, derbyniodd David Lloyd George wahoddiad i ffurfio clymblaid yn San Steffan. Ef oedd y Cymro Cymraeg cyntaf, a’r unig un ers hynny, i wneud y swydd.
Bron i dri degawd yn ddiweddarach daeth i fyw yn Nhŷ Newydd. Roedd y cyn Brif Weinidog David Lloyd George yn gyfarwydd â’r tŷ ers ei blentyndod yn Llanystumdwy. Mae’r tŷ oddeutu milltir i lawr y lôn o Brynawelon, cartref y teulu yng Nghricieth, lle bu’n byw gyda’i wraig gyntaf, Margaret a’u plant. Roedd bron yn sicr yn dychwelyd i’w fro i fyw dyddiau olaf ei oes. Daeth ei ail wraig, Frances, a’r pensaer enwog Clough Williams-Ellis i gynllunio a gweithio ar yr adeilad, a bu’n gweithio o amgylch gwaharddiadau llym iawn y Swyddfa Ryfel ar waith adeiladu mewn cartrefi oherwydd prinder deunyddiau.
Llwyddodd Williams-Ellis i greu tŷ oedd yn adlewyrchu cymeriad mympwyol a gwrthgyferbyniol Lloyd George. Yn ddramatig ac yn ymfflamychol, ond eto’n heddychlon a chynnil – mae’r ystafelloedd yn olau ac yn ysgafn ac yn berffaith i fyfyrio’n dawel, ond â’r pŵer a’r urddas hwnnw hefyd sy’n adlewyrchu bywyd wedi ei fyw i’r eithaf. Fel gŵr yn hwyrddydd ei oes fe fyddai Tŷ Newydd wedi darparu awyrgylch gysurus i dawelu’r meddwl.
Ym mis Medi 1944, symudodd Lloyd George i Dŷ Newydd yn barhaol. Ac yno fin nos ar y 18fed o Ragfyr y cyrhaeddodd negesydd o’r Llynges Frenhinol â neges gan y Prif Weinidog Winston Churchill. Roedd yn cynnig iarllaeth i Lloyd George gyda Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Penderfynodd Lloyd George ystyried y mater dros nos, ac yntau’n ymladd â’i ddaliadau sosialaidd. Yn y bore, derbyniodd yr anrhydedd, yn gobeithio cael defnyddio’r cyfle i helpu gyda thrafodaethau heddwch yr Ail Ryfel Byd, ond eto’n rhy wan i ymladd etholiad cyffredinol arall.
Ond ni chafodd Lloyd George erioed y cyfle i gymryd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Bu farw yn heddychlon ar 26 Mawrth 1945 yn y llyfrgell yn Nhŷ Newydd, ar ôl gofyn i’w wely gael ei symud yno fel y gallai weld Bae Ceredigion. Cafwyd ei gladdu hanner milltir i ffwrdd ar lannau’r Afon Dwyfor. Dim ond carreg fawr oedd yn nodi ei fedd i ddechrau, cyn i gofeb o gerrig o ddyluniad Clough Williams-Ellis gael ei adeiladu o’i gwmpas.
Mae Tŷ Newydd yn parhau i atgoffa rhywun o Lloyd George a Williams-Ellis. Mae’n llecyn llawn hanes, ond hefyd yn fan lle mae creadigrwydd yn ffynnu ac yn blodeuo – yn union fel y byddai’r ddau wedi ei ddymuno.