Yn ôl ym mis Awst 2020, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru a Barddas gyfres o wersi cynganeddu digidol dan ofal Y Prifardd Aneirin Karadog. Manteisiodd Simon Chandler ar y cyfle i fynd ati i ymarfer y gynhanedd drwy ddilyn y gwersi, cyn mynd ati i lunio’r blog hwn am fyd y gynghanedd. Mae’r gwersi yn parhau i fod ar gael i’w dilyn, yma.
Mae cymaint o bobl yn chwilio am ddihangfa i fyd arall, ond mae yna fyd anhygoel a leolir ynghanol y Gymraeg: byd cwbl unigryw a chanddo brydferthwch sy’n mynd â’r anadl ac yn dod â dagrau i’r llygaid; byd y gynghanedd.
Wrth gwrs, er mwyn cyrraedd unrhyw fyd arall, mae eisiau gwneud ychydig o ymdrech, ond llawer llai nag y byddech chi’n ei ddisgwyl. Ar ben hynny, mae’r ymdrech dan sylw’n un pleserus dros ben. Yr unig beth sydd ei angen yw esgyn i awyren drosiadol a chaniatáu i’r criw gau’r drws y tu ôl i chi, fel y byddech chi’n ei wneud heb feddwl ddwywaith er mwyn hedfan i unrhyw le yn y byd rhyddieithol.
Pam awyren? Wel, er bod pobl yn sôn yn aml am ganu mewn cadwyni, y gwir yw bod y gynghanedd yn rhoi adenydd i chi. Wedi’r cwbl, does neb yn pwysleisio’r ffaith bod teithwyr awyren yn gaeth i’r caban. Wrth reswm, mae’r holl sôn am y ffaith eu bod nhw’n hedfan, ond mae’n ddigon hawdd anghofio mai’u caethiwed dros dro nhw sy’n caniatáu hynny.
Mae’r un peth yn wir am gynganeddwyr, a ffiniau’r gynghanedd sy’n eu galluogi nhw i chwalu ffiniau’u hiaith arferol ac i hedfan, ond nid fel teithwyr mewn awyren: yn hytrach, fel adar sy’n profi ias y rhyddid eithaf ac yn teimlo’r gwynt yn eu plu, gan nad oes ffordd well o ddisgrifio’r gorfoledd yr ydych chi’n ei brofi wrth gwblhau englyn cywir sy’n mynegi’r hyn yr oeddech chi’n awyddus i’w fynegi, ac eto mewn ffordd a chyda delweddau nad oeddech chi wedi gallu’u dychmygu heb hud y gynghanedd.
Yn fynych, wrth ystyried y cysyniad o ddysgu iaith (er enghraifft), mae pobl yn dueddol o edrych i fyny i wyneb y clogwyn sy’n disgyn yn blwm i’r traeth wrth deimlo’n anobeithiol am ddod o hyd i garreg afael yn y graig i gydio ynddi, ond nid dyna’r ffordd o gyrraedd pen y clogwyn: yn hytrach, cerdded o’i gwmpas sydd ei angen a chymryd yr ôl-lethr esmwyth gron sy’n arwain at y copa o’r tu ôl iddo.
Y newyddion da yw hyn: er bod y gynghanedd yn iaith ynddi’i hun sy’n bodoli y tu mewn i iaith arall (sef y Gymraeg), dyw dysgu sut i gynganeddu ddim yn cymryd llawer o amser o gwbl os ydych chi’n siaradwraig neu’n siaradwr Cymraeg yn barod. Os ydych chi wedi cael profiad negyddol o’r gynghanedd yn yr ysgol, anghofiwch ef: mae popeth yn wahanol os ydych chi’n ailymweld â phwnc yn oedolyn o’ch dewis eich hun.
Iaith yw gorchest fwyaf unrhyw wareiddiad, ac nid yw’r Gymraeg yn eithriad, ond mae hi’n llawer mwy nag iaith wrth gwrs. Yn ôl gwyddoniadur Princeton, y gynghanedd yw “… the most sophisticated system of sound-patterning practised in any poetry in the world …”. Sôn am “world-beating“! Onid yw hynny’n rhywbeth i fod yn hynod o falch ohono?
Y gynghanedd yw etifeddiaeth ddigyffelyb y Cymry Cymraeg, ac mae’n hen bryd i chi’i hadennill a mwynhau’r lles y mae hi’n medru’i roi i chi.
Simon Chandler