• Llun:  Emyr Young
Cyrsiau Tŷ Newydd ar Daith
Iau 23 Chwefror 2017 / Ysgrifennwyd gan Leusa

Eleni, bydd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn mentro ar daith. I roi blas o gyrsiau preswyl 2017 y ganolfan i gynulleidfaoedd dros Gymru, mae Llenyddiaeth Cymru wedi trefnu tri cwrs undydd – gyda mwy i’w cyhoeddi’n fuan.


eurig-salisbury-croppedCynganeddu: Cwrs Undydd gydag Eurig Salisbury
Dydd Sadwrn 1 Ebrill, 11.00 am – 4.00 pm
Yr Hen Goleg, Aberystwyth, SY23 2AX
Ffi: £25
Cofrestrwch yma

Dewch i ganfod cyfrinachau crefft y gynghanedd mewn cwrs undydd sy’n addas i ddechreuwyr, a rhai â pheth gwybodaeth am grefft y gerdd dafod.
Mae Eurig Salisbury yn ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n aelod o dîm y Glêr ar Dalwrn y Beirdd BBC Radio Cymru. Dysgodd y grefft o gynganeddu yn ei arddegau. Ef oedd Bardd Plant Cymru 2011–2013 a Phrif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016.

Bydd Eurig yn cyd-diwtora cwrs preswyl ar y gynghanedd yn Nhŷ Newydd rhwng 10-14 Ebrill gyda’r Prifardd Twm Morys.

 

 

niall-griffiths-croppedDweud Straeon: Cwrs undydd gyda Niall Griffiths
Dydd Sadwrn 1 Ebrill
Yr Hen Goleg, Aberystwyth, SY23 2AX
Ffi: £25
Cofrestrwch yma

Cwrs yw hwn i unrhyw un sydd eisiau adrodd stori, a’i hadrodd yn dda. P’un a’i ydych yn ymddiddori mewn gwaith ffuglen neu ffeithiol, byddwn yn defnyddio cymysgedd o ymarferion ac enghreifftiau i helpu i ddatblygu eich techneg.

Mae Niall Griffiths yn awdur ar saith nofel, cofiant, sawl cyfrol ffeithiol, casgliad o gerddi, a mwy o straeon byrion, dramâu radio, darnau teithio ac adolygiadau nag y gall gyfri. Enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Stump ac addaswyd ei nofel Kelly+Victor yn ffilm a enillodd wobr BAFTA.

Bydd Niall yn tiwtora cwrs preswyl ar Ddweud Straeon yn Nhŷ Newydd rhwng 22-27 Mai gyda Julia Bell, a bydd Tessa Hadley yn ymuno â nhw ar y cwrs fel darllenydd gwadd.

 

 

holly-muller-croppedMei WilliamsCychwyn eich Nofel: Cwrs undydd gyda Kate Hamer a Holly Müller
Dydd Sadwrn 6 Mai, 11.00 am – 4.00 pm
Chapter, Caerdydd,
CF5 1QE
Ffi: £32
Cofrestrwch yma

Mae’r cwrs undydd hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau ysgrifennu nofel. Byddwn yn archwilio dirgelwch y nofel, ac yn edrych ar sut y gallwch chi gychwyn arni, a’i wneud yn gychwyn gwerth chweil.

Cyfieithwyd nofel Kate Hamer, The Girl in the Red Coat, i 16 o ieithoedd, a bu ar frig siartiau gwerthwyr gorau’r Sunday Times. Enillodd Gystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies yn 2011 a darlledwyd y stori fuddugol ar BBC Radio 4. Caiff ei hail nofel, The Doll Funeral, ei chyhoeddi yn 2017.

Mae Holly Müller yn awdur a cherddor. Cafodd ei nofel ffuglen hanesyddol gyntaf, My Own Dear Brother, ei chyhoeddi ledled y byd gan Bloomsbury. Mae’n gweithio tuag at PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ac yn canu a chwarae i’r band pop Hail! The Planes.

Bydd Holly a Kate yn tiwtora cwrs wythnos o hyd yn Nhŷ Newydd rhwng 12-17 Mehefin ar Daith y Nofel: Ysgrifennu Nofel o’i Dechrau i’w Diwedd, a bydd ymweliad gan y darllenydd gwadd A.L.Kennedy.

 


Os byddwch yn penderfynu cofrestru ar y cwrs preswyl cyfatebol yn Nhŷ Newydd yn dilyn y cwrs blasu undydd, caiff eich ffi ei ad-dalu i chi. Gallwch archebu eich lle ar unrhyw un o’r cyrsiau uchod ar-lein, neu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Am fwy o wybodaeth am raglen cyrsiau preswyl Tŷ Newydd ewch i’r dudalen Cyrsiau ac Encilion.