Dechrau fis Ebrill eleni, cyhoeddwyd mai Elan Grug Muse oedd y bardd lwcus ddewisiwyd eleni i dderbyn nawdd o Gronfa Gerallt i fynychu Cwrs Cynganeddu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Roedd Llenyddiaeth Cymru eisoes yn gyfarwydd â thalentau Grug fel llenor. Yn ddisgybl ysgol, bu’n aelod selog o Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd, ac yna’n ymwelydd â Thŷ Newydd ar Gwrs yr Urdd i fuddugwyr cystadlaethau llenyddol Eisteddfod yr Urdd. Ar un o’r cyrsiau hynny yn llyfrgell enwog Tŷ Newydd y daeth y llenorion sy’n gyfrifol am gylchgrawn llenyddol newydd Y Stamp at ei gilydd i ddechrau trafod syniadau. Roedd Grug hefyd ymysg tîm o bedwar bardd ifanc a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2013 i gyfansoddi cant o gerddi mewn 24 awr.
Dyma ychydig o argraffiadau Grug o’r cwrs:
Mae gen i ryw berthynas od efo cynganeddu wedi bod ers blynyddoedd, os mai perthynas ydi’r gair. Ym mlwyddyn saith mi wnes i drio sgwennu awdl i steddfod Groeslon gan ddefnyddio dim byd ond canllaw Yr Odliadur a chopi o Cerddi’r Cywilydd fel arweiniad. Methiant a fu. Dyma roi ambell i dro di-ymroddiad arni hi wedyn bob hyn a hyn dros y blynyddoedd, a hynny rhwng pyliau o ddirmyg llwyr tuag at ‘gwlt’ y grefft a’i pseudo-farddoniaeth (chwedl finna) a phyliau o genfigen llwyr a bod bron â thorri mol eisiau cael bod yn y ‘cwlt’, pseudo-farddoniaeth neu beidio.
A dyna sut stad oedd ar fy enaid i pan landies i yn Nhŷ Newydd, wythnos cyn y Pasg i fynychu cwrs cynganeddol dan diwtoriaeth Twm Morys ac Eurig Salisbury, a hynny trwy nawdd hael y Gymdeithas Gerdd Dafod drwy Gronfa Gerallt. Yn chwilfrydig, fymryn yn amheuol, a heb ‘run clem be i ddisgwyl. A fyddai yna ryw ddefodau rhyfedd i’w cwblhau cyn inni gael ein gwadd i ymdrybaeddu yng nghyfrinachau’r grefft? Aberthu ŵyn bach tan leuad lawn? Trochi’n noeth yn nyfroedd y Ddwyfor?
Mi fysa hynny wedi gwneud blog hynod o ddifyr yn bydda? Ond yn anffodus i chi, a ffodus iawn i mi, digon sidêt fuodd y cwrs ar y cyfan. Wel, heblaw am y pastynu. Ond mi ddoi ‘nôl at hynny. Mi rannwyd y criw o 7 (chwe merch, un bachgen. Ffeministiaeth 1: 0 Patriarchaeth) yn ddau, yn Ddechreuwyr dan adain Eurig, a Mireinwyr yng ngofal Twm. A dyna fynd ati am dridiau i ddechrau ac i fireinio, gan lunio croes-o-gyswllts a thribannau a llusg-linellau ac englynion cildwrn a chwpledi a phob math o bethau hyfryd a swynol, nes dod at uchafbwynt y cwrs ar y nos Iau olaf, sef Talwrn mawreddog yn Nhafarn y Plu, gyda’r Gwylliaid Cochion yn herio Tîm Ab. A dyna i chi ornest na welwyd ei math erioed o’r blaen ar dir plwy Llanystumdwy, gyda llinellau Llusg mewn Lladin yn ymrafael a chynganeddion mewn ieithoedd na’s clywid ar y ddaear hon o’r blaen, ac englynion yn ymdaflud codwm a’i gilydd a gwaed a choluddion (trosiadol) yn tasgu i bob man. Roedd y Gwylliaid a Thîm Ab benben, nes yn sydyn, rhwng dau gywydd ac englyn milwr, wele Dîm Ab yn estyn am y pastwn…
Ie, y pastwn. Y mae derwydd ym Methesda, yn ôl pob tebyg, a rhyw stori hir ganddo o oes yr arth a’r blaidd am feirdd Cymru yn llafarganu eu cerddi i gyfeiliant telyn, neu, os oedd pres braidd yn brin i gael telyn gyfan yn llinynnau i gyd, yna mi wnâi pastwn y tro. Ac y mae’r bardd Morys yn honni ei fod yn un o griw dethol a ddysgodd y grefft honno gan yr hybarch dderwydd. Yn naturiol, teimlodd nad oedd dysgu’r gynghanedd mewn tridiau yn ddigon o her i griw’r cwrs, ac y dylid ei dysgu hefyd i gyfeilio i’w cerddi arobryn efo ffon fugail ar lawr teils tafarn. A wir i chi, mi gymerodd ambell un at y grefft yn reit arw. Ac fel car yn mynd o not-i-sicsti, wele fynd o ddiniweidrwydd llwyr i fod yn cyfeilio i’w cywyddau nhw eu hunain efo pastwn mewn tafarn yn Eifionydd mewn tridiau.
Rhyw wythnos fel yna fuodd hi felly. Yn dysgu a gneud ffrindiau a mwydro a bwyta a chael llond bol o hwyl. Diolch o galon i Dŷ Newydd am ein cael ni, i Tony am y bwyd bendigedig, ac i Twm ac Eurig am ein rhoi ni ar ben ffordd. A wyddoch chi be? Dydi’r busnes cynganeddu ‘ma ddim mor anodd a ma’ nhw’n ddeud…