Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi rhaglen newydd o gyrsiau ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer 2023.
Mae dros 60 o awduron o Gymru a thu hwnt yn cynnig eu harbenigedd i’r rhaglen eleni, gan gynnwys enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, Sioned Erin Hughes, ac enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022, Meinir Pierce Jones.
Yn gymysgedd o gyrsiau undydd a rhai preswyl, bwriad y cyrsiau ysgrifennu creadigol yw datblygu sgiliau awduron newydd yn ogystal â rhoi cyfle i lenorion mwy profiadol gymryd y cam nesaf gyda’u crefft. Bydd cyrsiau yn canolbwyntio ar hogi eich ffuglen, creu deunydd darllen difyr yn seiliedig ar ddigwyddiadau ffeithiol, barddoniaeth o bob math, creu llyfrau llun a stori, chwedleua a mwy. Bydd y cyrsiau yn cynnig sawl trywydd i awduron, ac ymysg rhai o brif themâu’r cyrsiau y mae ysgrifennu i iachau, taclo’r argyfwng hinsawdd drwy lenyddiaeth, cydraddoldeb ac ysbrydoliaeth byd natur.
Mae yma bob amser groeso cynnes i awduron newydd i ddod atom am y dydd, neu ar gwrs preswyl sydd yn cynnwys llety a bwyd, a bydd ein staff bob amser yn hapus i gynghori ar gwrs addas neu i roi rhagor o wybodaeth. Mae gostyngiad i’r rheiny sy’n dymuno mynychu’n cyrsiau yn ddibreswyl.
Bydd ein Cwrs Cynganeddu blynyddol yn gyfle perffaith i fentro i fyd cerdd dafod dan ofal Manon Awst a Rhys Iorwerth; a bydd encil wythnos yng nghwmni Laura Karadog a Bethan Marlow yn edrych ar blethu’r ddwy grefft lesol o ysgrifennu a yoga. Bydd cyfle hefyd i ymgolli mewn creu cyfrolau llun a stori i blant yng nghwmni’r cwpl creadigol, Huw Aaron a Luned Aaron a bydd ein cwrs poblogaidd i siaradwyr Cymraeg newydd yn dychwelyd, gyda’r tiwtoriaid Bethan Gwanas a Siôn Tomos Owen yn arwain gweithdai ar bob math o ysgrifennu creadigol.
Mae sawl cwrs undydd ar droed i danio’r awen ac i gynnig blas ar sawl crefft lenyddol, yn cynnwys ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc yng nghwmni’r awdur poblogaidd Bethan Gwanas; cyfle i archwilio’r grefft o ysgrifennu’n gryno yng nghwmni Sioned Erin Hughes; a chyfle i ymgolli ym myd ysgrifennu ffuglen hanesyddol dan ofal medrus Meinir Pierce Jones. Bydd rhagor o gyrsiau undydd a chyrsiau blasu digidol yn cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn er mwyn parhau i danio’ch awen greadigol.
Yn ogystal â chyrsiau wedi eu tiwtora, bydd encilion tymhorol yn y rhaglen i roi’r amser a’r tawelwch i awduron newydd gychwyn ar ddarn o waith yn eu hamser eu hunain, gan fwynhau cael eu prydau bwyd oll wedi eu darparu iddynt gan ein cogydd preswyl profiadol. Bydd ymwelwyr gwadd o’r diwydiant cyhoeddi yn ymweld ar ambell encil, i roi cyngor i’r rheiny sy’n barod i gymryd cam tuag at gyhoeddi eu gwaith. Bydd encil penodol ar gyfer awduron sy’n gweithio drwy’r Gymraeg yn ystod hanner tymor yr hydref, i annog rhwydweithio a sgwrsio am heriau a chyfleoedd.
Os mai llonydd llwyr ar wyliau ysgrifennu sy’n mynd â’ch bryd, gallwch archebu lle ym Mwthyn Encil Awduron Nant, sef gofod bach clyd ar y safle sydd wedi ei gynllunio’n arbennig i ddarparu gofod heddychlon i awduron ganolbwyntio ar eu gwaith. Mae ysgoloriaethau ar gael ar gyfer Nant hefyd, yn ogystal â’n cyrsiau preswyl. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Ymysg yr enwau sy’n arwain y cyrsiau drwy’r Saesneg yn bennaf y mae Menna Elfyn, Kit de Waal, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke, Sophie Mackintosh, Andrew McMillan, Mike Parker, Carol Ann Duffy, yr awdur trosedd poblogaidd Katherine Stansfield, Owen Sheers a llu o enwau profiadol eraill i’w canlyn. Gall sawl un o’r tiwtoriaid hyn gynnig arweiniad a chyngor ar waith creadigol yn y Gymraeg.
Mae’r cyrsiau oll i’w gweld ar wefan www.tynewydd.cymru
Am ragor o wybodaeth am Dŷ Newydd neu am unrhyw un o’n cyrsiau neu encilion, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org