Cyhoeddi Grŵp Awduron Cwrs Llyfrau i Bawb
Maw 29 Mawrth 2022 / , / Ysgrifennwyd gan Llenyddiaeth Cymru

Wyth awdur plant newydd yn mynychu cwrs arbennig yn Nhŷ Newydd.

Yn ôl ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru alwad agored i awduron o liw, sy’n byw yng Nghymru, i ymgeisio am gyfle i gymryd rhan mewn cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Dan arweiniad yr awduron profiadol Patience Agbabi a Jasbinder Bilan, byddai’r cwrs yn cynnig gweithdai, sgyrsiau a thrafodaethau er mwyn helpu i ddatblygu crefft ysgrifennu creadigol ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Awduron Llyfrau i Bawb yn Nhŷ Newydd
Awduron cwrs Llyfrau i Bawb yn Nhŷ Newydd.

Dylai plant a phobl ifanc Cymru allu uniaethu â’r llyfrau maen nhw’n eu darllen, gweld teuluoedd a sefyllfaoedd sy’n debyg i’w bywydau eu hunain, a dod o hyd i fodelau rôl yn eu hoff gymeriadau. Dim ond 9% o’r llyfrau plant a gyhoeddwyd yn y DU dros y pedair blynedd diwethaf sy’n cynnwys cymeriadau o liw*. Ynghyd â phartneriaid strategol, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb a’r dangynrychiolaeth hon o fewn diwylliant llenyddol Cymru trwy gynnig cyrsiau hyfforddi a mentora, llwyfannu cyfleoedd, cyngor gyrfa, a chyfeirio gwybodaeth neu gyfleoedd at awduron sy’n cael eu tangynrychioli. 

Erbyn hyn, mae’r grŵp o awduron a ddewiswyd  newydd orffen eu hwythnos breswyl yn Nhŷ Newydd, rhwng 21 – 25 Mawrth. Yn ystod y cwrs, cawsant weithdai niferus a sesiynau un-i-un gyda’r tiwtoriaid arobryn, Patience Agbabi a Jasbinder Bilan, yn ogystal â phrofi dau weithdy diwydiant yng nghwmni Simran Sandhu, golygydd llyfrau plant gyda Macmillan; Leonie Lock, golygydd gyda Firefly Press, ac Alex Wharton, a gyhoeddodd gyfrol o gerddi i blant yn ddiweddar, Daydreams and Jellybeans gyda gwasg Firefly. 

*Adroddiad CLPE, Reflecting Realities: https://clpe.org.uk/ 

 

Yr wyth awdur yw:  

Ymchwilydd teledu ac ysgrifenydd creadigol yw Alexia J.A Barrett, sydd yn byw yng Nghaerdydd. Yn 2020, fe raddiodd o Brifysgol Caerdydd a phenderfynu dilyn ei breuddwydion i fyd y cyfrangau a’r byd ysgrifennu. Yn 2020, cyhoeddodd Alexia ei nofel ffanasi gyntaf, A Gatekeeper and the Celestial Sovereign (hunan-gyhoeddedig, 2020) dan y ffug-enw, M.Lexi. Bellach yn 2022, mae hi’n gweithio ar nofel fer ac ar lên micro tra’n parhau i weithio gyda Wildflame Productions ar raglenni ffeithiol. Mae Alexia wedi ysgrifennu cyfres o straeon plant yr hoffai eu cyhoeddi ac mae ar hyn o bryd yn chwilio am asiant. 

 

Daw’r awdur a’r cyfathrebwr Jade E. Bradford o Swydd Hertford, ond mae bellach yn byw yn ne Cymru. Yn gweithio yn llawn amser yn y maes tai cymdeithasol, mae Jade yn teimlo’n angerddol dros faterion cyfiawnder cymdeithasol a chynrychioli lleisiau sy’n cael eu ymylu drwy ei gwaith. Bu Jade yn rhan o raglen Egin Awduron Llenyddiaeth Cymru yn 2021. Mae gan Jade radd MA mewn ysgrifennu creadigol, a’i hoffter pennaf yw straeon byrion i bob oed, a ffuglen pobl ifainc sy’n canolbwyntio ar hapusrwydd merched du. 

 

 

Mae Chandrika Joshi yn chwedleuwraig, yn offeiriades Hindwaidd, ac yn awdur ar gychwyn ei gyrfa. Cyhoeddwyd ei ysgrif, Spirited Storytelling, yn y casgliad Seventy Years of Struggle and Achievement: Life Stories of Ethnic Minority Women Living in Wales (Parthian, 2021). Fe’i chyhoeddwyd hefyd gan Wales Arts Review. Cyhoeddwyd ei stori fer, Fractured Glass, am griw o bob ifainc Ugandaidd-Asiaidd mewn pentref bach Cymreig yn 1973, gan Artes Mundi, ac enillodd le ar raglen Egin Awduron Llenyddiaeth Cymru, dan nawdd Ymddiriedolaeth Rhys Davies, yn 2021. Mae yn ddeintydd cymwysedig, ac yn dderbynnydd Gwobr Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig. 

 

Awdur Cymreig-Cape Verdaidd yw Nia Morais, sydd yn byw yng Nghaerdydd. Mae lot o’i gwaith yn canolbwyntio ar themâu sydd yn ymwneud â themâu o hunaniaeth a goroesi. Cyhoeddwyd ei drama gyntaf, Crafangau, fel drama sain gyda Theatr y Sherman yn 2020, a’i ail-gyhoeddi fel drama lwyfan yn haf 2021. Hi yw Awdur Preswyl Theatr y Sherman ar gyfer 2022, a bu hefyd yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru 2021-22. Mae hi wedi cyhoeddi straeon byrion, cerddi a blogs. 

 

 

Ganwyd Hammad Rind ym Mhunjab, Pacistan, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Astudiodd lenyddiaeth Saesneg a Pherseg ym Mhrifysgol Punjab, Lahore, ac yna astudiodd ffilm ym Mhrifysgol Kingston, Llundain. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Four Dervishes (Seren, 2021), nofel sydd yn ymdriniaeth ddychanol o gymdeithas wedi ei seilio yn llac ar ddastan neu chwedl gan y bardd Indo-Bersiaidd, Amir Khusro. Mae gwaith Hammad wedi ymddangos mewn sawl cylchgrawn yng Nghymru a thu hwnt, yn cynnwys The Madras Courier, James Joyce Broadsheet ac Y Stamp. Mae’n arwain gweithdai cyson ar chwedleua a llenyddiaeth y Dwyrain. Mae Hammad yn siarad Wrdu, Saesneg, Perseg, Tyrceg, Ffrangeg, Hindi, Pwnjabeg, Saraiki ac mae’n ysgrifennu mewn sawl un o’r ieithoedd hyn hefyd. 

 

Mae Gail Sequeira yn byw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lle mae’n rhedeg gwely a brecwast ac yn achlysurol, er hwyl, tecawê. Yn blentyn, fe drodd at ysgrifennu er mwyn ceisio deall y byd o’i chwmpas. Dim ond yn ystod y cyfnod clo cyntaf y dechreuodd ysgrifennu o ddifri. Hyd yma mae ei hanes llenyddol wedi ei gyfyngu i farddoniaeth a ffantasi mytholegol ar gyfer plant ifanc. Mae’n gobeithio datblygu rhwydwaith a fydd yn ei hannog i wthio heibio ei ffiniau ac i ddatblygu ymhellach fel awdur. 

 

 

Mae Sashawne Smith yn awdur Saesneg ac yn Beiriannydd Sifil. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd yn 2021 ac mae hi ar hyn o bryd yn dilyn MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Mae hi’n Ysgolor Curtis Brown, ac yn gweithio ar ei nofel gyntaf ar hyn o bryd. Cymerodd ran yn rhaglen Egin Awduron Llenyddiaeth Cymru yn 2021. Gellir dod o hyd i’w geiriau mewn cylchgronau barddoniaeth ar-lein amrywiol ac yn Black Ballad yn y dyfodol agos. 

 

 

Genetegydd meddygol yw Dr. Surabhi Kandaswamy, sy’n gweithio ar hyn o bryd fel Darlithydd Genomeg Glinigol ym Mhrifysgol Manceinion. Fel awdur, mae gan Surabhi ddiddordeb mewn dogfennu treftadaeth ddiwylliannol pobl drawsrywiol ledled y byd gan ganolbwyntio ar grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae ganddi ddiddordeb mewn dod â phrofiadau bywyd unigryw yn canolbwyntio ar leiafrifoedd rhyw i lyfrau prif ffrwd, gan anelu at greu cymuned gynhwysol gyda derbyniad, undod ymhlith amrywiaeth. Diddordebau Surabhi yw crefftau, gwau, braslunio, beicio a garddio.