Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal cwrs arloesol i awduron a darlunwyr plant 3-7 oed ar y cyd â Chyngor Llyfrau Cymru mewn ymdrech i lenwi silffoedd siopau llyfrau â chyhoeddiadau lliwgar Cymraeg i blant.
Bydd y cwrs yn gyfle arbennig i chwe awdur a chwe darlunydd newydd ym maes ysgrifennu i blant ddod ynghyd am wythnos yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Cynhelir y cwrs cyfrwng Cymraeg hwn yn ystod hanner tymor mis Chwefror 2019 (dydd Llun 25 Chwefor – dydd Gwener 1 Mawrth), ac mae’r broses ymgeisio ar agor nawr. Croesawir ceisiadau gan awduron a darlunwyr newydd, rhai sydd â pheth profiad yn y maes, ac awduron a darlunwyr profiadol mewn meysydd eraill sy’n edrych am her newydd.
Dan ofal dau diwtor, y Prif Lenor Manon Steffan Ros a’r darlunydd poblogaidd Jac Jones, bydd y cwrs yn cynnwys: gweithdai dwys i ddatblygu crefft y cyfranogwyr; astudiaeth o’r maes llyfrau plant gan edrych ar lenyddiaeth fyd-eang am ysbrydoliaeth; ac ymweliadau gan awduron gwadd. Daw’r wythnos i ben ar Ddydd Gŵyl Dewi gyda chyfle i’r awduron a darlunwyr gynnig syniadau o flaen panel o olygyddion gweisg Cymru.
Rydym yn falch o allu cydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar y prosiect cyffrous hwn i feithrin talent ym maes ysgrifennu a darlunio llyfrau llun a stori. Bydd gweld cynnydd yn y cynnyrch gwreiddiol yn y genre pwysig yma yn rywbeth y dylid ei groesawu. .
– Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru
Braf fydd cael cydweithio â’r Cyngor Llyfrau i ddarparu cwrs fydd yn help i lenwi bwlch penodol yn y byd cyhoeddi Cymraeg, a hynny yng nghwmni cewri yn y maes llên plant. Braf hefyd yw cael cydweithio â’r Cyngor i ymateb i alw’r Dr Siwan Rosser yn ei Harolwg Llyfrau Plant a Phobl Ifanc y dylid datblygu mwy o weithgareddau i sbarduno syniadau ac i fentora awduron llyfrau plant.
– Leusa Llewelyn, Pennaeth Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Y dyddiad cau i ymgeisio yw 5.00 pm brynhawn Mercher 31 Hydref. Bydd angen:
- Llenwi ffurflen gais fer, a’i gyrru ynghyd ag
- Unai amlinelliad o syniad ar gyfer stori blant 3-7 oed; neu ddarlun addas i dudalen o lyfr plant 3-7 oed; neu rhwng 100-200 gair o stori.
Am ffurflen gais neu am ragor o wybodaeth ebostiwch: tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg fydd hwn. Croesawir darlunwyr sy’n dysgu Cymraeg sydd ar lefel Canolradd neu uwch. Bydd holl brydau bwyd yr wythnos, a llety cyffyrddus, yn gynwysedig gyda’r cwrs. Yn anffodus ni allwn dalu costau teithio i’r Ganolfan. Bydd panel o gynrychiolwyr o Gyngor Llyfrau Cymru, Llenyddiaeth Cymru, a chyfeillion o’r sector lenyddol yn ehangach yn cwrdd i benderfynu ar y ceisiadau llwyddiannus. Bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod erbyn dydd Gwener 9 Tachwedd. Caiff y cwrs hwn ei drefnu a’i ariannu gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, gyda diolch hefyd i deulu’r diweddar Olwen Dafydd am rodd hael tuag at y cwrs.