Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru a Barddas gyhoeddi cyfres o wersi cynganeddu digidol ar gyfer haf 2020, dan ofal Y Prifardd Aneirin Karadog.
Wedi’r siom o orfod gohirio ein Cwrs Cynganeddu blynyddol yn ôl ym mis Mehefin, rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r gyfres hon o wersi cynganeddu digidol, am ddim, dan arweiniad Aneirin Karadog – gyda’r gobaith o ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gynganeddwyr. Er fod drysau Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wedi bod ar gau dros y misoedd diwethaf, mae ein hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i awduron fireinio a datblygu eu sgiliau llenyddol yn parhau.
Mewn cyfres o wyth gwers, cewch ddysgu’r hen grefft o gynganeddu gan gynganeddwr o fri. Gallwch ddilyn y gwersi hyn ar eich hynt eich hun, gan ddychwelyd atynt dro ar ôl tro. Mae’r gwersi ar gael yn rhad ac am ddim ar sianel AM Llenyddiaeth Cymru a Barddas, neu drwy’r dolenni isod. Bydd modd cael mynediad atynt ar unrhyw adeg rhwng 3 Awst – 30 Medi 2020.
Gwers 1: https://www.youtube.com/watch?v=Nt631yx0k-g
Gwers 2: https://www.youtube.com/watch?v=spnCR527yCo
Gwers 3: https://www.youtube.com/watch?v=2a4nRwCMG9Q
Gwers 4: https://www.youtube.com/watch?v=DssoVoy5ehE
Gwers 5: https://www.youtube.com/watch?v=i7XdcYoGUXw
Gwers 6: https://www.youtube.com/watch?v=pYybx-hJ_tw
Gwers 7: https://www.youtube.com/watch?v=RbQjGWwCUO0
Gwers 8: https://www.youtube.com/watch?v=XuRabuqPpB8
Wrth ddilyn y gwersi, mae croeso i chi gysylltu gydag unrhyw gwestiynau neu sylwadau. Cyfeiriwch eich ebyst at sylw Aneirin, a’u hanfon draw at tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Am ragor o wybodaeth am ein cyrsiau digidol, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811