Cwrs Cynganeddu Tŷ Newydd: Dau fardd yn derbyn nawdd gan gronfa er cof am Gerallt

Bydd dau fardd ifanc yn derbyn nawdd gan Gronfa Gerallt eleni i fynychu Cwrs Cynganeddu preswyl Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Mae Llenyddiaeth Cymru eisoes yn gyfarwydd â thalentau Caryl Bryn ac Osian Wyn Owen wedi iddynt fod yn rhan o’r tîm a lwyddodd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr yn Her 100 Cerdd y llynedd.

Cafodd y gronfa, a weinyddir gan Gymdeithas Barddas, ei sefydlu er cof am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen, er mwyn cynorthwyo datblygiad y gerdd dafod, a hybu ei hapêl i bobl ifanc.

Daw Caryl Bryn yn wreiddiol o Amlwch, ym Môn, ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Llanberis. Graddiodd yn 2017 o Brifysgol Bangor ac mae bellach yn astudio ar gyfer gradd MA Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi Hwn ydy’r llais, tybad? (Cyhoeddiadau’r Stamp) yn gynharach eleni.

Meddai Caryl, “Dw i’n cynganeddu ers sawl blwyddyn rŵan – wedi cael blas arni yn y Brifysgol a thu hwnt. Dw i’n fyfyriwr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ers bron i bum mlynedd erbyn hyn ond erioed wedi derbyn gwers gan Yr Athro Peredur Lynch felly rydw i wedi gwirioni ‘mod i’n cael wythnos dan ei adain. Dwi hefyd yn credu fod Karen Owen yn athrylith – bydd yn fraint a hanner cael mynd i Dŷ Newydd i roi sglein ar fy ngallu cynganeddol!”

Daw Osian Wyn Owen o’r Felinheli yn wreiddiol, ond bu’n byw ym Mangor ers tair blynedd fel myfyriwr. Graddiodd â gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg fis Mehefin, ac mae newydd ddechrau astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mangor. Bu’n ysgrifennu rhyddiaith ers rhai blynyddoedd, ond yn ddiweddar, mentrodd i fyd barddoniaeth. Cipiodd y ddwbl, y Gadair a’r Goron, yn Eisteddfod Ryng-golegol 2017, cyn cipio’r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog yn 2018. Mae’n rhan o griw o fyfyrwyr sydd wedi sefydlu cymdeithas lên newydd ym Mhrifysgol Brifysgol – Cymdeithas John Gwilym Jones.

Caryl Bryn
Osian Owen

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dyma’r pedwerydd tro i’r cwrs preswyl ar y gynghanedd gael ei gynnal yn Nhŷ Newydd. Ymysg y beirdd sydd wedi derbyn nawdd Cronfa Gerallt yn y gorffennol y mae Elan Grug Muse, Matthew Tucker, Mared Ifan, Morgan Owen, a Iestyn Tyne a ddaeth ar y cwrs fel dechreuwr yn y gynghanedd, ond a aeth ymlaen i ennill Cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifainc y gaeaf hwnnw gyda cherdd gaeth.

Meddai Aneirin Karadog, Cadeirydd Cymdeithas Barddas: “Mae Barddas yn hynod o falch o gael parhau i noddi a chefnogi doniau ifanc y byd barddol Cymraeg. Ar ôl tiwtora arno’n flaenorol, gwn o brofiad mor wych ac effeithiol yw’r Cwrs Cynganeddu yn Nhŷ Newydd. O gofio’r broses araf a hir y bum i’n bersonol drwyddi i ddysgu’r gynghanedd, credaf mai’r cwrs carlam hwn yw’r ffordd orau i ddysgu cynganeddu ac i fireinio eich crefft os ydych chi eisoes yn medru cynganeddu.”

Bydd Caryl ac Osian yn ymuno â chyfranogwr eraill sy’n awyddus i gael eu ymdrochi yn y gynghanedd yng nghwmni’r tiwtoriaid Karen Owen a Peredur Lynch. Bydd y criw yn rhannu’n ddau grŵp, un ar gyfer dechreuwyr a’r llall ar gyfer y rhai â pheth profiad.

Cynhelir y Cwrs Cynganeddu yn Nhŷ Newydd o ddydd Llun 13 – dydd Gwener 17 Mai. Mae pris y cwrs yn ddibreswyl yn cychwyn o £245 y pen, a cwrs â llety o £350.

Am ragor o wybodaeth, neu i gofrestru ar gyfer lle munud olaf ar gyfer y cwrs, ewch i: www.tynewydd.cymru