Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am hynny’n union. Am y llyfrau gorau o’r goreuon dros y blynyddoedd y byddai plant a phobl ifainc heddiw yn eu mwynhau a’u gwerthfawrogi. Ydyn nhw yn gyfrolau sydd wedi ennill Gwobr Tir na n-Og dros y blynyddoedd, neu’n rhywbeth hollol wahanol? Ydyn nhw’n storïau oesol neu’n stori sy’n cyfleu cyfnod yn arbennig o dda? Beth am ymuno yn yr hwyl, dewiswch eich hoff lyfrau i’w cyflwyno i blant a phobl ifanc heddiw?
Dyma gasgliad byr o hoff lyfrau plant a phobl ifainc staff Llenyddiaeth Cymru yn Nhŷ Newydd:
“Sothach a Sglyfath gan Angharad Tomos ydi un o fy hoff lyfrau hyd heddiw. Does rûn llyfr arall wedi llwyddo i ymgartrefu yn fy nychymyg fel a wnaeth y llyfr hwn. Dwi’n dal i gael hunllefau am gael fy herwgipio i’r castell dychrynllyd hwnnw. Ond gan fy mod wedi ei ddarllen ganwaith – dwi hefyd yn cofio’r tric hud a lledrith fydd yn fy helpu i ddianc…” – Leusa Llewelyn, Pennaeth Tŷ Newydd
“Treuliais y rhan fwyaf o’m harddegau yn darllen ac ail-ddarllen Tydi Bywyd yn Boen gan Gwenno Hywyn, ac mae’r llyfr yn dal i roi gwen ar fy wyneb hyd heddiw. Mae anturiaethau ac anlwc Delyth Haf yn parhau i fod yr un mor ddoniol ac erioed. Mae’n rhaid hefyd pwysleisio pwysigrwydd Cyfres Darllen Stori Mary Vaughan Jones ar fy mhlentyndod, ac mae cymeriadau’r llyfrau yn cael eu hail-ddarganfod bellach gan fy merch fach wrth i ni ddarllen hanesion Sali Mali, y Pry Bach Tew a Tomos Caradog gyda’n gilydd. Maen nhw’n gymeriadau a llyfrau sy’n dal i ddod a gwen i’r wyneb bron i 50 mlynedd ar ôl eu cyhoeddiad cyntaf.” – Ceri Collins, Rheolwr Safle Tŷ Newydd
“Perlau Neli gan Marian Jones heb os, yw un o hoff lyfrau fy mhlentyndod. Mae’r lluniau yn dal yn fyw yn fy nghof i hyd heddiw, a dwi wrth fy modd yn darllen hanes Neli i blantos bach y teulu.” – Miriam Williams, Swyddog Marchnata a Rhaglennu Tŷ Newydd
“Yn bendant, fy hoff lyfr Cymraeg i ydi straeon Y Mabinogi. Maen nhw’n wych.” -Tony Cannon, Cydlynydd Arlwyo a Lletygarwch Tŷ Newydd
“Roedd yna fwrlwm o gyhoeddi nofelau gwreiddiol i blant yn ystod diwedd yr wythdegau, a dwi’n cofio mwynhau darllen llyfrau Cyfres Corryn fel Castell Norman a Loti: straeon doniol a drygionus wedi eu haddurno â lluniau gwych Jac Jones. Yna’n ddiweddarach ro’n i (fel llawer iawn o ferched ledled Cymru) yn mwynhau helyntion Delyth Haf yn Tydi Bywyd yn Boen.
Llyfr tipyn yn hŷn oedd fy ffefryn fodd bynnag; ro’n i wedi etifeddu hen gopi fy modryb o Luned Bengoch ac roedd gwybod mai hwnnw oedd ei hoff lyfr hi a Mam pan roedden nhw’n blant yn ychwanegu at ei swyn. Ro’n i wrth fy modd yn darllen hanes yr arwres bengoch o Nant Gwrtheyrn ac rwy’n dal i gofio talpiau o’r testun. Ro’n i hefyd yn hoff iawn o wrando ar y tâp stori a gyhoeddwyd tua’r un pryd; byddai lleisiau Falmai Jones, Cefin Roberts a Dyfan Roberts yn fy sugno’n llwyr i antur Luned a Rhys yn chwilio am Owain Glyndŵr.” – Mared Roberts, Rheolwr Llenyddiaeth yn y Gymuned
“Llyfr Mawr y Plant aeth a’m bryd i pan yn blentyn. Dwi’n 60 mlwydd oed bellach ac mae’r copi a ges a fy chwiorydd pan o’n i’n 9 oed dal gennai. Dwi wedi lliwio rhai o’r lluniau a’r llythrennau ac wedi ysgrifennu pytiau o sgyrsiau fy hun at y rhai yn y llyfr! Mae ynddo straeon antur, posau o bob math, pytiau o ddramâu bychain, lluniau gafaelgar a chymeriadau lliwgar, cofiadwy fel Wil Cwac Cwac, a Sion Blewyn Coch. Mae’n drysor o lyfr.” – Gwen Lasarus James, Swyddog Cymunedol
“Dwi wedi dewis dau, sef Hwyl Llong Afon a Llong Afon Ahoi! gan Lucy Kincaid. Y darluniau sydd wedi aros yn fy meddwl i, yn hytrach na’r straeon. Rwy’n cofio’n glir y dyfrgi, yr hwyaid a’r cwch mawr glas, ac anrhefn newydd ar bob tudalen.” – Elan Rhys, Swyddog Prosiect Llên Pawb
Gallwch chithau hefyd ymuno yn y sgwrs trwy awgrymu teitlau ar y cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch ddefnyddio’r hashnod #gorauorgoreuon.