90 mlynedd yn ôl, dywedodd Virginia Woolf fod angen i ferch gael arian ac ystafell ei hun os am fod yn awdur. Yn 2019, mae’r RSL (Royal Society of Literature) eisiau gwybod pa fath o anghenion a gofynion sydd gan awduron presennol y DU, boed ar ddechrau eu gyrfa neu yn brofiadol tu hwnt, er mwyn llwyddo’n broffesiynol.
Wrth i incwm awduron leihau yn sylweddol – o £18,000 yn 2018 i £10,500 yn 2018, yn ôl ymchwil annibynnol gan ALCS – mae’r RSL eisiau gwybod beth ydych chi ei angen i weithio: o arian a mentora, cyngor ar gytundebau neu gefnogaeth asiant, beth ydych chi ei angen i gael gyrfa mewn ysgrifennu?
Yw’r arolwg hwn i mi? Mae’r arolwg yma ar gyfer awduron sydd ar hyn o bryd yn elwa’n ariannol o ysgrifennu, neu’r rheiny sy’n anelu at wneud hynny. Beth bynnag eich cyrhaeddiad yn eich gyrfa fel awdur, boed ar ddechrau’ch taith ac eto i’ch cyhoeddi neu boed chi’n awdur toreithiog gyda dros 30 o deitlau neu gynyrchiadau i’ch enw. Os ydych chi’n ystyried eich hun fel awdur, eich bod chi dros 16 mlwydd oed ac yn byw yn y DU, mae’r RSL am glywed eich barn chi.
Mae’r RLS yn arwain yr ymchwil hwn mewn ymgynghoriad â sefydliadau datblygu awduron, noddwyr a chefnogwyr ar draws y DU, gan gynnwys: Arts Council England, Arts Council Northern Ireland, Creative Scotland, Llenyddiaeth Cymru, Literature Works, National Centre for Writing, New Writing North, New Writing South, Scottish Book Trust, Scottish Poetry Library, Society of Authors, Spread the Word, The Literary Consultancy, Writers’ Guild of Great Britain, Writing East Midlands a Writing West Midlands.
Bydd yr RLS yn cyhoeddi canfyddiadau’r arolwg ar Ddiwrnod Dalloway (Dalloway Day), 19 Mehefin 2019. Mae’r ymchwil hwn wedi ei gyllido gan ALCS.
Cwblhewch yr arolwg yma: http://bit.ly/UKWritersSurvey