Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol dros ddatblygu llenyddiaeth. Rydym yn elusen gofrestredig, a cawn ein hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn gweithio yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog ledled Cymru. Lleolir ein swyddfeydd yn Llanystumdwy ac yng Nghaerdydd.
Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth. Rydym yn hwyluso, noddi ac yn cyflawni rhaglen llenyddol ledled Cymru. Mae ein gwaith yn cynnwys ysbrydoli cymunedau trwy gyfranogi mewn llenyddiaeth, datblygu sgiliau a thalentau awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru. Gallwch ddarllen rhagor am ein gwahanol feysydd gweithgaredd ar ein tudalen Prosiectau.
Yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o rym llenyddiaeth i drawsnewid a gwella bywydau, rydym wedi dewis nodau sy’n adlewyrchu ein huchelgais a’n dyheadau ar gyfer Cymru. Maent yn cyd-fynd â Saith Nod Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i sicrhau bod popeth a wnawn yn helpu i gyflawni un neu fwy o’r nodau hyn.
Ein nodau:
Mae Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2022-2027 ar gael i’w ddarllen yma.