Nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb yng Nghymru a fyddai’n elwa o gwrs yn Nhŷ Newydd i wneud hynny, waeth beth fo’u hincwm neu lefel eu profiad. Mae gweithio gydag awduron ar incwm isel wedi’i nodi fel un o flaenoriaethau Llenyddiaeth Cymru, ynghyd ag awduron o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac awduron ag anableddau neu salwch (meddyliol a chorfforol). Ein nod yw creu mynediad cyfartal a theg i arloesedd artistig a datblygiad proffesiynol, a chynorthwyo datblygiad lleisiau newydd ac amrywiol.
Elusen yw Llenyddiaeth Cymru, ac mae’r holl incwm a godir drwy gyrsiau Tŷ Newydd yn mynd yn ôl i gadw’r ganolfan a’i gweithgareddau i fynd, a thuag at brosiectau llenyddol eraill ledled Cymru.
Fel rhan o’n hymrwymiad i wneud Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a’i chyrsiau mor hygyrch â phosibl, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gynnig ysgoloriaeth ar gyfer pob cwrs a raglennwyd yn 2024. Dyfernir ysgoloriaeth i awduron dethol nad ydynt yn gallu fforddio’r ffi cwrs llawn yn dilyn proses ymgeisio syml.
Mae swm yr ysgoloriaeth yn amrywio hyd at £250 yn ddibynnol ar hyd y cwrs.
Mae dyddiad cau pob ysgoloriaeth wedi eu gosod 2 fis cyn dyddiad cychwyn y cwrs, gyda phenderfyniadau yn cael eu gwneud gan banel o staff Llenyddiaeth Cymry o fewn y 7 diwrnod gwaith yn dilyn hynny.
Mae manylion, gan gynnwys y dyddiad cau a’r swm sydd ar gael, ar gael ar dudalen unigol pob cwrs, sydd ar gael yma: www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/
Cyn gwneud cais am ysgoloriaeth, gofynnir i chi ystyried:
Os yw ffi’r cwrs yn parhau i fod yn rhwystr i chi gofrestru, a’ch bod chi dros 18 mlwydd oed ac yn byw yng Nghymru, gallech fod yn gymwys i ymgeisio am ysgoloriaeth. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais hon. Mae modd darllen holl Delerau ac Amodau’r cynllun ysgoloriaeth, yma, cyn cyflwyno’ch cais.
Mae’n hanfodol cyflwyno cais am ysgoloriaeth cyn cofrestru ar gwrs. Ni allwn ystyried cais am ysgoloriaeth ar ôl i chi gofrestru. Nodwch, os gwelwch yn dda, na allwn warantu cefnogaeth ariannol i bawb oherwydd nifer uchel y ceisiadau ddaw i law.
Yn ogystal â chymorth ar gyfer ffioedd cyrsiau, mae gennym swm cyfyngedig o arian wedi’i glustnodi i gefnogi awduron ag anghenion mynediad ychwanegol. Mae’r cyllid hwn ar gyfer awduron y byddai eu hanghenion mynediad yn arwain at gostau ychwanegol, na fyddai’n cael eu hysgwyddo gan awdur heb yr anghenion hynny. Os teimlwch y byddech yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol, cysylltwch â ni i drafod eich gofynion. Fel canllaw, byddwn yn cefnogi treuliau fel costau teithio y tu hwnt i daith safonol, er enghraifft y gwahaniaeth pris rhwng tacsi cwbl hygyrch a phris safonol ond, yn anffodus, nid oes gennym y modd i dalu costau mawr, er, os oes angen i chi ddod â gweithiwr cefnogol gyda chi ar gwrs preswyl, gallwn ddarparu llety a lluniaeth heb unrhyw gost ychwanegol). I gael rhagor o wybodaeth am fynediad, ewch i’r adran hygyrchedd ar ein gwefan a chofiwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Ychwanegir at y gronfa ysgoloriaethau yn flynyddol drwy fentrau codi arian megis diwrnodau agored, boreau coffi, ac yn y blaen. Gwerthfawrogir haelioni cyfeillion yn fawr, ac os hoffech gyfrannu at y gronfa ysgoloriaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org