Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd: Yr Ysgwrn
Brynhawn Sadwrn, 11 Tachwedd, daeth criw o Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd ynghyd yng nghartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd. Yn aros amdanynt yn Yr Ysgwrn oedd Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam. Cynhaliodd Casia weithdai difyr trwy’r prynhawn gyda digon o gyfle i bawb fynd o amgylch adnoddau’r Ysgwrn. Dyma enghreifftiau o waith y Sgwad…
Yr Ysgwrn 11.01.2017
Un diwrnod ym Mis Tachwedd
Wrth frasgamu fy ffordd i fyny’r allt
Clywais ddwr yn sisial fel sŵn rhaeadr godidog.
Awel ias-oer,
Crensian cerrig mân,
Camais i mewn i’r tŷ i oglau tamp,
I oglau tamp fel mwd soeglyd dan draed,
Roedd y gadair yn anghredadwy,
Dyma’r gadair oedd yn berchen ar stori drist,
Mae’r symbol llygaid arni
Symbol ddirgel o lygiad cyfeillgar Duw,
Ma’r gadair yn berchen ar stori drist,
A hon oedd y stori a gyffyrddodd fy nghalon,
Un diwrnod o fis Tachwedd.
-Angharad Lloyd Davies
Yr Ysgwrn
Un diwrnod ym Mis Tachwedd
Pawb yn cerdded, neb yn eistedd
Fyny at yr hen dy Hedd Wyn
Ar ben rhyw fryn
Roedd y ty yn hen fel castell
Ac yn llawn cerrig llwyd fel padell
Brown a du oedd lliw y gadair, lliw galar
Yn sefyll fel arwr yn y parlwr.
Un diwrnod ym Mis Tachwedd
Roedd tŷ Hedd Wyn mewn llechwedd
Yn llawn hanes, yn llawn olion
Lle oedd teulu Elis yn byw.
Un diwrnod ym Mis Tachwedd
Yn nhŷ Hedd Wyn.
Ar y gadair ddu
Ysgythreadau oedd yn llu
Draig a theulu
Sarff y gorffenol a’r dyfodol
A’r Cwlwm Tragwyddol.
-Sion Dafydd
Yr Hydref
Swn y dail swnllyd yn crensian,
Ar ol gollwng eu gafael o’r cewri
Cewri pren yn sefyll fel delwau,
A’u breichiau’n ymestyn allan yn frwdfrydig
Mae’r pwll nofio uwhcben yn llawn candi fflos gwyn
A’r holl ddail yn nofio drwyddo
A breichiau’r coed yn gneud llanast
Wrth sblashio’r dwr yn yr aer.
Blas hallt yn yr aer,
A blas melys yn gwynt.
A’r lliwiau’n sgrechian am sylw
Arogl melys hefyd
Ar y mwyar duon parod,
A’r peli peldreod oren,
A’u gwynebau brawychus yn drewi.
Teimlad braf yw’r Hydref
A heddychlon,
A dim ond wrth fod heb siw na miw
Fedar unrhywun glwed ei synhwyrau.
-Efa Hodge
Yr Ysgwrn
Canrif ers i’r ffarm fod yn holl,
Cenedl cyfa
Wedi cael ei adael mewn dagrau,
Oherwydd bod y byd yn rhyfela
Canrif ers i’r ffarm fod yn holl.
Canrif o sôn
Hyd yn oed yn Sir Fôn
Am yr arwr
A oedd Elis.
Hogyn o Traws.
Doedd dim eisio gwneud caws
Canrif o sôn.
Dwr yn byrlymio
A rhai dal yn wylo
Pam fod hyn ‘di digwydd
Dyma drychineb yr Ysgwrn.
-Grace Wynne
Yr Ysgwrn
Swn camau traed a sisial nant,
Y teimlad o hiraeth a cholled yn llifo drwy’r gwaed.
Y meddwl yn ceisio gwneud synnwyr o’r teimlad,
Ond, yn amhosib heb math o syniad o’r helynt.
Wrth folltio’r drws,
Mae ansicrwydd yn lledaenu drwy’r pen.
Yn eich gwneud chi fod eisiau,
Wel, gwn i ddim.
Serch y teimladau a’r ansicrwydd,
Mae 26 haen o bapur wal yn rhoid cysur yn wir.
Hoel y cloc tywydd dal i’w weld
Yn y bwthyn llwyd.
Ar ôl crwydro pob rhan,
Mae un darn heb ei weld.
Y darn rhyfedda, y darn rhyfedda oll,
Y tlws na wyddai’r bugail y cafwyd byth.
Syllais yn graff ar y symbolau,
Y bwstfilod y twllwch yn troi i ffordd o’r golau.
Craffais a gweld y golled yn y gadair wag.
Nid y darnau a gollwyd o’r ddraig,
Ond mab a brawd bythgofiadwy.
Roedd enw yr awdl ,’Yr Arwr’,
Yn cynrychioli ei berchenog fel tim pel droed yn cefnogi ei wlad.
Ond mae’r gwlwm di ddiwedd yn dweud ei stori am byth,
Er bod ei fywyd wedi dod i ben, dros ganrif yn ôl.
-Elan Mair Williams
Yr Hydref
Yr oren o nghwmpas
Yn hedfan yn swil,
Y trwmped yn erfyn,
Wrth chwibanu yn fy nghlyw,
Sianmon yn llenwi fy ffroenau trwy’r dydd,
Y sinsir yn gorffwys trwy’ ngheg i gyd,
Dyma’r tymor sy’n fy helpu i,
I werthfawrogi ein gwlad fach ni!
-Martha Jones
Diolch o galon i Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, ac i’r Ysgwrn am y croeso.
Am ragor o wybodaeth am y Sgwadiau ‘Sgwennu, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org