Yn 2016 bu Llenyddiaeth Cymru yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Roald Dahl, ac fe lansiwyd Dyfeisio Digwyddiad, cynllun ariannu ac estyn allan a fydd yn dod â phobl dros Gymru gyfan i gyswllt â llenyddiaeth, ysgrifennu creadigol a darllen. Fe ariennir Dyfeisio Digwyddiad gan Llywodraeth Cymru ac fe’i gefnogir gan Ystâd Lenyddol Roald Dahl. Fel rhan o’r cynllun, mae Llenyddiaeth Cymru wedi bod yn defnyddio geiriau hudolus Roald Dahl i ysbrydoli creadigrwydd ac i fynd â llenyddiaeth i lefydd annisgwyl.
Aeth y cerddor Gai Toms a’r artist Luned Rhys Parri draw i weithio at griw o blant a phobl ifanc Derwen. Derwen yw’r enw ar grŵp sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 0 – 18 oed yng Ngwynedd. Mae’r Tîm yn darparu cefnogaeth arbenigol i blant sydd ag amhariad neu oediad yn eu datblygiad, plant anabl a phlant sydd â gwaeledd. Mae Derwen yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.
Wedi darllen a thrafod gwaith Roald Dahl penderfynodd y criw ganolbwyntio ar hanes y crocodeil yn y stori ‘The Dentist and the Crocodile.’
Cân y Crocodeil
Mae pawb yn dweud bod y crocodeil – yn brathu, yn brathu!
Yn ddeinosor mawr yn stampio’r llawr – dwi’n crynu, crynu!
Cytgan
Dyma’r farn ar hyd y lle,
Does na neb ar ôl yn y dre.
Mae rhai yn barod i farnu’r clawr,
Cyn darllen cynnwys y stori fawr.
Mae pawb yn dweud bod ei gefn hir gwyrdd – yn pricli, yn pricli!
A’i lygaid milain, melyn, mean – yn scary, scary!
Wir i chi, dyma’r gwir – am y croci, y croci!
Fy anifail anwes a’i enw hi ydi – Ffi ffi, Ffi ffi!
Gwrandewch ar recordiad hyfryd o’r gân yma.