Bob blwyddyn, mae Tŷ Newydd yn dyfarnu oddeutu 20 o ysgoloriaethau i helpu unigolion i ddod ar gyrsiau i Dŷ Newydd. Gallwch ddarllen mwy am ein cronfa ysgoloriaeth a’r broses ymgeisio yma.
Ganed Sara Borda Green yn Nhrevelin, Patagonia. Symudodd i Buenos Aires i astudio gradd mewn Gwyddorau Cyfathrebu yn ddeunaw mlwydd oed. Enillodd gadair Eisteddfod Trevelin 2017 am gerdd rydd yn y Gymraeg a chystadleuaeth ar gyfer pobl o´r Wladfa yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2015 am draethawd ar ‘Y Wladfa Ddoe, Heddiw ac Yfory’. Ar hyn o bryd mae Sara’n astudio ar gyfer MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei nod yw cyhoeddi ei gwaith creadigol yn y dyfodol agos.
Daeth Sara i Dŷ Newydd ar gyfer y cwrs penwythnos Ysgrifennu Creadigol i Ddysgwyr gyda Bethan Gwanas a Siân Eirian Lewis ym mis Chwefror 2017. Meddai,
“Clywais am Dŷ Newydd gan ddwy ffrind a fu yno y llynedd. Roedd y ddwy’n frwdfrydig iawn am eu profiad, ac yn fy annog i wneud cwrs ysgrifennu creadigol yno. Felly, penderfynais roi cynnig ar wneud gwaith creadigol yn y Gymraeg (a dianc o’r brifddinas am benwythnos!).
Bu’r ysgoloriaeth yn gymorth hynod o bwysig i mi allu gwneud y cwrs yn Nhŷ Newydd. Gallaf ddweud mai yn Nhŷ Newydd y des i o hyd i awyrgylch delfrydol i wneud gwaith creadigol. A buaswn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu i dreulio amser yno.
Y peth gorau i mi, yn bersonol, oedd mai yn ystod y penwythnos hwnnw y llwyddais i ysgrifennu cerdd a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Trevelin eleni ac ennill cadair am y tro cyntaf erioed. Y tro nesaf hoffwn wneud cwrs hirach, er mwyn cael cyfle i ddatblygu syniadau a chael hyfforddiant dyfnach.”
I ddysgu mwy am Sara, darllenwch ei hatebion i’n holiadur pum munud:
- Beth yw eich hoff lyfr neu gyfrol?
Llyfr sy’n bodoli dim ond yn fy meddwl. Casgliad o’m hoff straeon byrion, gan gynnwys awduron fel Julio Cortázar, Liliana Heker, Silvina Ocampo, Abelardo Castillo, Ernest Hemingway, Flannery O’Connor, Samanta Schweblin, Mariana Enríquez, Lleucu Roberts, Mihangel Morgan, ymhlith eraill.
2. Pe gallwch chi fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?
Distancia de rescate (Fever Dream yn Saesneg) gan Samanta Schweblin.
3. Pe gallwch chi ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuasech chi’n ei ddewis?
Mae’n anodd dewis dim ond tri! Ar hyn o bryd, byddwn i’n gwahodd Jorge Luis Borges, C. S. Lewis a Mererid Hopwood. Ond ar wahân, achos byddwn i’n trafod materion tra gwahanol gyda phob un ohonynt.
4. Pwy neu beth ysbrydolodd chi i ddechrau ysgrifennu?
Yn syml, dwi jyst yn mwynhau darllen gymaint.
5. Pe gallwch chi fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddech chi, a pham?
Lucy Pevensie, er mwyn gallu bod yn Narnia a chwrdd â gweddill y cymeriadau yno. Ac oherwydd ei phersonoliaeth a’r ffordd mae hi’n byw ei hanturiaethau.