Bob blwyddyn, mae Tŷ Newydd yn dyfarnu oddeutu 20 o ysgoloriaethau i helpu unigolion i ddod ar gyrsiau i Dŷ Newydd. Gallwch ddarllen mwy am ein cronfa ysgoloriaeth a’r broses ymgeisio yma.
Daw Briony Collins o Brestatyn yn Sir Ddinbych. Er iddi ymddiddori mewn ysgrifennu ers tro, dim ond mis Medi’r llynedd y dechreuodd hi ysgrifennu o ddifri, pan oedd rhaid iddi ysgrifennu agoriad nofel fel rhan o waith cwrs. Yn dilyn anogaeth gan ei hathro, gorffennodd y llyfr a bu’r llyfr ennill Gwobr Nofel Exeter yn 2016. Bellach, mae’n cael ei chynrychioli gan asiant ac yn gweithio tuag at gyhoeddi’r llyfr wrth orffen ei haddysg llawn amser.
Er iddi gael llwyddiant gyda rhyddiaith, mae Briony hefyd wrth ei bodd yn barddoni, a dyna pam iddi ymgeisio am le ar Ddosbarth Meistr Barddoniaeth y Gwanwyn 2016 gyda Gillian Clarke a Carol Ann Duffy. Cafodd ei dewis fel un o’r 16 o blith 40 o feirdd i fynychu’r cwrs. Meddai Briony:
“Mi roddodd yr ysgoloriaeth gyfle i mi gyfarfod â beirdd arbennig, dysgu technegau newydd i wella fy ysgrifennu a rhoi help i mi sylweddoli nad oes rhaid i’m sefyllfa bersonol fy nal i’n ôl. Dw i erioed wedi cwrdd â phobl mor fendigedig yn fy mywyd. Roedd y tiwtoriaid, y staff a’r holl feirdd eraill ar y cwrs yn arbennig, a dysgais rywbeth gan bob un ohonynt. Roedd y tŷ yn fendigedig a’r gerddi o’i gwmpas yn fan perffaith i ganfod ysbrydoliaeth. Er bod y gweithdai o fudd mawr, y prif beth y dysgais yn Nhŷ Newydd oedd sut i gael hyder yn fy hunan ac yn fy ngwaith. Nid yn aml ydw i’n falch o’n hun, ond mi oeddwn i’n hynod falch o’n hun a’r gwaith y gwnes i ei greu yn ystod fy wythnos yn Nhŷ Newydd.”
I ddysgu mwy am Briony, darllenwch ei hatebion i’n holiadur pum munud:
- Beth yw’ch perthynas chi â Thŷ Newydd? A’i dyma’r tro cyntaf i chi ymweld â ni?
Soniodd fy athro coleg am y dosbarth meistr barddoniaeth yn Nhŷ Newydd. Cyn hynny, doeddwn i erioed wedi clywed am Dŷ Newydd.
- Fel awdur, oes gennych chi fan neu lecyn penodol y byddwch chi’n mynd yno i ysgrifennu?
Does gen i ddim lle penodol i fynd i sgwennu. Dwi fel arfer yn cario llyfr nodiadau hefo fi ac yn tueddu i sgwennu pan mae’r awydd yn dod, neu pan fo amser yn caniatáu.
- Ydych chi’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?
Dydw i ddim yn un am routine. Dwi’n teimlo bod hynny’n cyfyngu ar fy nghreadigrwydd. Dwi’n gosod targedau hyblyg, fel sgwennu pennod pob wythnos neu neilltuo diwrnod penodol i weithio ar fy sgwennu. Dwi ddim yn cadw at amserlen benodol chwaith, dim ond yn sgwennu tan dwi’n cyrraedd fy nharged.
- Beth yw eich hoff lyfr neu gyfrol?
1984 gan George Orwell. Byth ers i mi ei ddarllen yn yr ysgol, dwi wrth fy modd hefo fo. Dwi wedi ei ddarllen droeon, a bob tro dwi’n mynd yn ôl ato dwi’n darganfod rhywbeth newydd.
- Pe gallwch chi fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?
Dwi’n ddigon lwcus i gael llwyddiant hefo fy sgwennu fy hun ar y funud, ond pe gallwn i fod yn awdur llyfr arall, dwi’n meddwl y byswn i’n dewis Slaughter-House Five gan Kurt Vonnegut. Mae’r syniad tu ôl iddo’n wych, yn unigryw ac yn cynnig dehongliad diddorol o ba mor fregus yw’r meddwl dynol.
- Pe gallwch chi ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuasech chi’n ei ddewis?
Yn gyntaf, mi fyswn i’n dewis Stephen King. Mae ei lyfr On Writing wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’r ffordd yr oeddwn i’n meddwl am ysgrifennu, ac wedi fy helpu i gwblhau fy nofel. Mae fy nyled i’n fawr iddo. Byddai Michael Crichton yn cael gwahoddiad hefyd. Pan o’n i’n tyfy fyny dwi’n siwr i mi ddarllen pob un o’i lyfrau. Hyd heddiw, pan dwi’n mynd i lyfrgell newydd dwi’n chwilio yn yr adran ‘C’ rhag ofn bod yna lyfr dwi heb ei ddarllen yno. Yn olaf, mi fyswn i wrth fy modd yn cael cwrss â Maya Angelou. Mae’i barddoniaeth hi’n codi calon ac yn ysbrydoli.
- Pwy neu beth ysbrydolodd chi i ddechrau ysgrifennu?
Allai ddim cofio’n union beth oedd yr ysbrydoliaeth gychwynnol, gan ei fod gryn amser yn ôl. Fe ysgrifennais fy stori gyntaf pan o’n i’n 8, am deulu o belicanod, a dydw i heb stopio ers hynny. Dwi wedi darganfod pa mor bwerus ydi geiriau, ac yn defnyddio fy sgwennu er mwyn adrodd straeon pobl sydd heb leisiau yn y byd go iawn. Dwi’n credu’n gryf bod gan gelfyddyd o bob math y gallu i drawsnewid pethau ac i ddod a chydbwysedd i rannau o’r byd sydd yn parhau yn ansefydlog ac yn annheg.
- Pe gallwch chi fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddech chi, a pham?
Claire Fraser, o gyfres Outlander Diana Gabaldon. Mae hi’n gryf, yn beniog ac yn annibynnol. Dwi hanner ffordd drwy’r gyfres ar y funud ac yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am anturiaethau Claire.