Dydd Llun 4 Gorffennaf
Fy niwrnod cyntaf yma yn Nhŷ Newydd. Dwi wedi edrych ym mlaen at ddod yma ar gyfer fy wythnos brofiad gwaith. Cefais groeso cynnes iawn gan ferched y swyddfa, mae 5 ohonynt yn gweithio yma, a Tony fel cogydd. Dwi wedi edrych mlaen yn arw at gael dod yma i Dŷ Newydd, felly braf iawn oedd cyrraedd a chyfarfod pawb bore ‘ma.
Es i gyfarfod y pennaeth, Leusa Llewelyn, yn ei swyddfa fach ar ben y grisiau. Cefais ychydig o hanes y ganolfan a’r adeilad ei hun, cyn cael taith o amgylch y tŷ. Yna, roedd hi’n amser dechrau ar y gwaith go iawn. Daeth Ifor ap Glyn, John Dilwyn Williams a Siân Northey draw am gyfarfod gyda Leusa, Lleucu a Gwen i drafod prosiect newydd am gadwyn heddwch rhwng rhai o ysgolion Gwynedd.
Cefais fenthyg gliniadur ar gyfer gweddill yr wythnos gan mai pedwar cyfrifiadur a phedair desg sydd yn y swyddfa. Bûm yn pori drwy wefan Tŷ Newydd a darganfod pob math o wybodaeth ddiddorol am y ganolfan cyn dechrau ar dasg farchnata i Miriam. Bûm yn helpu i fewnfwydo gwybodaeth am Fentrau Iaith Cymru a siopau llyfrau annibynnol i daenlen fasdata Tŷ Newydd. Fe gadwodd hynna fi’n ddistaw am ‘chydig o oriau, sy’n dasg yn ei hun, coeliwch chi fi!
Ar ôl amser cinio roedd hi’n amser archwilio’r ystafelloedd gwely, gan sicrhau eu bod yn dwt a thaclus cyn i Ysgol St Aidans gyrraedd am yr wythnos. Daeth fy magwraeth ar fferm yn sgil gwerthfawr pan ddaeth pry cop i ddweud helo wrth Leusa! Diolch byth, doedd dim ofn pryfaid cop arna i felly i ffwrdd ag o drwy’r ffenestr.
Y dasg olaf am y dydd oedd rhoi trefn ar y llyfrgell. Mae dwy lyfrgell yma, Llyfrgell Glyn Jones a llyfrgell y Lolfa Lên. Mae pob dim dan haul yma, o farddoniaeth i nofelau, i gyfrolau a chyfeirlyfrau. Mi ddois ar draws un o fy hoff feirdd o ardal Dyffryn Nantlle, T H Parry Williams a’i gefnder R Williams Parry.
Diwrnod cyntaf gwych yma yn Nhŷ Newydd a chroeso cynnes gan y staff. Dw i’n edrych mlaen am weddill yr wythnos yn barod.
Dydd Mawrth 5 Gorffennaf
Rwy’n cyrraedd erbyn 10 bore ‘ma, ac yn mynd i’r afael a thasg gyntaf y dydd. Tasg ar gyfer Sgwad ‘Sgwennu Gwen sydd o mlaen i, sef creu labeli enwau ar gyfer y plant. Yna, ces amser i gofnodi manylion am y lleoliad profiad gwaith yn fy nyddiadur ar gyfer yr ysgol. Es ati i fwydo mwy o wybodaeth mewn i’r basdata a chael fy synnu gyda nifer y colegau addysg bellach a mentrau iaith sydd yma yng Nghymru. Dilyn cyfeirlyfr Y Lolfa oeddwn i, a chefais fy synnu gyda nifer helaeth y cofnodion ynddo.
Dwi wedi mwynhau’r deuddydd cyntaf yma yn Nhŷ Newydd ac wedi meithrin a gwella llawer o sgiliau fel cyfathrebu, creadigrwydd, gwaith tîm, penderfyniadau, darllen, ysgrifennu a thechnoleg sef y sgiliau allweddol sydd ei angen ym myd gwaith.
Dydd Mercher 6 Gorffennaf
Diwrnod rhif tri. Tydi ddim yn teimlo fel y trydydd diwrnod o bell ffordd! Tasg gan Leusa oedd y dasg gyntaf heddiw sef glanhau’r calendr yn y swyddfa. Ar ôl nerth bôn-braich roedd y calendr yn sgleinio fel diemwnt. Ond ar ôl edmygu pa mor lân oedd y calendr, roedd angen ysgrifennu dyddiadau’r mis arno er mwyn i’r merched allu cofnodi digwyddiadau a chyfarfodydd y mis arno.
Cyn cinio cefais fynd o amgylch yr ardd gyda Gwen, a chael sgwrs hynod ddifir gyda hi am ei swydd yn Nhŷ Newydd. Roedd yn amlwg iawn bod Gwen yn mwynhau ei gwaith yn fawr. Mae’r gerddi yn hyfryd yma. Cefais gyfle i fynd i weld y giât sydd ar waelod yr ardd er cof am Olwen Dafydd, oedd yn arfer gweithio yma, a hefyd yn aelod annwyl iawn o’m teulu. Roedd cael profi faint roedd Olwen yn golygu i bobl eraill yn hyfryd iawn i mi gan ei bod hi wedi fy ysbrydoli yn fawr.
Ar ôl cinio bûm yn ymchwilio ar y we am nwyddau i’w gwerthu yn y siop, er mwyn i ymwelwyr allu mynd â darn o Dŷ Newydd nol adre hefo nhw. Roedd cyfarfod staff am 2 er mwyn trafod rhaglen gyrsiau 2017 ac amser crafu pen er mwyn meddwl am ragor o syniadau. Roedd cael gwrando a chymryd rhan yn y cyfarfod yn brofiad gwych a chefais brofi sut yn union oedd penderfyniadau fel hyn yn cael eu gwneud yma.
Dwi’n cael dealltwriaeth dda o sut maen nhw’n gweithio fel un tîm mawr yma, a bod pawb yn helpu ei gilydd ac yn rhannu cyfrifoldebau. Mae ‘na awyrgylch braf iawn yma, a digon o chwerthin!
Dydd Iau 7 Gorffennaf
Roedd heddiw yn ddiwrnod gwahanol iawn. Es i gyfarfod Leusa yn garej Dolydd am 9 y bore gan ein bod yn mynd i gyfarfod yn Storiel er mwyn trafod dyfodol y celfyddydau. Wel dyna agoriad llygaid oedd y cyfarfod! Gwelais gymaint o ddylanwad anuniongyrchol mae’r celfyddydau yn cael ar fywydau pobl, a sylweddolais mor fawr oedd y dylanwad arnaf i hefyd. Teimlais yn drist bod y celfyddydau dan gymaint o fygythiad ar hyn o bryd, a sylweddoli pa mor fawr oedd yr her sydd o flaen sefydliadau a chwmnïau sy’n ymwneud â’r maes. Cawsom drip sydyn i Pets at Home i nôl basged newydd i’r gath ar y ffordd adre. Mae’n amlwg fod Leusa’n meddwl y byd o Pws, cath Tŷ Newydd.
Diwrnod gwych heddiw, ac agoriad llygaid yn sicr.
Dydd Gwener 8 Gorffennaf
Fy niwrnod olaf yma heddiw! Fy nhasgau heddiw ydi gorffen popeth dwi wedi ei gychwyn yn ystod yr wythnos. Y dasg gyntaf ydi gorffen rhoi labeli a stamps ar y cardiau post. Mae’r rhain newydd gael eu dylunio, ac yn cyrraedd blychau post ledled Cymru, y DU a thu hwnt yn fuan. Cefais fy synnu o weld bod rhai o’r cyfeiriadau yn mynd mor bell â Threlew, Seland Newydd, Ffrainc a’r Iseldiroedd. Doeddwn i ddim yn ystyried bod Tŷ Newydd mor amlwg tu hwnt i Gymru.
A dyna ni! Diolch yn fawr iawn i holl staff Tŷ Newydd am wythnos brofiad gwaith gwych. Diolch i’r merched yn y swyddfa am gymaint o hwyl, ac yn arbennig i Leusa’r pennaeth am adael i mi ddod yma a threfnu wythnos brysur i mi. Dw i’n annog pawb i ddod draw i Dŷ Newydd, ar gwrs wythnos neu undydd, mae yna ddigonedd o ddewis i chi eleni, ac yn sicr yn rhaglen 2017. Brysiwch draw yma!