Ar 16 Ebrill, cynhaliwyd cwrs I Ferched yn Unig dan ofal yr awdur Bethan Gwanas. Yma, mae Anne Phillips, a Marred Jones fu ar y cwrs yn sgwennu am eu profiadau o’r cwrs undydd.
Mi wnes hi! Am y tro cyntaf ers yr ysgol gynradd cychwynais ysgrifennu rhyddiaith yn Gymraeg. Teimlad ryfedd iawn, i ddweud y gwir, fel dod o hyd i feic plentyndod yng nghornel pella’r sied. Od iawn i mi sgwennu am Abertawe! Daeth rhyw elfen Catrin Collier o fy is-ymwybod a chynlluniais stori yn seiliedig ar hen ddociau Abertawe. Sbardun y peth oedd cerdyn post â llun merch gyda gwallt coch, yn edrych yn drist ac yn amheus.
Beth oedd yn ddiddorol am y cwrs oedd gweld cymaint o dalent mewn un stafell. Mynychais cyrsiau Saesneg yn Nhŷ Newydd or blaen. Ond roedd naws y cwrs undydd yma yn wahanol: yn gynnes, adeiladol ac yn bositif. Dwi rioed ‘di clywed cymaint o leisiau unigryw mewn un lle. Roedd hi’n bleser llwyr clywed geiriau yn llifo a chael ymhyfrydu yn y sŵn. Diwrnod waw ffab ameising. Diolch i Dŷ Newydd am drefnu ac i Bethan Gwanas am ein harwain a gwneud i mi chwerthin.
– Anne
‘Wyt ti’n fodlon darllen dy waith i ni?’ holodd ein tiwtor, Bethan Gwanas, yn gwrtais. ‘Nagdw’, gwaeddodd y llais croch tu mewn i mi. ‘Mi fasa’n well gen i neidio i bwll nofio yn llawn o bysgod piranha llwglyd.’
‘Paid â bod yn gymaint o fabi, cer amdani ,’ meddai’r llais arall mwy positif yn fy mhen. Ufuddhau y gwnes i i’r ail lais hwnnw a darllen fy ngwaith yn uchel, yn goch fel tomato ac yn chwys doman. Derbyniais wrandawiad gwerthfawrogol, chwarae teg, a sylwadau positif ac adeiladol gan Bethan a gweddill y criw oedd ar y cwrs sgwennu efo mi yn Nhŷ Newydd.
Ar ddydd Sadwrn braf, doedd dim un ohonon ni’n malio ein bod wedi ein cyfyngu oddi mewn pedair wal, gan fod yr adeilad mor hyfryd, yr oriau yn gwibio heibio, a ninnau yn cael y cyfle i dderbyn cyngor ac i ganolbwyntio ar roi pin ar bapur. Ac mi wnes i gael ychydig o awyr iach trwy fynd am dro yn yr ardd, gan fwynhau gweld y giât newydd sy’n cynnwys cofeb i’r annwyl Olwen Dafydd fu’n rhan mor bwysig o Dŷ Newydd.
Diwrnod da. Cwmni da. Tiwtor oedd yn gwybod sut i ysbrydoli a digon o baneidiau, a chinio blasus i’n cynnal. Roedd y co am y piranha llwglyd ac embaras y bore wedi hen ddiflannu erbyn diwedd y dydd. Wrth ffarwelio a Thŷ Newydd, dyma wneud addewid i ddychwelyd yn fuan, gyda phennod gyntaf y nofel wedi ei sgwennu.
– Marred Jones