Ysgoloriaeth Ychwanegol ar gyfer Encil wedi’w Fentora

Ynglyn â’r Ysgoloriaeth

Mae’r ysgoloriaeth yn bosibl oherwydd y rhodd hael gan Mr David Lloyd.

Mae’r ysgoloriaeth yn un gwerth £250, a gellir ei ddefnyddio tuag at gwrs penodol (manylion isod) yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Mae’r ysgoloriaeth benodol hon yn agored i unrhyw un na fyddai’n gallu talu am y cwrs oni bai am gymorth yr ysgoloriaeth. Mae yna hefyd £100 ychwanegol ar gael i gynorthwyo gyda chostau cludiant. Bydd y manylion yn cael eu rhannu gyda’r ymgeisydd llwyddiannus ar ôl derbyn yr ysgoloriaeth.

 

Y Cwrs

Mentored Retreat: Break Ground with your Short-Form Fiction

Dydd Llun 7 – dydd Gwener 11 Gorffennaf 2025

Mae’r ysgoloriaeth hon yn bodoli er mwyn cefnogi rhywun i fynychu’r encil hwn yng nghwmni’r mentor, Cynan Jones.

 

Sut i ymgeisio

I wneud cais am yr ysgoloriaeth hon, cwblhewch y ffurflen gais yma cyn 5.00 pm, dydd Iau 1 Mai 2025. Gwneir penderfyniad o fewn y 7 diwrnod gwaith canlynol. Hysbysir ymgeiswyr dros e-bost.

Os byddai’n well gennych gopi caled o’r ffurflen gais, neu mewn print bras, cysylltwch â ni.

 

Cyn i chi ymgeisio

Sicrhewch eich bod wedi darllen ein gwybodaeth am Ysgoloriaethau Tŷ Newydd, gan gynnwys Telerau ac Amodau, ar ein gwefan.

Sylwch y bydd angen i chi ofyn am gymorth ariannol cyn archebu cwrs neu encil. Ni ellir ystyried ceisiadau am fwrsariaeth ar ôl i archeb gael ei gwneud.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y broses cyn cyflwyno, neu’n gyffredinol am eich gyrfa fel awdur, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm cyfeillgar o staff:

tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811

 

Meini Prawf

Nodwch y meini prawf cymhwysedd canlynol:

– Rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 16 a 30 oed ar adeg eu cais

  • Gall yr ymgeiswyr fod o unrhyw oed neu hunaniaeth, ond fe roddir blaenoriaeth i awduron fyddai’n ei chael hi’n anodd mynychu’r cwrs oni bai am y cymorth ariannol
  • Bydd blaenoriaeth hefyd yn cael ei roi i awduron sy’n gweithio ar ddarn o ffuglen sy’n canolbwyntio ar le / leoliad yn benodol
  • Cyfyngir bwrsariaethau i un y person y flwyddyn, a bydd ymgeiswyr nad ydynt wedi derbyn bwrsariaeth yn y gorffennol yn cael eu blaenoriaethu.
  • Mae’r ysgoloriaeth yma yn bodoli diolch i gefnogaeth Mr David Lloyd, a bydd y penderfyniad terfynol o ddyfarnu’r ysgoloriaeth, yn ei ddwylo ef.