Ysgrifennu Barddoniaeth ag Angerdd

Llu 11 Awst 2025 - Gwe 15 Awst 2025
Tiwtoriaid / Andrew McMillan & Rachael Allen
Darllenydd Gwadd / K Patrick (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £650 - £750 y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Sut allwn ni gyfleu ein hangerdd (personol, gwleidyddol, ysbrydol) ar y dudalen? Sut mae ein chwantau preifat, ein datganiadau cyhoeddus, a’n diddordebau brwd yn canfod eu ffurf a’u llais o fewn cerdd? Ydy strwythur yn creu angerdd, neu’n cynnig mecanweithiau i’w reoli? Ymunwch â’r tiwtoriaid, Rachael Allen ac Andrew McMillan, i archwilio – trwy ddarlleniadau, trafodaethau a digonedd o ysgrifennu – sut y gallem ddatgloi, dyrchafu a dyfnhau ein hangerdd o fewn barddoniaeth.

Tiwtoriaid

Andrew McMillan

Ganed Andrew McMillan yn Barnsley ym 1988. Ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, physical (Vintage Publishing, 2015) a dywedodd Sarah Crown amdano: ‘the sort of once-in-a-generation debut that causes everyone to sit up and take notice’. physical oedd yr unig lyfr barddoniaeth i ennill Gwobr Llyfr Cyntaf y Guardian erioed; dyfarnwyd iddo hefyd Wobr Somerset Maugham, Gwobr Eric Gregory, Gwobr Casgliad Cyntaf Aldeburgh ac yn 2019 fe’i pleidleisiwyd yn un o 25 Llyfr Barddoniaeth Gorau’r 25 Mlynedd Diwethaf gan Gymdeithas y Llyfrwerthwyr. Enillodd ei ail gasgliad, playtime (Vintage Publishing, 2018) Wobr Polari gyntaf. Cyhoeddwyd trydydd casgliad, pandemonium, yn 2021 ac yn 2022 cyd-olygodd y flodeugerdd glodwiw 100 Queer Poems (Vintage Publishing) a gyrhaeddodd restr fer y British Book Awards. Mae'n athro ysgrifennu cyfoes ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ac yn gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Cyhoeddwyd Pity, ei nofel gyntaf, yn 2024 gan Canongate.

Rachael Allen

Mae Rachael Allen yn awdur dau gasgliad o farddoniaeth, Kingdomland (2019) a God Complex (2024), y ddau wedi’u cyhoeddi gan Faber. Ganed Rachael yng Nghernyw ac mae’n gweithio fel golygydd barddoniaeth i Fitzcarraldo Editions ac mae’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Queen Mary.

Darllenydd Gwadd

K Patrick (Digidol)

Awdur o’r Alban yw K Patrick. Mae eu barddoniaeth wedi ymddangos yn The Paris Review, Poetry Review, Granta a Five Dials, a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Bardd y White Review yn 2021, yr un flwyddyn ag yr oedd K hefyd ar restr fer Gwobr Stori Fer The White Review. Yn 2023 cawsant eu dethol ar gyfer rhestr fer Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC. Dewiswyd eu nofel gyntaf, Mrs S, a gyhoeddwyd gan Fourth Estate fel nofel gyntaf gorau'r flwyddyn gan The Observer, ac enwyd K yn Best of Young British Novelists Granta ar gyfer 2023. Cafodd eu casgliad barddoniaeth cyntaf, Three Births, ei gyhoeddi gan Granta Poetry ym 2024.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811