Mae Chris Thorpe yn awdur a pherfformiwr o Fanceinion. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer y Royal Court, Royal Exchange, The Unicorn Theatre a sefydliadau eraill. Mae e wedi cydweithio gydag artistiaid fel Rachel Chavkin, Rachel Bagshaw, Hannah Jane Walker a Javaad Alipoor a China Plate. Roedd Chris yn un o sylfaenwyr Unlimited Theatre, mae'n Gydymaith i gwmni Celf Byw/Theatr Trydydd Angel ac mae wedi gweithio'n aml gyda Forest Fringe. Mae e hefyd wedi gweithio fel cyfieithydd, gan amlaf gyda'r dramodydd o Serbia Ugljesa Sajtinac a Theatr Rydd Belarws. Rhyddhawyd ei ffilm fer ar gyfer y Royal Court a'r Financial Times am yr argyfwng hinsawdd, What Do You Want Me To Say? ym mis Medi 2019. Mae gwaith perfformio Chris yn teithio'n rhyngwladol ac mae hefyd yn cael ei gynhyrchu'n rheolaidd ar gyfer y llwyfan a'r radio ledled Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys dangosiad cyntaf diweddar Victory Condition yn Residenztheater Munich, a’r cynhyrchiad Eidalaidd o There Has Been an Incident a Confirmation, a enillodd y Premio Franco Enriquez 2018. Mae gwobrau eraill yn cynnwys Fringe Firsts ar gyfer Static a Neutrino ymysg eraill. Cyhoeddir ei waith gan Oberon Books, Bloomsbury a Nick Hern Books.
Cwrs Sgriptio
Dod o hyd i’ch llais creadigol fydd wrth wraidd y cwrs preswyl wythnos o hyd hwn a fydd yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer y theatr. Byddwch yn cael eich tiwtora gan y dramodwyr ac ysgrifenwyr sgript arobryn, Chris Thorpe a chyd-diwtor y cwrs (i’w cadarnhau cyn hir) fydd wrth law i’ch meithrin, eich datblygu a’ch herio i gynhyrchu gwaith o ansawdd a gwreiddioldeb, yn barod i’w gyflwyno i’r diwydiant. Mi fydd enillydd Gwobr Olivier, Suzie Miller yn ymuno gyda chi am ddarlleniad gwadd digidol arbennig lle bydd hi ar gael i ateb eich holl gwestiynau am y diwydiant a’r broses greadigol o gynhyrchu gwaith. Bydd prynhawn diwydiant hefyd yn cael ei drefnu yn ystod yr wythnos, gydag aelodau o Dîm Llenyddol Theatr y Sherman fydd yn ymuno â chi yn Nhŷ Newydd i rannu eu cyngor ar sut i ddatblygu eich gyrfa ymhellach.
Trwy weithdai grŵp rhyngweithiol a sesiynau un-wrth-un gyda’ch tiwtoriaid, byddwch yn archwilio ac yn mynd i’r afael ag agweddau gwahanol ac allweddol ysgrifennu sgriptiau ac yn cael eich annog i ddadansoddi mecanwaith cymeriad, lleoliad, naratif a strwythur dramatig o fewn sgript cymhellol a llwyddiannus.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer dramodwyr ar ddechrau eu gyrfa ac i awduron sydd wedi ysgrifennu un neu ddwy ddrama ac sy’n awyddus i ddatblygu eu crefft.
Tiwtoriaid
Chris Thorpe
Cyd-diwtor
Bydd y cyd-diwtor ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.
Darllenydd Gwadd
Suzie Miller (Digidol)
Mae Suzie Miller yn ddramodydd, sgriptiwr ac awdur rhyngwladol cyfoes. Mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar straeon dynol cymhleth sy'n archwilio anghyfiawnder. Mae ganddi radd mewn cyfraith a gwyddoniaeth. Mae dramâu Miller wedi'u cynhyrchu mewn dros gant o gynyrchiadau ledled y byd ac wedi ennill nifer o wobrau o fri. Enwebwyd ei drama lwyfan Prima Facie gyda Jodie Comer yng nghynyrchiadau'r West End a Broadway am 5 Gwobr Olivier yn 2023 gan ennill y wobr am y ddrama newydd orau a'r actores orau; enwebwyd y ddrama am 4 Gwobr Tony yn yr un flwyddyn gan ennill y wobr am yr Actores Orau. Mae wedi'i chyfieithu i dros 30 o ieithoedd, wedi'i chynhyrchu ledled y byd ac fe'i cyhoeddwyd hefyd fel nofel mewn 6 gwlad. Bydd ei drama Inter Alia, gyda Rosamund Pike yn serennu, yn cael ei pherfformio yn y Theatr Genedlaethol yn Llundain yn Haf 2025. Ar hyn o bryd mae Miller o dan gomisiwn ar gyfer sawl drama newydd, ochr yn ochr â phrosiectau ffilm a theledu ledled y byd.