Mae gwaith Tiffany Murray wedi ymddangos yn Granta, y Guardian, y Telegraph, Sunday Times Style, GQ, Independent on Sunday ac wedi ei ddarlledu ar BBC Radio 4. Mae ei nofelau, Diamond Star Halo, Happy Accidents a Sugar Hall, wedi cyrraedd rhestr fer y Wodehouse ar sawl achlysur ac wedi derbyn Gwobr Bollinger a Gobr Roger Deakin am ysgrifennu natur. Mae Tiffany wedi bod yn Gymrawd Ffuglen Gŵyl y Gelli, yn ysgolhaig Fulbright, yn Uwch Ddarlithydd, yn dderbynnydd cwmni recordiau, ac yn gerddwr cŵn yn Efrog Newydd. Mae hi'n byw mewn coedwig ar hyn o bryd. My Family and Other Rock Stars yw ei chofiant cyntaf.
Ysgrifennu Dy Hun i Mewn: Yr ysgrif a gwaith ffeithiol greadigol
Nod y cwrs yma yw archwilio sut y gall awduron ddefnyddio eu straeon personol i ysgrifennu’n gredadwy am bynciau sydd ag apêl gyffredinol eang. Bydd y cwrs yn cynnwys trafodaethau gonest ar gyfrwng ysgrifennu sy’n boblogaidd iawn yn y diwydiant cyhoeddi ar hyn o bryd.
Yn benodol, mae’r cwrs hwn yn anelu i gyflwyno awduron sydd ar ddechrau eu gyrfa (ac awduron mwy adnabyddus sydd, o bosib, sydd am archwilio ysgrifennu’n ffeithiol) i syniadau, arferion, a dadleuon ynghylch cyffredinolrwydd “y traethawd personol”. Bydd y tiwtoriaid yn cynnal cyfres o weithdai, grwpiau trafod a thiwtorialau gan edrych ar y gwahanol ffyrdd y gellir fframio stori bersonol awdur o fewn digwyddiadau hanesyddol, patrymau diwylliannol, a ffenomenon cymdeithasol. Bydd y sesiynau yma hefyd yn archwilio sut y gall yr awdur osod ei stori ei hun ym mhynciau ehangach yr argyfwng hinsawdd, costau byw, rhaniad gwleidyddol, trawma personol, tueddiadau diwylliannol, ac ysgrifennu am ffeithiau. Ar ddechrau’r cwrs, bydd y mynychwyr yn cael eu cefnogi i ddewis pwnc a ffurf i weithio arno drwy gydol yr wythnos, fel y bydd ganddynt, erbyn diwedd y cwrs, ddrafft gweithredol o draethawd personol cyffrous. Bydd y gweithdai’n cynnwys “Dod o Hyd i’ch Pwnc”, “Trac Sain Eich Bywyd”, “Arbrofi â Ffurf”, “Defnyddio Technegau Gweithiau Ffuglen mewn Gweithiau Ffeithiol”, a “Cysylltu â’r Darllenydd”.
Tiwtoriaid
Tiffany Murray
Gary Raymond
Mae Gary Raymond yn nofelydd, beirniad, golygydd a darlledwr. Ef yw cyflwynydd The Review Show ar gyfer BBC Radio Wales, ac ef yw golygydd a chyd-sylfaenydd Wales Arts Review. Mae’n awdur tair nofel sydd wedi derbyn canmoliaeth y beirniaid, For Those Who Come After (2015), The Golden Orphans (2018), ac Angels of Cairo (2021), yn ogystal â llyfr ffeithiol, How Love Actually Ruined Christmas. Mae wedi golygu ystod eang o lyfrau ffuglen a ffeithiol, o flodeugerddi straeon byrion i gofiant gwleidyddol. Fel beirniad mae wedi cael ei weld ar dudalennau The Guardian a’i glywed ar Front Row BBC Radio Four a rhaglen Sunday Morning BBC Radio Three.
Darllenydd Gwadd
Kathryn Tann (Digidol)
Mae Kathryn Tann yn awdur, golygydd a chynhyrchydd creadigol sy'n wreiddiol o arforfdir de Cymru. Cyhoeddwyd ei chasgliad traethawd cyntaf, Seaglass, gan Calon Books yn 2024, a hi yw cyflwynydd a chynhyrchydd This Place – podlediad sy'n siarad ag awduron a meddylwyr yn y tirweddau a'u dylanwadodd. Mae hi'n gyd-sylfaenydd ac yn gyd-gyfarwyddwr Folding Rock Magazine, ac mae ganddi gefndir mewn cyhoeddi a rhaglennu llenyddiaeth. Mae ei gwaith ei hun wedi ymddangos yn The Guardian, The Scotsman, Nation.Cymru a Simple Things, ymhlith eraill, ac mae hi'n siarad yn rheolaidd mewn digwyddiadau.