Mae Alis Hawkins yn awdur dau lyfr a’u gosodwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a dwy gyfres ffuglen trosedd – cyfres Crwner Dyffryn Teifi a osodwyd yng ngorllewin Cymru yn ystod y 19eg ganrif yn dilyn Terfysgoedd Rebecca, a'r Oxford Mysteries a osodwyd yn Rhydychen yn y 1880au ar ddechrau mudiad coleg y merched. Cafodd dwy o'i nofelau yn Nyffryn Teifi – In Two Minds (Canelo, 2021) a Not One of Us (Canelo, 2021) eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y Crime Writers' Association Historical Dagger a'r gyntaf yng nghyfres Oxford Mysteries, A Bitter Remedy (Canelo, 2023) ar restr hir ar gyfer Gwobr Aur CWA a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Hanesyddol. Mae llyfrau Alis wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Darllen Da Waverton, ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn Gŵyl Lenyddol Aberaeron ac wedi bod yn Llyfr y Mis Cymreig Waterstones yn ogystal â chasgliadau trosedd a dewis Cymdeithas Darllenwyr Trosedd The Sunday Times. Mae hi'n un o sylfaenwyr grŵp awduron trosedd Cymru Crime Cymru a hi oedd cadeirydd cyntaf Gŵyl Crime Cymru, prif ŵyl ffuglen trosedd Cymru.
Ysgrifennu Nofel Drosedd
Beth sydd ei angen arnoch i ysgrifennu nofel drosedd na fydd asiantau, cyhoeddwyr a darllenwyr yn gallu gollwng gafael ohoni?
Gan gyfuno degawdau o brofiad, mae’r awduron ffuglen drosedd llwyddiannus Vaseem Khan ac Alis Hawkins wedi llunio cwrs fydd yn eich helpu i fireinio’r grefft o ysgrifennu llenyddiaeth drosedd cyffrous. Yn ogystal â’ch tywys drwy elfennau sylfaenol creu nofel drosedd lwyddiannus, byddant yn eich helpu i ddatblygu a mireinio eich syniadau cyfredol i roi’r cyfle gorau iddynt lwyddo yn y farchnad orlawn sydd ohoni.
Bydd gweithdai grŵp a sesiynau mentora un-i-un yn cynnig cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, yn eich galluogi i drafod eich gwaith ar y gweill yn fanwl, a datgelu mewnwelediadau i’r broses gyhoeddi. Bydd y cwrs yn ymdrin â ffyrdd o greu cymeriadau cofiadwy a chredadwy, sut i greu tensiwn a chynllwyn sy’n dal dŵr, sut i greu lleoliad thematig a daearyddol gwreiddiol, sut i sicrhau eich bod yn cael eich gweithdrefnau ymchwiliol yn gywir, yn ogystal â sicrhau bod eich llyfr yn aml-haenog gydag is-blotiau. Yn hollbwysig, bydd y tiwtoriaid hefyd yn rhannu’r pum ‘cyfrinach’ i ysgrifennu llyfr ffuglen drosedd boblogaidd.
Yn ystod sesiynau anffurfiol gyda’r nos bydd Alis a Vaseem hefyd yn cynnig cyngor ehangach ar y broses o ysgrifennu sy’n cyffwrdd â phynciau megis golygu, ail-ddrafftio, ysgrifennu crynodeb bachog a llythyr cyflwyno, ffyrdd o feithrin perthynas lwyddiannus gydag asiantau a chyhoeddwyr, a deall ‘byd y llyfrau’.
Sylwer: I’r rhai sy’n dymuno trafod eu gwaith, gofynnwn i chi gyflwyno dechrau eich nofel (hyd at uchafswm o 2,500 o eiriau) cyn y cwrs i ganiatáu digon o amser i Vaseem ac Alis roi ystyriaeth ddyledus i bob darn o waith.
Bwrsariaethau
Mae un ysgoloriaeth gwerth £250 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth 29 Gorffennaf 2025.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/
Tiwtoriaid
Alis Hawkins
Vaseem Khan
Vaseem Khan yw awdur dwy gyfres drosedd arobryn wedi'u gosod yn India, Quantum of Menace (Bonnier Books, 2025) y gyntaf mewn cyfres sy'n cynnwys Q o gyfres James Bond, a The Girl in Cell A (Hodder & Stoughton, 2025), ffilm gyffro seicolegol wedi'i gosod yn nhref fach yn yr UDA. Cafodd ei lyfr cyntaf, The Unexpected Inheritance of Inspector Chopra (Hodder & Stoughton, 2015) ei ddewis gan The Sunday Times fel un o'r 40 nofel drosedd orau a gyhoeddwyd yn 2015-2020. Yn 2021, ennillodd Midnight at Malabar House (Hodder & Stoughton, 2021) y llyfr cyntaf yn nghyfres Malabar House a osodwyd yn Bombay'r 1950au, Gwobr Hanesyddol CWA. Ganwyd Vaseem yn Lloegr, ond treuliodd ddegawd yn gweithio yn yr India. Vaseem yw Cadeirydd presennol Cymdeithas Awduron Ffuglen Trosedd y DU.
Darllenydd Gwadd
Erin Kelly (Digidol)
Erin Kelly yw awdur poblogaidd ar restr gwerthwyr gorau The Sunday Times y llyfrau canlynol a gyhoeddwyd gan Hodder & Stoughton, The Poison Tree (2011), The Sick Rose (2012), The Burning Air (2013), The Ties That Bind (2015), He Said/She Said (2018), Stone Mothers/We Know You Know (2019), Watch Her Fall (2022), The Skeleton Key (2023) a The House of Mirrors (2024). Yn ogystal â Broadchurch: The Novel (2014), a ysbrydolwyd gan y gyfres deledu hynod boblogaidd. Yn 2013, datblygwyd The Poison Tree yn ddrama amlwg ar ITV. Treuliodd y llyfr chwe wythnos yn y deg uchaf, roedd ar restr hir nofel drosedd y flwyddyn Gwobr Theakston’s Old Peculier, a'i dewis ar gyfer Clwb Llyfrau Simon Mayo BBC Radio 2 a Chlwb Llyfrau Richard & Judy. Dewiswyd The Skeleton Key fel llyfr trosedd y mis Waterstones yn 2023, roedd yn un o ddeg gwerthwr gorau The Sunday Times a chyrhaeddodd rif un yn siart The Times. Ganed Erin yn Llundain yn 1976, ac mae'n byw yng ngogledd Llundain gyda'i gŵr a'i merched. Mae ei nofel ddiweddaraf, The House of Mirrors, ar gael nawr. www.erinkelly.co.uk twitter.com/mserinkelly