Proffesiynoli dy Grefft

Gwe 17 Hydref 2025 - Sul 19 Hydref 2025
Tiwtoriaid / Anwen Hooson & Caryl Lewis
Ffi’r Cwrs / O £300 - £400 y pen
Iaith / Cymraeg

Mae’r cwrs penwythnos hwn wedi’i gynllunio’n ofalus i gynnig cyfuniad perffaith o ysbrydoliaeth greadigol a chymhelliant proffesiynol i lenorion drwy gyfrwng y Gymraeg. Ydych chi’n chwilio am gynrychiolaeth llenyddol gan asiant ond yn ansicr o sut i fynd ati? Neu oes angen cefnogaeth olygyddol arnoch? Ydych chi’n ansicr o sut i roi trefn ar eich syniadau? Ydy eich plot neu’ch cymeriadau wedi mynd i deimlo’n ddi-fflach? Ydych chi’n chwilio am damaid o ysbrydoliaeth a hwb i’ch hyder? Dyma’r cwrs i chi, fydd wedi’i deilwra i’ch anghenion a’ch nodau personol.

Dan arweiniad yr asiant llenyddol profiadol, Anwen Hooson a’r awdur arobryn Caryl Lewis, cewch gyfle i fynychu gweithdai grŵp bywiog, sesiynau tiwtora un-wrth-un, yn ogystal â ffurfio cymuned gefnogol o gyd-awduron. Bydd y sesiynau’n canolbwyntio’n bennaf ar y grefft o ysgrifennu ffuglen – o gymeriadau i strwythuro- yn ogystal â dysgu mwy am sut i hunan-olygu eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich datblygiad proffesiynol ac yn derbyn awgrymiadau ar sut i ennyn diddordeb asiant, a chyflwyno eich hun a’ch gwaith mewn modd proffesiynol. Bydd eich tiwtoriaid yn eich annog i ystyried y farchnad lenyddol sydd ohoni, y gwahaniaeth rhwng cyhoeddi gyda gwasg fechan annibynnol a gwasg mawr, ryngwladol a’r tensiynau gall amlygu eu hunain wrth i chi greu fel ‘artist’ a gweithio fel ‘awdur proffesiynol’.

Bydd eich tiwtoriaid preswyl yn eich gwahodd i anfon sampl byr, (dim mwy na 1,000 o eiriau) ymlaen llaw er mwyn derbyn adborth personol a phenodol ar eich gwaith. Ymunwch gyda ni felly am benwythnos fydd yn siŵr o’ch helpu i gyrraedd y cam creadigol a phroffesiynol nesaf ar eich taith fel awdur.

Tiwtoriaid

Anwen Hooson

Dechreuodd Anwen Hooson ei gyrfa yn adrannau’r wasg yn Penguin a Waterstones, cyn cyd-sefydlu Riot Communications, a ddaeth yn gyflym yn un o’r asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus mwyaf uchel ei barch a dylanwadol yn y diwydiant cyhoeddi. Yn 2018, lansiodd Anwen Bird Literary Agency, gyda'r bwriad o fagu llyfrau a fyddai'n ysbrydoli ac yn pryfocio. Ymhlith ei hawduron mae Caryl Lewis, Liz Hyder, Kirsty Capes, Huw Aaron, Jodie Lancet-Grant a Moira Buffini. Roedd Anwen yn feirniad yn y British Book Awards 2018-2022, a cafodd ei henwebu ar gyfer y wobr Asiant Llenyddol y Flwyddyn yng y British Book Awards 2023.

Caryl Lewis

Mae Caryl Lewis yn ddramodydd a sgriptiwr Cymraeg sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei nofel arloesol Martha, Jac a Sianco (2004) yn cael ei hystyried yn glasur modern o lenyddiaeth Gymraeg, ac mae’n rhan o’rcwricwlwm Cymreig. Aeth yr addasiad ffilm – gyda sgript gan Caryl Lewis ei hun – ymlaen i ennill chwe gwobr BAFTA Cymraeg a Gwobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2010. Mae ei gwaith sgriptio sgrîn hefyd yn cynnwys y ffilmiau cyffro BBC/S4C Hinterland a Hidden. Mae’n  ddarlithydd gwadd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn byw gyda’i theulu ar fferm ger Aberystwyth.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811