Ysgrifennu fel Gwrthsafiad Gwleidyddol (Digidol)

Maw 4 Tachwedd 2025 - Maw 9 Rhagfyr 2025
Tiwtoriaid / Yara Rodrigues Fowler & Andrés N. Ordorica
Darllenydd Gwadd / Lola Olufemi (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £175 y pen
Genre / Ffeithiol
Iaith / Saesneg

Mae gan gelf y pŵer i drawsnewid y ffordd yr ydym yn deall y byd. Drwy ddefnyddio’r dychymyg, gall awduron wyrdroi hanes a’n persbectif ar y byd sydd ohoni, ein cludo o un lleoliad a chyfnod i’r llall, a sbarduno awydd am newid.  Am y rheswm hwn, mae ysgrifennu – boed hynny’n ffuglen, barddoniaeth neu’n weithiau ffeithiol-greadigol – wedi cael ei ddefnyddio ers amser maith fel dull pwerus o wrthwynebiad gwleidyddol.

Wedi ein wynebu ag anghyfiawnder, beth all ein hysgrifennu ei gyflawni a beth yw ein cyfrifoldeb fel awduron? Sut dylen ni ymgysylltu â chofnodion hanesyddol ac ymgyrchoedd gwleidyddol parhaus? Sut allwn ni ysgrifennu ffuglen, gwaith ffeithiol greadigol a barddoniaeth am gwestiynau mawr ein cyfnod mewn ffyrdd sy’n ymgysylltu gyda’n cynulleidfaoedd ac yn bersonol?

Ymunwch â ni ar gyfer y cwrs digidol 6 wythnos hwn i archwilio’r pynciau hyn a mwy drwy farddoniaeth, ffuglen a gwaith ffeithiol-greadigol. Bydd eich tiwtoriaid, Yara Rodrigues Fowler ac Andrés N. Ordorica wrth law i’ch tywys drwyddi draw, ac ar un o’r wythnosau bydd Lola Oulfemi yn ymuno gyda chi  ar gyfer darlleniad gwadd arbennig. Yn ystod pob gweithdy dwy awr, byddwch yn cael eich ysgogi’n greadigol i helpu i wthio eich ysgrifennu gam ymhellach, drwy ddarllen gwaith gan awduron eraill, ehangu eich dychymyg a manteisio ar gyfleoedd i drafod fel grŵp gyda chymuned o gyd-awduron. Ar ddiwedd y pum sesiwn grŵp, byddwch yn cael cyfle i siarad ag un o’ch tiwtoriaid i drafod eich ysgrifennu yn fwy manwl ac i dderbyn adborth wedi’i deilwra ar eich gwaith.

Byddwch yn gadael y cwrs gyda darn o ysgrifennu wedi’i ddatblygu, mwy o hyder yn eich crefft, neges glir hoffech ei chyfleu, a dealltwriaeth gynhwysfawr o rôl ysgrifennu fel gwrthwynebiad gwleidyddol.

Bydd y cwrs hwn yn cadw at bolisi gofod diogel, a disgwylir i bob cyfranogwr barchu at ei gilydd trwy gydol y cwrs.

Noder: Mae pob amser yn GMT

Strwythur:

Wythnos 1, Dydd Mawrth 4 Tachwedd

18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno eich hun, cwrdd â phawb a dod i arfer gyda’r dechnoleg.

19.00 – 20.00: Gweithdy cyntaf

20.00 – 20.15 : Egwyl

20.15 – 21.15 : Ail weithdy

21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi, ac ymarfer yn cael ei osod ar gyfer sesiwn yr wythnos nesaf

 

Wythnos 2, Dydd Mawrth 11 Tachwedd

18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i sgwrsio gyda’ch cyd-gyfranogwyr yn anffurfiol cyn i’r cwrs ddechrau.

19.00 – 20.00: Trydydd gweithdy

20.00 – 20.15 : Egwyl

20.15 – 21.15 : Pedwerydd gweithdy

21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi, ac ymarfer yn cael ei osod ar gyfer sesiwn yr wythnos nesaf

 

Wythnos 3, Dydd Mawrth 18 Tachwedd

18.45-19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i sgwrsio gyda’ch cyd-gyfranogwyr yn anffurfiol cyn i’r cwrs ddechrau.

19.00-20.00: Noson yng nghwmni darllenydd gwadd y cwrs

 

Wythnos 4, Dydd Mawrth 25 Tachwedd

18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i sgwrsio gyda’ch cyd-gyfranogwyr yn anffurfiol cyn i’r cwrs ddechrau.

19.00 – 20.00: Trydydd gweithdy

20.00 – 20.15 : Egwyl

20.15 – 21.15 : Pedwerydd gweithdy

21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi, ac ymarfer yn cael ei osod ar gyfer sesiwn yr wythnos nesaf

 

Wythnos 5, Dydd Mawrth 2 Rhagfyr

18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i sgwrsio gyda’ch cyd-gyfranogwyr yn anffurfiol cyn i’r cwrs ddechrau.

19.00 – 20.00: Trydydd gweithdy

20.00 – 20.15 : Egwyl

20.15 – 21.15 : Pedwerydd gweithdy

21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi a dathliad o waith eich gilydd. Gwahoddiad gan diwtoriaid i gyflwyno sampl o ysgrifennu cyn eich sesiynau un i un ymhen pythefnos. Bydd amserlen y sesiynau un-i-un yn cael eu rhannu gan aelod o staff Tŷ Newydd.

 

Wythnos 6, Dydd Mawrth 9 Rhagfyr

10.00 – 15.00 : Cyfle i fynychu sesiwn un i un 30 munud gydag un o’ch tiwtoriaid lle byddwch yn derbyn adborth pwrpasol ar eich ysgrifennu a fydd yn eich helpu i barhau i ddatblygu eich gwaith a meithrin ymarfer creadigol cynaliadwy.

Tiwtoriaid

Yara Rodrigues Fowler

Mae Yara Rodrigues Fowler yn dod o dde Llundain. Enwebwyd ei nofel gyntaf, Stubborn Archivist (Fleet, 2019) ar gyfer Gwob Desmond Eliot a Gwobr Dylan Thomas ac enwebwyd Yara ar gyfer Awdur Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times. Enwebwyd ei hail nofel, There are More Things (Abacus, 2022) ar gyfer Gwobr Orwell am Ffuglen Wleidyddol a Gwobr Goldsmiths am ei champ o arloesi gyda ffurf. Roedd ei hail nofel hefyd yn un o lyfrau'r Flwyddyn The Sunday Times, BBC Culture a The New Statesman. Yn 2023, dewiswyd Yara fel un o 'Nofelwyr Ifanc Gorau Granta' yn eu rhestr arbennig sy’n cael ei chyhoeddi unwaith pob degawd.

Andrés N. Ordorica

Mae Andrés N. Ordorica yn awdur Latino, cwîar sy’n byw yng Nghaeredin. Caiff ei ysbrydoli gan hanes mewnfudo ei deulu a’i fagwraeth trydydd diwylliant. Mae ei ysgrifennu yn olrhain a thrafod cymunedau ar wasgar ac yn archwilio’r hyn y mae'n ei olygu i fod o “ni de aquí, ni de alla” (nid o fama, nac o fano). Ef yw awdur y casgliad barddoniaeth At Least This I Know (404 Ink, 2022) a'r nofel How We Named the Stars (Saraband / Contraband, 2024). Mae ef wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Kavya, Gwobr Morley Lit, Gwobr Mo Siewcharran a Llyfr Barddoniaeth y Flwyddyn Cymdeithas Saltire. Yn 2024, cafodd ei ddewis yn un o 10 nofelydd cyntaf gorau The Observer.

Darllenydd Gwadd

Lola Olufemi (Digidol)

Mae Dr. Lola Olufemi yn awdur ffeministaidd du ac ymchwilydd Sefydliad Stuart Hall. Yn wreiddiol o Lundain, mae hi bellach yn gweithio o fewn Canolfan Ymchwil ac Addysg Celf a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Westminster. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddefnyddiau y dychymyg gwleidyddol a'i berthynas â chynhyrchiant diwylliannol, gofynion gwleidyddol a’r dyfodol. Hi yw awdur Feminism Interrupted: Disrupting Power (Pluto Press, 2020), Experiments in Imagining Otherwise (Hajar Press, 2021) ac yn aelod o 'bare minimum', cydweithfa gelf gwrth-waith ryngddisgyblaethol.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811