Nofelydd, bardd a chyfieithydd yw Meena Kandasamy sy’n byw yn Nwyrain Llundain. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i ganmoliaeth mawr, a thestun The Gypsy Goddess (Atlantic Books, 2014) yw cyflafan 1968 yn Kilvenmani, Tanjore pan laddwyd 44 o ddynion, menywod a phlant am streicio dros gyflogau uwch. Bu i’w hail nofel, gwaith ffuglen-fywgraffiadol, When I Hit You (Atlantic Books, 2018) fenthyg o’i phrofiadau ei hun o fewn priodas gamdriniol, i godi’r llen ar y tawelwch sy’n amgylchynu camdriniaeth domestig a thrais o fewn priodas yn yr India gyfoes. Fe’i dewiswyd fel un o lyfrau’r flwyddyn gan The Guardian, The Observer, Daily Telegraph a’r Financial Times; a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Ffuglen Menywod 2018 a Gwobr Jhalak. Caiff ei thrydedd nofel, Exquisite Cadavers, ei chyhoeddi gan Atlantic Books yn Nhachwedd 2019.
Ffuglen Hunangofiannol (Digidol)
Drwy blethu’r ffin rhwng ffaith a ffuglen, a chyfuno’r ‘go iawn’ a’r ‘dychmygol’, mae ffuglen hunangofiannol yn genre cyfoethog i awduron ei archwilio. Yn ystod y cwrs digidol 6 wythnos o hyd hwn, byddwch yn dysgu beth yn union yw ffuglen hunangofiannol, pa gyfleoedd y mae’n ei gynnig, sut mae’n wahanol i fathau eraill o ysgrifennu hunangofiannol, a’r gwahanol ddulliau o ail-ddychmygu ac ail-greu eich stori.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn edrych ar wahanol ffyrdd o ysgrifennu ffuglen hunangofiannol, ffyrdd o ysgrifennu amdanoch chi eich hunan ac eraill, ystyried sut y gellir strwythuro’ch profiad personol yn naratif cymhellol a llawer mwy. Bydd eich tiwtoriaid, Durre Shahwar a Menna Kandasamy wrth law i’ch tywys drwyddi draw, a bydd darllenydd gwadd yn ymuno â chi ar un o’r wythnosau ar gyfer sesiwn darllenydd gwadd arbennig iawn. Yn ystod pob gweithdy dwy awr, gallwch ddisgwyl ymarferion creadigol i helpu chi wthio eich ysgrifennu i’r lefel nesaf, gan awgrymiadau o lyfrau a thestunau i’w darllen i helpu ehangu eich syniadau a chyfleoedd i drafod gyda’ch chymuned o gyd-awduron. Ar ddiwedd y pum sesiwn grŵp, byddwch hefyd yn cael cyfle i siarad ag un o’ch tiwtoriaid i drafod eich ysgrifennu’n fanwl ac i dderbyn adborth wedi’i deilwra ar eich gwaith.
Byddwch yn gadael y cwrs gyda darn o waith ysgrifenedig sy’n gryfach, mwy o hyder yn eich crefft, a dealltwriaeth gynhwysfawr o’r genre.
Noder: Mae pob amser yn GMT
Strwythur:
Wythnos 1, Dydd Iau 7 Tachwedd
18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno eich hun, cwrdd â phawb a dod i arfer gyda’r dechnoleg.
19.00 – 20.00: Gweithdy cyntaf
20.00 – 20.15 : Egwyl
20.15 – 21.15 : Ail weithdy
21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi, ac ymarfer yn cael ei osod ar gyfer sesiwn yr wythnos nesaf
Wythnos 2, Dydd Iau 14 Tachwedd
18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i sgwrsio gyda’ch cyd-gyfranogwyr yn anffurfiol cyn i’r cwrs ddechrau.
19.00 – 20.00: Trydydd gweithdy
20.00 – 20.15 : Egwyl
20.15 – 21.15 : Pedwerydd gweithdy
21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi, ac ymarfer yn cael ei osod ar gyfer sesiwn yr wythnos nesaf
Wythnos 3, Dydd Iau 21 Tachwedd
18.45-19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i sgwrsio gyda’ch cyd-gyfranogwyr yn anffurfiol cyn i’r cwrs ddechrau.
19.00-20.00: Noson yng nghwmni darllenydd gwadd y cwrs
Wythnos 4, Dydd Iau 28 Tachwedd
18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i sgwrsio gyda’ch cyd-gyfranogwyr yn anffurfiol cyn i’r cwrs ddechrau.
19.00 – 20.00: Trydydd gweithdy
20.00 – 20.15 : Egwyl
20.15 – 21.15 : Pedwerydd gweithdy
21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi, ac ymarfer yn cael ei osod ar gyfer sesiwn yr wythnos nesaf
Wythnos 5, Dydd Iau 5 Rhagfyr
18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i sgwrsio gyda’ch cyd-gyfranogwyr yn anffurfiol cyn i’r cwrs ddechrau.
19.00 – 20.00: Trydydd gweithdy
20.00 – 20.15 : Egwyl
20.15 – 21.15 : Pedwerydd gweithdy
21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi a dathliad o waith eich gilydd. Gwahoddiad gan diwtoriaid i gyflwyno sampl o ysgrifennu cyn eich sesiynau un i un ymhen pythefnos. Bydd amserlen y sesiynau un-i-un yn cael eu rhannu gan aelod o staff Tŷ Newydd.
Wythnos 6, Dydd Iau 11 Ragfyr
10.00 – 15.00 : Cyfle i fynychu sesiwn un i un 30 munud gydag un o’ch tiwtoriaid lle byddwch yn derbyn adborth pwrpasol ar eich ysgrifennu a fydd yn eich helpu i barhau i ddatblygu eich gwaith a meithrin ymarfer creadigol cynaliadwy.
Tiwtoriaid
Meena Kandasamy
Durre Shahwar
Mae Durre Shahwar yn awdur, ymchwilydd ac addysgwr gyda PhD mewn ffuglen hunangofiannol a hunaniaethau deuol. Cafodd ei chynnwys ar y rhestr fer a'i chanmol am Wobr Morley Lit. Durre yw cyd-olygydd nifer o lyfrau; Gathering: Women of Colour on Nature (2024, 404 Ink), Just so you know (2020, Llyfrau Parthian). Derbyniodd Gymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol, gan ymgymryd ag ymchwil ar gyfiawnder hinsawdd a chelf. Mae ei hysgrifennu'n archwilio sut y gall arferion a methodolegau creadigol dad-drefedigaethol greu gofod ar gyfer naratifau ymylol ac mae wedi cael sylw mewn nifer o gyhoeddiadau, preswyliadau ac arddangosfeydd. Hi yw Dirprwy Olygydd Wasafiri Magazine. Durreshahwar.com
Darllenydd Gwadd
Darllenydd Gwadd
Bydd y darllenydd gwadd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.