Mae Clare Mackintosh wedi gwerthu dros 2 filiwn o gopïau o’i llyfrau ledled y byd, wedi cyrraedd brig y rhestrau gwerthu ac wedi ennill sawl gwobr, a hi yw awdur I Let You Go (Little Brown, 2015), a gyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times a’r New York Times, a’r llyfr gan awdur trosedd newydd a werthodd gyflymaf yn 2015. Fe enillodd Nofel Trosedd y Flwyddyn Theakston Old Peculier yn 2016 hefyd. Cyrhaeddodd ail a thrydedd nofel Clare, I See You (Little Brown, 2017) a Let Me Lie (Little Brown, 2018), frig rhestrau gwerthiant y Sunday Times. Cafodd ei thair nofel gyffro gyntaf eu dewis ar gyfer Clwb Llyfrau Richard & Judy, a gyda’i gilydd maen nhw wedi’u cyfieithu i dros ddeugain o ieithoedd. Cafodd After the End (Little Brown, 2019) ei chyhoeddi yn 2019 a chyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times ar unwaith, ac yn 2021 saethodd Hostage (Little Brown, 2021) i’r deg uchaf. Mae ei chyfres drosedd newydd, sy’n cynnwys y ditectif o Gymru DC Ffion Morgan, wedi derbyn canmoliaeth feirniadol, gyda The Last Party (Little Brown, 2023) ac A Game of Lies (Little Brown, 2023) yn cyrraedd rhestr deg uchaf y Sunday Times. Gyda’i gilydd, mae ei llyfrau wedi treulio dros 65 o wythnosau yn rhestrau goreuon gwerthiant y Sunday Times. Mae Clare yn byw yn y gogledd gyda’i theulu.
Y Busnes o Ysgrifennu: Creu sylfeini cryf i gefnogi eich gyrfa fel awdur
Yn ystod yr encil wythnos hon, bydd yr awdur arobryn, Clare Mackintosh, yn ymdrin â phopeth sy’n ymwneud â’r busnes o ysgrifennu ac adeiladu gyrfa awdur lewyrchus. Bydd hon yn daith gynhwysfawr y tu ôl i’r llen i weld sut mae gyrfa awdur proffesiynol yn cael ei ffurfio, ei datblygu a’i chynnal. O drafod yr hyn y gall asiant llenyddol ei wneud i chi, i egluro’r gwahanol lwybrau cyhoeddi posibl, i’ch helpu i sefydlu arfer ysgrifennu creadigol da, i’ch cefnogi i adeiladu eich brand a’ch platfform fel awdur, i nodi’ch cynulleidfa darged a niche, i hunan-olygu eich gwaith, i drafod strategaethau lansio llyfrau, i enwi ond rhai o’r pynciau fydd y cwrs yn canolbwyntio arnynt. Mae’r encil hwn wedi’i gynllunio i roi hwb creadigol i chi, yn ogystal â’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i adeiladu gyrfa hir a llwyddiannus i chi’ch hun.
Gallwch ddisgwyl gweithdai grŵp bywiog ac addysgiadol gyda Clare, tiwtorialau 30 munud lle bydd eich gwaith a’ch amcanion personol yn cael eu trafod yn fanwl, sesiynau gyda gweithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant, a chyfle gwerthfawr i adeiladu cymuned o gyd-awduron wrth i chi rwydweithio gyda gweddill mynychwyr yr encil. P’un ai ydych chi’n cychwyn arni, neu’n awdur mwy profiadol, byddwch yn gadael yr wythnos gyda sylfeini cryf, gydol oes i gefnogi eich syniadau, eich uchelgeisiau a’ch gyrfa.
Tiwtor
Clare Mackintosh
Darllenydd Gwadd
Darllenydd Gwadd
Bydd y darllenydd gwadd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.