Tŷ Newydd is a magical place of words and friendships, the sound of the sea and the sight of blooming flowers. You can look down the garden, through the hole in the hedge and see the billowing sea, or else the next line of a poem, hanging there, waiting to be picked.
Encil Di-diwtor yr hydref
Dyma gyfle i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd i noddfa greadigol – i’r lleoliad heddychlon hwnnw lle gallwch fynd i orffen ysgrifennu eich nofel, neu darllen a synfyfyrio efallai? Bydd ein hencilion, o fewn awyrgylch prydferth Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd, yn cynnig y ddihangfa berffaith i chi. Gallwch fynd am dro ar hyd y Lôn Goed, cerdded i’r traeth i chwilio am ysbrydoliaeth, a rhannu syniadau dros swper gyda’ch cyd-letywyr. Bydd pawb â’i ystafell ei hun – a bydd prydau bwyd cartref yn cael eu paratoi ar eich cyfer.
Am flas o goginio Tony (ein cogydd preswyl) cliciwch yma.
Mae ein encilion, sydd wedi eu harlwyo yn llawn, hefyd yn rhoi amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio. Wedi’i leoli mewn lleoliad heddychlon yn amgylchedd godidog gogledd-orllewin Cymru, cewch eich ysbrydoli gan y golygfeydd godidog o’r môr dros Fae Ceredigion, rhannu syniadau dros swper neu gymryd hoe ac ymlacio yn llyfrgell glyd Tŷ Newydd.
Mae’r encil hwn yn rhan o’n cyfres o encilion tymhorol di-diwtor sy’n cael eu cynnal yn ystod gwanwyn, haf a hydref 2025. Bydd awduron sy’n archebu lle ar ddau encil di-diwtor yn elwa o ostyngiad o 15% tra bydd awduron sy’n archebu lle ar y tri yn elwa o ostyngiad o 30% ar eu harcheb. I fanteisio ar y gostyngiad hwn, ychwanegwch ddau neu fwy o encilion di-diwtor i’ch basged ac ychwanegwch y cod, ‘2encil’ os yn archebu dau, neu ‘3encil’ os yn archebu tri, wrth dalu.