Bwyty Unnos mis Mawrth
Gwe 19 Chwefror 2016 / Digwyddiadau /
Ysgrifennwyd gan
Leusa
Mae’n bleser gennym gyhoeddi fod Bwyty Unnos Tŷ Newydd yn dychwelyd ym mis Mawrth, ar ôl arbrawf hynod lwyddiannus y bwyty cyntaf ym mis Ionawr.
Felly rhowch nodyn yn eich dyddiadur ar gyfer nos Sadwrn 19 Mawrth, 7.30pm. Y gost fydd £25 am dri pryd, a cewch ddod â’ch diod eich hun.
Yn ein diddanu rhwng y prydau bwyd blasus a gaiff eu paratoi gan ein cogydd preswyl, Tony Cannon, y bydd y bardd a’r gantores amryddawn Gwyneth Glyn.
Does ond lle i 20 o amgylch y bwrdd, felly archebwch eich lle yn fuan!