Mae Melanie Dixon yn awdur arobryn o lên micro a straeon byrion. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi a’i gynnwys mewn sawl blodeugerdd ar raddfa ryngwladol gan gynnwys yn Flash Frontier, Flash Flood, Best Small Fictions a Best Microfiction. Mae ganddi radd meistr mewn ysgrifennu creadigol o Brifysgol Auckland, yn ogystal â graddau mewn gwyddoniaeth o Brifysgol Efrog a Phrifysgol Rhydychen. Yn ddiweddar mae Melanie wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf i bobl ifanc, New Dawning, Rhan 1 o gyfres The Edge of Light (One Tree House, 2022). Yn ddiweddar hefyd, enillodd y nofel hon Wobr Llyfr Nodedig Storylines 2023. Melanie yw Cyfarwyddwr presennol sefydliad Hagley Writers yn Christchurch. Mae hi hefyd yn diwtor ym Mhrifysgol Caergaint ac yn y Write On School for Young Writers. Yn wreiddiol o Aberystwyth, ac wedi cael ei haddysg yn Abertawe a Bangor, mae Melanie bellach yn byw yn Seland Newydd. Pan nad yw hi'n ysgrifennu, gallwch ddod o hyd iddi yn beicio neu'n rhedeg ar y Port Hills neu'n cynllunio ei hantur nesaf.
Gweithdy Llên Micro
6.00 – 7.30 pm
Ymunwch â Melanie Dixon am weithdy digidol yn archwilio llên micro. Dysgwch elfennau’r hyn sy’n gwneud darn o ffuglen fflach effeithiol, gan edrych ar blot, cymeriadu a dewisiadau geiriau sy’n gogwyddo tuag at y barddonol. Byddwch yn astudio esiamplau o lên ficro sydd wedi ennill gwobrau, gyda llawer ohonynt wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau llenyddol uchel eu parch. Bydd cyfle i drafod pam fod y darnau hyn yn gweithio, ac archwilio ymarferion ysgrifennu amrywiol er mwyn i chi roi cynnig ar y ffurf eich hunain. Bydd cyfle i rannu rhywfaint o’ch gwaith, trafod eich syniadau, ac i ofyn cwestiynau. Yn dilyn y gweithdy, darperir adnoddau gyda’r gweithdy hwn i ymestyn eich astudiaeth, eich helpu gydag ysgrifennu pellach, a’ch cyfeirio at gyfleoedd cyhoeddi yn y ffurf hon.