Mae Tegwen Bruce-Deans yn gweithio fel ymchwilydd i BBC Radio Cymru, wedi iddi raddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn 2022. Wedi’i geni yn Llundain a’i magu yng nghefngwlad Maesyfed, mae gan Tegwen angerdd dros lenyddiaeth Gymraeg ers yn ifanc. Mae hi’n fardd â’i phryd ar wyrdroi traddodiadau a disgwyliadau, ac yn ysgrifennu’n aml ar themâu ffeministaidd. Cyhoeddwyd ei chyfrol Gwawrio ym Mehefin 2023 gan Gyhoeddiadau Barddas, wythnosau yn unig wedi iddi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2023 gyda rhai o’r cerddi. Dyma ei chyfrol cyntaf o farddoniaeth, sy’n crisialu’r profiad o fyw trwy ddryswch eich ugeiniau cynnar ynghanol pandemig byd eang.
Ysgrifennu dy gyfrol gyntaf o farddoniaeth: Drafftio, golygu, cyhoeddi
6.00 – 7.30 pm
Gall rhoi casgliad o farddoniaeth at ei gilydd am y tro cyntaf fod yn frawychus ac yn fwy aml na pheidio, mae hi’n anodd gwybod ble a sut i ddechrau. Ymunwch â Tegwen Bruce-Deans wrth iddi eich arwain drwy’r broses, o’r syniad cychwynnol hyd at y cyhoeddi. Byddwch yn dysgu sut i strwythuro’ch cerddi mewn i gasgliad gydlynol, sut i fynd ati i olygu ac adolygu’ch gwaith â llygaid ffres a sut i ysgogi eich hun i fentro rhannu eich gwaith ag eraill. Bydd y gweithdy digidol hwn yn cynnwys ymarferion ysgrifennu creadigol gyda’r nod o helpu i chi ddeall y gwahanol gysylltiadau thematig a’r prif negeseuon o fewn eich gwaith, ynghyd â thrafodaethau grŵp a darlleniadau. Os ydych chi am gymryd y cam nesaf gyda’ch barddoniaeth, neu’n chwilfrydig am y broses greu a chyhoeddi, dyma’r sesiwn i chi.
Yn dilyn y gweithdy, darperir adnoddau gyda’r gweithdy hwn i ymestyn eich astudiaeth, eich helpu gydag ysgrifennu pellach, a’ch cyfeirio at gyfleoedd cyhoeddi yn y ffurf hon.