Cerddor, cyfansoddwr, trefnydd, aml-offerynnwr a chynhyrchydd recordiau o Gymru yw Carwyn Ellis. Mae’n cael ei adnabod fel prif leisydd y band amgen Colorama, fel aelod o The Pretenders ac fel un sydd wedi cydweithio'n aml ag Edwyn Collins. Yn 2019, cychwynnodd ar ei brosiect unigol cyntaf o dan ei enw ei hun, Carwyn Ellis & Rio 18. Prosiect cydweithredol a genir yn Gymraeg ac a recordiwyd yn bennaf yn Rio de Janeiro. Cafodd eu halbwm cyntaf, Joia! ei enwebu ar gyfer y Welsh Music Prize. Aeth Carwyn Ellis: Ar Y Cei Yn Rio, ffilm ddogfen ynglyn â recordio'r albwm, ymlaen i ennill gwobr y Ffilm Fer Orau yn y Gymraeg yng Ngŵyl Ddogfennol Ryngwladol Cymru. Rhyddhawyd albwm diweddaraf Rio 18 Yn Rio, sy’n cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ar 22 Hydref 2021, wedi’i pherfformio’n fyw yn wreiddiol a’i darlledu ym mis Mawrth 2021 ar BBC Radio Cymru a BBC Radio 6 Music.
Penwythnos Ysgrifennu Caneuon
Ymunwch â’r cantorion-gyfansoddwyr Carwyn Ellis a Georgia Ruth mewn penwythnos o gyfansoddi, cerddoriaeth, barddoniaeth a rhythm. Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael eich annog i ystyried cerddoroldeb geiriau, a’r synhwyrau sy’n cael eu hysgogi mewn alaw wrth i chi weithio tuag at greu darn gorffenedig a fydd yn cyffroi, yn herio, ac yn cynhyrfu eich cynulleidfa. Mewn amgylchedd cefnogol, rhyngweithiol ac ymlaciol, bydd y tiwtoriaid yn eich helpu i ysgrifennu geiriau arwyddocaol a nodi’r alaw gywir i’w cario.
Os ydych chi eisoes yn ganwr-gyfansoddwr sy’n dymuno rhoi albwm at ei gilydd, yn awdur sy’n chwilio am allfa greadigol newydd, neu’n gerddor sy’n awyddus i ysgrifennu eich geiriau eich hunan, mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi.
Bydd y penwythnos yn cynnwys gweithdai grŵp, tiwtorialau un-i-un, a chyfleoedd i wrando a pherfformio mewn lleoliad ysgogol a chyfeillgar. Lle bo modd, anogir cerddorion i ddod â’u hofferynnau gyda nhw. Ar gyfer awduron sydd heb brofiad cerddorol, mae’r wythnos hon wedi’i chynllunio i’ch galluogi i gyfranogi’n llawn.
Cwrs dwyieithog yw hwn, a bydd y tiwtoriaid wrth law i gefnogi siaradwyr Cymraeg a Saesneg.
Tiwtoriaid
Carwyn Ellis
Georgia Ruth
Cyfansoddwraig o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Gan ddefnyddio dylanwadau gwerin i greu sain cwbl unigryw, enillodd ei halbwm gyntaf Week of Pines y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013, a chafodd ei henwebu am ddwy Wobr Werin BBC Radio 2. Ers hynny, mae wedi rhyddhau dwy albwm arall ac EP, wedi gweithio gyda’r Manic Street Preachers, ac yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru, lle mae’n cyflwyno rhaglen wythnosol sy’n dathlu cyfuniad o gerddoriaeth ryngwladol ac o Gymru.