Fi sydd Llun: Sawl addewid blwyddyn newydd y bydda i wedi ei dorri erbyn dydd Gwener tybed?
Fi dydd Gwener: pob un.
Fi dydd Llun: Yn gyntaf rwyf wedi gwneud addewid i geisio cadw’r ffordd fach a’r llwybrau o amgylch Tŷ Newydd yn dwt a thaclus. Mae tywydd y misoedd diwethaf wedi chwythu pob brigyn a deilen sydd yn y cyffiniau i’n hiard gefn ni mae’n debyg – “Dewch – mi chwythwn yn un haid i Dŷ Newydd, mi gawn lonydd i gael parti mwya’r ganrif yno!” mi ei clywaf i nhw’n chwerthin. Ond “o na chewch chi ddim” medde finnau’r mis hwn.
Fi dydd Gwener: Ond mae hi’n tywyllu’n fuan, a dydi hi ddim wedi stopio bwrw glaw ers deufis a hanner, ac mae pyncjar yn y ferfa…
Fi dydd Llun: Addewid arall yw bwyta yn iachach wrth gwrs. Llai o siwgr, llai o fara, llai o fwyta yn ddidrugaredd bob awr o bob diwrnod. Ar ôl sesiwn egnïol o glirio ddiwedd Medi mi ddois o hyd i ardd berlysiau gudd dan bentwr maint mynydd o ddail crin. Ro’n i’n teimlo fel Hiram Bingham pan ddaeth o hyd i Machu Picchu – yr ardd goll! Dwi’n dal i synnu gyda’r pethau anhygoel dwi’n dod o hyd iddyn nhw yng nghilfachau Tŷ Newydd. Mi aeth fy meddwl ar ras yn dychmygu’r holl brydau anhygoel y gallwn i roi’r perlysiau ynddynt.
Fi dydd Gwener: Ond nid ar berlysiau yn unig y bydd byw dyn. Ac mae Tony y cogydd yn mynnu profi gwerth prynu’r magic mixer newydd drwy bobi cacennau a bisgedi dragwyddol i ni…
Fi dydd Llun: Fe wn i, beth am fis di-alcohol!
Fi erbyn nos Llun: Hmm ddim yn siŵr am hynny chwaith.
Felly yn anffodus ni all Tŷ Newydd eich helpu ryw lawer gydag addunedau’r flwyddyn newydd. Heblaw un efallai – ysgrifennu. Boed hynny’n gychwyn ysgrifennu, dal ati i ysgrifennu, gorffen ysgrifennu eich nofel, neu’n ail-gydio yn eich ysgrifennu. Rhowch gynnig arni eleni, archebwch le ar gwrs, a daliwch ati!