Ddechrau’r mis hwn, daeth Erin Hughes draw i Dŷ Newydd ar gyfer Cwrs Olwen – cwrs penwythnos i enillwyr cystadlaethau llenyddol Eisteddfod yr Urdd, dan ofal y tiwtoriaid Grug Muse a Llŷr Titus. Roedd y penwythnos yn un i’w gofio, yn llawn ysgrifennu, cwmni da a digonedd o hwyl.
Mae’n rhaid imi ddweud ar y dechrau fel hyn nad oeddwn i’n teimlo’n gwbl gyffyrddus ynglŷn â mynd i Dŷ Newydd ddechrau Rhagfyr. Ro’n i’n reit nerfus ac yn poeni na fyddai’r hyn oedd yn cael ei gynnig yn fy siwtio, oherwydd doeddwn i erioed wedi bod mewn gweithdy cyn hynny – dim ond am ryw ddwy awr yn ôl yn 2018 ar ôl ennill y Goron, ond roeddwn i’n rhy wael i gwblhau’r cwrs bryd hynny. Er mod i wedi cyhoeddi fy ngwaith yn y gorffennol, roedd y grefft yn parhau i fod yn rhywbeth personol iawn imi, ac roedd gen i barchedig ofn – ond mwy o bwyslais ar yr ofn! – o feddwl yn greadigol mewn criw ehangach o bobl.
Ond mi alla i ddweud rŵan, ar ôl bod, mai dyma un o benwythnosau mwyaf defnyddiol a bendithiol fy mywyd. Roedd meddwl am adael Tŷ Newydd ar y dydd Sul yn gwneud imi fod isio crio, a dim gor-ddweud ydi hynny. Ro’n i’n dal fy hun yn meddwl yn aml am ba mor ffodus ro’n i i fod wedi glanio ynghanol criw o bobl oedd ar yr un donfedd â fi fy hun, a phob un mor wylaidd a charedig â’r nesaf. Mi dreuliais i’r penwythnos yn chwerthin nes mod i’n sâl ac yn dysgu cymaint nes bod fy mhen i’n brifo. Roedd Grug a Llŷr yn eithriadol o dda efo ni i gyd, ac ôl yr ymchwil mor amlwg ar yr ymarferion roedden nhw’n eu cynnal efo ni. Doeddwn i ddim wedi sgwennu ers o leiaf naw mis cyn mynd i Dŷ Newydd, ond rywsut, mi lwyddodd y ddau i agor rhywbeth tu mewn imi ac mi ddechreuodd y geiriau lifo fel afon. Roedd hynny’n deimlad hyfryd a dwi’n diolch o waelod calon iddyn nhw.
Eto, dwi’n pwysleisio pa mor ffodus ro’n i’n teimlo tra ro’n i yno, ond dydi’r teimlad hwnnw heb bylu ar ôl gadael, chwaith. Mae’r cwrs yma mor, mor werthfawr – mae Leusa, Miriam (x2!), Tony a phawb yn Nhŷ Newydd yn gwyro bob ffordd i sicrhau bod y gofod maen nhw’n ei gynnig mor ddiogel a chysurlon a bo modd, ac maen nhw wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o fireinio’r profiad o fod yno. Mae’n ddrwg gen i, ond alla i ddim cynnig unrhyw awgrym o wellhad – roedd y profiad yn ddiguro.