Pleser i Llenyddiaeth Cymru oedd cael noddi cystadleuaeth ysgrifennu creadigol Celfyddydau Anabledd Cymru eleni drwy gynnig taleb o £200 i’w wario ar unrhyw gwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fel y brif wobr.
Mae’r gystadleuaeth yn cynnig llwyfan i weithiau celf a llenyddiaeth wedi eu creu gan unigolion sydd ag anableddau yng Nghymru. Y dasg eleni oedd ysgrifennu darn creadigol ar unrhyw ffurf, boed yn farddoniaeth, rhyddiaith, geiriau caneuon, neu unrhyw ffurf llenyddol arall ar y thema Tu Mewn / Tu Allan.
Mewn seremoni ddigidol ar nos Wener 3 Gorffennaf, cyhoeddwyd mai enillydd y wobr oedd Kittie Belltree. Cyhoeddodd Kittie ei chasgliad cyntaf o gerddi, Sliced Tongue and Pearl Cufflings, gan Parthian yn 2009. Mae ei cherddi a’i hadolygiadau wedi eu cyhoeddi’n eang a’i darn o ffuglen fer wedi’i osod mewn blodeugerdd o’r enw Cut on the Bias (Honno, 2010). Mae hi’n gweithio fel Tiwtor Arbenigol ar gyfer myfyrwyr niwro-amrywiol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi hefyd yn gweithio tuag at gwblhau Doethuriaeth ar farddoniaeth a thrawma.
Ysgrifennodd Kittie’r gerdd ‘Coup-19’ fel ymateb i’r datganiad sy’n ffurfio epigraff y gerdd, sy’n nodi fod raid i’r synnwyr o ofn gynyddu ymysg y cyhoedd – ynghyd â’r ymdeimlad o feirniadu’r hyn sy’n gywir neu’n anghywir yn gymdeithasol – er mwyn i bawb gychwyn cydymffurfio’n well â’r canllawiau swyddogol. Yn ôl Kittie, “Mae’n anodd gweld sut y gellid dadansoddi’r datganiad hwn fel unrhyw beth heblaw ymosodiad seicolegol ar unigolion a chymunedau. Mae’r prawf o hyn i’w weld yn glir yn y nifer cynyddol o achosion o salwch meddwl.”
Cewch ddarllen y gerdd yn ei chyfanrwydd ynghyd â mwy o’r cerddi a gynigwyd ar gyfer y wobr yma: https://www.flipsnack.com/dacartprize/outdoors-indoors-creative-word-award.html
Edrychwn ymlaen i gael croesawu Kittie i Dŷ Newydd yn fuan, llongyfarchiadau mawr iddi hi a’r beirdd i gyd.